Baglor Israddedig
Rheoliadau Penodol Ar Gyfer Graddau Baglor Israddedig
1. Cyflwyniad
1.1
Caiff Gradd Baglor ag Anrhydedd ei dyfarnu i fyfyriwr sydd wedi dangos:
- Dealltwriaeth systematig o agweddau allweddol eu maes astudio, gan gynnwys caffael gwybodaeth gydlynol a manwl, gyda rhai ohoni, o leiaf, ar flaen y gad o ran agweddau diffiniedig ar y ddisgyblaeth, neu wedi'i goleuo gan waith ar flaen y gad;
- Y gallu i roi technegau dadansoddi ac ymchwilio sefydledig o fewn disgyblaeth ar waith yn gywir;
- Dealltwriaeth gysyniadol sy'n galluogi'r myfyriwr:
- I lunio a chynnal dadleuon, a/neu i ddatrys problemau, gan ddefnyddio syniadau a thechnegau, rhai ohonynt ar flaen y gad o fewn y ddisgyblaeth;
- I ddisgrifio a chynnig sylwadau ar agweddau penodol ar ymchwil cyfredol, neu ysgolheictod uwch cyfatebol, o fewn y ddisgyblaeth.
- Dealltwriaeth o ansicrwydd, amwysedd a therfynau gwybodaeth;
- Y gallu i reoli ei ddysgu ei hun, a defnyddio adolygiadau ysgolheigaidd a ffynonellau gwreiddiol (er enghraifft erthyglau wedi'u cymedroli a/neu ddefnyddiau gwreiddiol perthnasol i'r ddisgyblaeth).
Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y pethau canlynol:
- Cymhwyso'r dulliau a'r technegau y maent wedi'u dysgu i adolygu, atgyfnerthu, estyn a chymhwyso eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, a chychwyn a gweithredu prosiectau;
- Gwerthuso dadleuon, tybiaethau, cysyniadau haniaethol a data (a all fod yn anghyflawn) yn feirniadol, dod i farn, a fframio cwestiynau priodol i ganfod datrysiad - neu ystod o ddatrysiadau - i broblem;
- Cyfleu gwybodaeth, syniadau a datrysiadau i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg.
A bydd gan y deiliaid:
- Y nodweddion a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy'n gofyn am:
- Defnyddio menter a chyfrifoldeb personol;
- Gwneud penderfyniadau mewn cyd-destunau cymhleth nad oes modd eu rhagweld;
- Y gallu angenrheidiol i ddysgu er mwyn ymgymryd â rhagor o hyfforddiant o natur broffesiynol neu gyfatebol.
2. Strwythur y Rhaglen
2.1
Fel arfer, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr amser llawn astudio am 120 o gredydau, neu’r nifer cyfatebol derbyniol, mewn un flwyddyn.
2.2
Llunnir strwythur y rhaglen ar sail y pwyntiau canlynol:
Anrhydedd Sengl
O leiaf 100 credyd mewn modiwlau a ddynodwyd fel cydrannau’r rhaglen gradd enwebedig neu fodiwlau mewn disgyblaethau perthynol ar bob lefel.
Cydanrhydedd
O leiaf 50 credyd a dim mwy na 70 credyd ym mhob pwnc Anrhydedd arfaethedig ar bob lefel.
Anrhydedd Prif Bwnc/Pwnc Atodol
Prif Bwnc - o leiaf 80 credyd ond dim mwy na 90 credyd yn y prif bwnc ar bob lefel.
Pwnc Atodol - o leiaf 30 credyd ond dim mwy na 40 credyd yn y pwnc atodol ar bob lefel.
Anrhydedd Cyfun
O leiaf 30 credyd ym mhob un o dri phwnc ar bob lefel yn y rhaglen gyda gweddill y modiwlau wedi eu cyfyngu i’r tri phwnc hwnnw fel y’u diffiniwyd gan gydlynydd y rhaglen.
2.3 Prentisiaethau
Mae natur darpariaeth Prentisiaethau'n caniatáu amrywiaeth o strwythurau a dulliau addysgu gwahanol. Cyhoeddir manylion llawn y modiwlau a'r dull addysgu yn llawlyfr y rhaglen.
3. Ymarfer Diwydiannol/Lleoliad Gwaith/Lleoliadau Rhyngosodol/Cyfnodau Astudio Dramor/Dysgu ar Sail Gwaith
3.1
Os bydd rhaglen gradd yn cynnwys arfer diwydiannol annatod a gorfodol a/neu leoliad rhyngosodol, rhaid i’r lleoliad fod â phwysiad credyd.
3.2
Cynyddir isafswm nifer y credydau sydd eu hangen am gymhwyster os bydd y lleoliad yn ymestyn hyd y rhaglen gradd. Pennir pwysiad credyd a lefel y lleoliad yn yr un modd ag ar gyfer modiwl a ddysgir. Rhaid i faes llafur unrhyw raglen gradd sydd yn cynnwys lleoliad, boed yn llwyr neu yn rhannol, osod nodau, deilliannau dysgu a dull asesu’r lleoliad.
3.3
Pennir dosbarth ymgeiswyr sydd yn dilyn rhaglen sy’n cynnwys Arfer Diwydiannol, Lleoliadau Rhyngosodol neu Gyfnod Astudio Tramor yn unol â’r confensiynau a amlinellir yn y Neilltuir marciau i ymgeiswyr ar Lefel S, ond ni neilltuir marciau ar gyfer Lefel E.
3.4
Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion y Brifysgol o ran bwrw ymlaen i, ac o, Lefel S a Lefel E, fel yr amlinellir yn y Rheoliadau Asesu.
3.5
Gall y Cyfadrannau/Ysgolion bennu rheoliadau llymach na rheoliadau cynnydd arferol y Brifysgol, ar yr amod eu bod wedi eu hargraffu yn glir yn llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
3.6
Rhaid dilyn y lleoliad diwydiannol (Lefel E) neu’r flwyddyn ryngosodol (Lefel S) cyn y flwyddyn astudio olaf, a bydd hyn yn digwydd fel rheol yn ystod blwyddyn astudio olaf ond un yr ymgeiswyr.
3.7
Mae prentisiaethau'n cyfuno astudio mewn Prifysgol â dysgu yn y gweithle i alluogi prentisiaid cyflogedig i ennill gradd academaidd lawn. Disgwylir i'r graddau hyn gael eu cynllunio drwy ymgynghori â chyflogwyr i sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion y cyflogwyr. Yng Nghymru, ariennir Prentisiaethau'n uniongyrchol gan CCAUC. Os nad yw myfyriwr prentisiaeth yn gallu cwblhau ei raglen, neu os na chaniateir iddo/iddi wneud hynny, gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd ar y lefelau priodol adeg gadael, gall gymhwyso am ddyfarniad ymadael, e.e. Gradd Sylfaen neu Dystysgrif Addysg Uwch.
4. Trosglwyddo Credyd
4.1
Tynnir sylw myfyrwyr at y Rheoliadau Cyffredinol ar gyfer Israddedigion - Trosglwyddo Credydau (Rheoliad 29).
4.2
Ni fydd uchafswm y credydau y gellir ei dderbyn i gyfrif tuag at radd gychwynnol:
- Fod yn fwy na 240 (h.y. rhaid i ymgeiswyr fel rheol astudio o leiaf 120 o gredydau yn Abertawe). Lle derbyniwyd uchafswm y credydau trosglwyddadwy, rhaid i weddill y credydau sy'n cael eu hastudio fod ar Lefel 6 neu uwch; neu
- Uchafswm o 120 o gredydau trwy ddysgu "profiadol" neu ddysgu "tystysgrifedig" (e.e. cymwysterau proffesiynol).
5. Rheoliadau Asesu
5.1
Caiff cynnydd ymgeisydd ei asesu fel rheol naill ai yn ystod modiwl a/neu yn y cyfnod yn syth wedi ei gwblhau.
5.2
Bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau’r rhaglen astudio tystysgrif Israddedig yn unol â’r rheoliadau ar gyfer dyfarnu credyd fel y’u hamlinellir yn y Rheoliadau Asesu Israddedigion.
5.3
40% fydd marc pasio modiwl ar Lefelau 3, 4, 5, 6 a S.
6. Cymwysterau Ymadael
6.1
Os derbynnir ymgeisydd i raglen gradd baglor israddedig ond na all, neu na chaniateir iddo, wedi hynny fwrw ymlaen i'w chwblhau, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gafwyd ar y lefelau priodol adeg gadael, gall gael cymhwyster ymadael. Ceir manylion am gymwysterau ymadael yn y Rheoliadau Asesu Israddedigion.
7. Terfynau Amser
7.1
Dyma Uchafswm/Isafswm Cyfnodau Ymgeisyddiaeth:
|
Amser Llawn |
Rhan amser |
Modd Mynychu Cymysg |
---|---|---|---|
Isafswm |
3 blynedd am raglen 3 blynedd |
6 blynedd |
4 blynedd am raglen 3 blynedd |
4 blynedd am raglen 4 blynedd |
7 blynedd |
5 blynedd am raglen 4 blynedd |
|
5 blynedd am raglen 5 blynedd |
8 blynedd |
6 blynedd am raglen 5 blynedd |
|
Uchafswm |
5 blynedd am raglen 3 blynedd |
10 mlynedd |
7 blynedd am raglen 3 blynedd |
6 blynedd am raglen 4 blynedd |
10 mlynedd |
8 blynedd am raglen 4 blynedd |
|
6 blynedd am raglen 5 blynedd |
10 mlynedd |
8 blynedd am raglen 5 blynedd |
7.2
Bydd isafswm ac uchafswm cyfnodau cofrestru fel rheol yn fyrrach i fyfyrwyr a dderbynnir gyda throsglwyddiad credyd am astudio a/neu am brofiad blaenorol. Rhoddir isod isafswm ac uchafswm y cyfnodau cofrestru ar gyfer ymgeiswyr a dderbynnir i’r Lefel Astudio olaf ond un (fel arfer Lefel 5):
|
Amser Llawn |
Rhan-amser |
---|---|---|
Isafswm |
2 flynedd |
4 blynedd |
Uchafswm |
4 blynedd |
8 blynedd |
Nodir isafswm ac uchafswm y cyfnod cofrestru ar gyfer ymgeiswyr a dderbynnir i'r Lefel Astudio terfynol/Gradd Atodol (fel arfer Lefel 6) isod:
Amser llawn | Rhan-amser | |
---|---|---|
Isafswm | 1 blwydd | 2 flynedd |
Uchafswm | 2 flynedd | 4 blynedd |
7.3
Ystyrir pob achos arall yn unigol.
8. Bod yn Gymwys i Dderbyn Dyfarniad
8.1
Er mwyn bod yn gymwys i’w hystyried am gymhwyster baglor israddedig Prifysgol Abertawe, dylai ymgeiswyr fynychu a chwblhau modiwlau o fewn uchafswm y cyfnod cofrestru, a bydd y pwysiad credyd fel a ganlyn. Caniateir addasiadau ar gyfer ymgeiswyr y caniateir iddynt ddilyn modiwlau dewisol ar lefel is.
Rhaglen Gradd Anrhydedd Amser Llawn | Credydau i'w dilyn |
---|---|
Pob rhaglen gyda Blwyddyn Sylfaen | 480 o gredydau, gydag isafswm o 120 o gredydau ar Lefel 3, isafswm o 120 o gredydau ar Lefel 4, isafswm o 120 o gredydau ar Lefel 5, ac isafswm o 120 o gredydau ar Lefel 6. |
Graddau Anrhydedd 3 blynedd | 360 o gredydau, gydag isafswm o 120 credyd ar Lefel 4, isafswm o 120 credyd ar Lefel 5, ac isafswm o 120 credyd ar Lefel 6. |
Graddau Anrhydedd 4 Blynedd (gyda blwyddyn ryngosodol, lleoliad gwaith, neu flwyddyn drosiannol) | 480 o gredydau, gydag isafswm o 120 credyd ar Lefel 4, isafswm o 120 credyd ar Lefel 5, ac isafswm o 120 credyd ar Lefel 6.Ar ben hynny, 120 o gredydau ychwanegol ar y lefel ryngosodol (Lefel S) neu leoliad gwaith (Lefel E), neu flwyddyn drosiannol (Lefel T). |
Rhaglen Gradd Gyffredinol* | Credydau i'w dilyn |
Rhaglen BA/BSc 3 blynedd | Isafswm o 300 o gredydau, isafswm o 120 o gredydau ar Lefel 4, isafswm o 120 o gredydau ar Lefel 5, ac isafswm o 60 o gredydau ar Lefel 6. Rhaid i fyfyrwyr sydd yn trosglwyddo o radd Anrhydedd i radd Gyffredin fodloni gofynion credyd Lefel 5 a 6 y radd Gyffredin, a hyn i ddod i rym o ddyddiad y trosglwyddo. |
*Nodyn: Ni fydd Gradd Anrhydeddig ar gael I fyfyrwyr o fis Medi 2018 ymlaen.
9. Derbyn i Radd
9.1
Er mwyn bod yn gymwys i’w hystyried am radd baglor israddedig dan y Rheoliadau hyn, dylai ymgeiswyr fod wedi gwneud y canlynol:
- Dilyn rhaglen astudio fodiwlaidd gymeradwy am y cyfnod a nodir gan y Brifysgol, ac eithrio dan yr amgylchiadau y sonnir amdanynt yn Adran 4;
- Wedi ennill isafswm y credydau a bennir gan y Brifysgol mewn rhaglen a gymeradwyir gan y Brifysgol;
- Wedi bodloni unrhyw amod(au) pellach a fynnir gan y Brifysgol.
9.2
Cyhoeddir enwau’r ymgeiswyr am radd Anrhydedd a gyflawnodd ofynion asesu’r rhaglen a’r Brifysgol yn y dosbarthau Anrhydedd a ganlyn:
- Cyntaf;
- Ail Ddosbarth Rhan Un;
- Ail Ddosbarth Rhan Dau;
- Trydydd Dosbarth;
- Gradd Lwyddo.
10. Graddau Aegrotat
10.1
Gellir rhoi dyfarniad Aegrotat i ymgeisydd nad yw'n gallu parhau i astudio ar y dybiaeth y byddai wedi bodloni'r safon angenrheidiol ar gyfer y dyfarniad, pe gallasai wedi parhau i astudio.
10.2
Gwneir dyfarniad Gradd Aegrotat yn unol â'r Rheoliadau ar gyfer Dyfarnu Graddau, Diplomâu, a Thystysgrifau Aegrotat.
10.3
Ni fydd ymgeiswyr sy'n dilyn rhaglenni proffesiynol mewn gofal iechyd ac sy'n derbyn gradd, diploma neu dystysgrif Aegrotat yn gymwys i gofrestru â chyrff gofal iechyd proffesiynol.
11. Graddau ar ôl Marwolaeth
11.1
Gellir dyfarnu cymhwyster ar ôl marwolaeth i fyfyriwr sydd wedi marw ac sydd wedi cwblhau digon o'i astudiaethau ar gyfer y dyfarniad. Gwneir dyfarniad Gradd ar ôl marwolaeth yn unol â'r Rheoliadau ar gyfer Dyfarniadau Ar Ôl Marwolaeth.