Atodiadau
Atodiadau
Gall pob Cyfadran/Ysgol benderfynu a yw’n mynd i ffurfio un Pwyllgorau Achosion Arbennig y Cyfadran/Ysgol neu gynnal byrddau o’r fath ar lefel pynciau/disgyblaethau.
Crynodeb o’r Canllawiau
- Rhaid i unrhyw fyfyriwr sydd, am ba bynnag reswm, yn gofyn am lwfans/ystyriaeth arbennig mewn perthynas ag asesiad, wneud ei anghenion yn hysbys a bod yn barod i ddangos tystiolaeth ategol briodol. [Egwyddor A1];
- Dylai’r Swyddfa Anabledd graffu ar gyflyrau hirdymor, yn enwedig rhai meddygol, a hynny gan ymgynghori â’r Gyfadran/Ysgol a’r myfyriwr dan sylw, gyda golwg ar lunio cyfundrefn asesu sy’n ymarferol, sy’n diwallu anghenion yr unigolyn ac sy’n dderbyniol i’r holl bartïon. Rhaid i drefniadau gael eu ffurfioli a rhaid i’r holl bartïon lofnodi cytundeb. [Egwyddor A1-6];
- Y Gyfadran/Ysgol dan sylw ddylai ymdrin â phroblemau byrdymor; fodd bynnag, lle y bo’n briodol, efallai y bydd yn dymuno ymgynghori â’r Swyddfa Anabledd. [Egwyddor A7-13];
- Dylai pob Gyfadran/Ysgol sefydlu Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig i ymdrin ag achosion o’r fath. Dylai gwrdd mor aml ag sy’n briodol i wrando achosion ac i gyflwyno argymhellion ynghylch asesu i’r Bwrdd Arholi. Dylai pob Gyfadran/Ysgol hefyd ddynodi aelod o staff i fod yn Swyddog Anabledd y Gyfadran/Ysgol a chychwyn system lle gall gwybodaeth am fyfyrwyr ac arnynt angen darpariaeth arbennig gael ei chofnodi a’i chynnal [Egwyddor A7];
- Dylai Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig pob Gyfadran/Ysgol fabwysiadu’r un gweithdrefnau a defnyddio meini prawf tebyg.
Yn achos myfyrwyr Cydanrhydedd y mae arnynt angen lwfans/ystyriaeth arbennig, dylai Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig y Gyfadran/Ysgol dan sylw ymgynghori i wneud yn siŵr bod y myfyriwr yn cael triniaeth gyson; - Mewn ychydig iawn o achosion arbennig, efallai y bydd yn rhaid i’r Gyfadran/Ysgol fabwysiadu cyfundrefnau asesu unigol, y mae’n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan Gadeirydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol;
- Rhaid osgoi cydadfer dwbl ar gyfer amgylchiadau esgusodol. O ganlyniad, dylid wastad dynodi achosion lle cymerwyd camau cydadfer;
- Mae’r Brifysgol yn cynhyrchu’r canllawiau canlynol y bydd Cyfadrannau/Ysgolion o bosibl yn dymuno cyfeirio atynt:
- ‘Dyslecsia ac Anawsterau Dysgu Penodol: Dogfen ar arfer da gan gynnwys canllawiau marcio’
- ‘Polisi ar Anawsterau Dysgu Penodol (Dyslecsia)’
Mae’r ddwy ddogfen ar gael o’r Swyddfa Anabledd.
MYFYRWYR Y MAE ARNYNT ANGEN DARPARIAETHAU PENODOL A’R BROSES ASESU
Egwyddorion
A1
Cyfrifoldeb y myfyriwr yw hysbysu’r Gyfadran/Ysgol berthnasol ynghylch unrhyw anabledd neu unrhyw amgylchiadau esgusodol, a allai olygu bod angen darpariaeth arbennig ar gyfer asesu. Rhaid i fyfyrwyr fod yn barod i ddangos dogfennaeth briodol i ategu hyn. Dylai eu cais, boed yn deillio o anabledd hirdymor neu amgylchiadau byrdymor, fod wedi’i nodi ar ffurflen arbennig, sy’n gyffredin i’r Brifysgol gyfan, a chael ei ategu, lle y bo’n bosibl, gan dystiolaeth ysgrifenedig.
A2
Yn achos anabledd hirdymor, efallai y bydd y Swyddfa Anabledd yn ymwybodol o unrhyw achosion o’r fath cyn bod y myfyrwyr yn cofrestru yn y Brifysgol. Fodd bynnag, dylai’r llythyr gwreiddiol a anfonir at fyfyrwyr newydd, a llawlyfrau’r Brifysgol a Chyfadrannau/Ysgolion a.y.b., egluro’r angen i gofrestru eu hawliad. Wedyn dylai’r Gyfadran/Ysgol sicrhau bod yr holl fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud hawliad o’r fath yn cael eu dwyn i sylw’r Swyddfa Anabledd.
A3
Ar hyn o bryd mae’r Swyddfa Anabledd yn asesu myfyrwyr â phroblemau hirdymor er mwyn darparu ar gyfer eu hanghenion. Yn y dyfodol, dylai’r asesiad hwn o’u hamgylchiadau gynnwys argymhellion ynghylch mesurau angenrheidiol ar gyfer asesu. Mewn cydweithrediad â’r myfyriwr a’r Gyfadran/Ysgol, bydd y Swyddfa Anabledd yn asesu’r myfyriwr, gan ystyried cyngor meddygol neu gyngor arall priodol. Os rhagwelir anawsterau gydag asesu, bydd y Swyddfa Anabledd yn gwneud argymhellion ar gyfer patrwm o fesurau cydadferol, o ran amser ychwanegol ar gyfer arholiadau, ysgrifenyddion, cymorth cyfrifiadur a.y.b., fel rhan o’r broses asesu arferol ar gyfer y myfyriwr. Rhaid pwysleisio bod rôl cynrychiolydd y Gyfadran/Ysgol mewn ymgyngoriadau o’r fath yn ymwneud nid â gwerthuso’r amgylchiadau, ond yn syml â hysbysu’r Swyddfa Anabledd ynghylch natur yr asesu yn y Gyfadran/Ysgol dan sylw.
A4
Dylai hawlyddion gael datganiad o’r mesurau cydadferol, wedi’i ddyddio’n briodol, a llofnodi datganiad i nodi eu bod yn eu derbyn.
A5
Yn achos anabledd hirdymor, gall fod yn angenrheidiol darparu amrywiaeth o gyfundrefnau ar gyfer achosion penodol, yn seiliedig ar asesiad gan y Swyddfa Anabledd. Ni ddiystyrir y posibilrwydd y gall fod angen mwy nag un sesiwn ar gyfer arholiad, neu y gall fod yn rhaid amserlennu arholiadau mewn ffordd wahanol i fyfyrwyr eraill.
A6
Unwaith y mae’r Swyddfa Anabledd wedi gwneud asesiad ac wedi argymell mesurau cydadferol, efallai na fydd myfyrwyr y caniateir y mesurau hynny iddynt yn cael unrhyw ryddhad na chymorth pellach o ran yr angen asesedig hwn. Bydd gwaith yn cael ei farcio yn unol â chonfensiynau marcio’r Gyfadran/Ysgol. Os honnir bod cyflwr wedi newid, gellir cyflwyno cais i’r Swyddfa Anabledd am asesiad pellach. Fodd bynnag, dylid rhybuddio myfyrwyr nad yw asesiadau o’r fath yn gallu cael eu cymhwyso’n ôl-weithredol i gynyddu lwfansau. Cydnabyddir, wrth gwrs, y gall rhai myfyrwyr â phroblemau hirdymor ddatblygu anawsterau byrdymor hefyd; gellir ymdrin â’r rhain yn unol â Pholisi’r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy’n Effeithio ar Asesiad.
A7
Dylai pob Cyfadran/Ysgol sefydlu Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig.
A8
Bydd cofnodion yn cael eu cymryd o gyfarfodydd Pwyllgorau Amgylchiadau Arbennig.
A9
Bydd Pwyllgorau Amgylchiadau Arbennig yn ymdrin â’r holl geisiadau am driniaeth arbennig:
Cyflyrau hirdymor, sy’n rhai meddygol fel arfer. Mae gan Bwyllgorau Amgylchiadau Arbennig gyfrifoldeb i sicrhau bod y gofrestr o’r myfyrwyr hynny o fewn eu hawdurdodaeth, sydd wedi gofyn am ryddhad ar y sail hon, wedi’i diweddaru. Dylai’r cofnod sydd gan y Gyfadran/Ysgol gyd-fynd â’r cofnodion sydd gan y Swyddfa Anabledd ac a gaiff eu cylchredeg ganddi. Bydd hyn yn ei galluogi i ystyried Egwyddor A6 uchod;
Amgylchiadau byrdymor a thros dro.
A10
Dylai’r Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig ymdrin ag unrhyw geisiadau sy’n ymwneud â gwaith cwrs. Cadeirydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol sy’n ymdrin â cheisiadau arbennig sy’n ymwneud ag arholiadau.
A11
Awgrymir ymdrin â cheisiadau am estyniadau ar yr amser ar gyfer gwaith cwrs (ar ba bynnag ffurf) neu ystyriaethau arbennig eraill, mor agos â phosibl at yr amser y caiff y gwaith ei gyflwyno neu ei gwblhau fel arall. Rhaid i benderfyniadau gael eu cofnodi bob amser.
A12
Lle mae ar Bwyllgor Amgylchiadau Arbennig y Gyfadran/Ysgol angen cyngor pellach i ymdrin â mater sy’n achosi pryder, bydd yn ymgynghori â’r Swyddfa Anabledd.
A13
Bydd y Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig yn cwrdd, fel y bo’n gyfleus, i ymdrin â busnes, ond wastad yn union cyn cynnull Bwrdd Arholiadau’r Gyfadran/Ysgol a bydd yn adrodd wrth y Bwrdd hwnnw ac yn cyflwyno argymhellion iddo. Dylid nodi mai’r pwynt penderfynu terfynol o hyd, lle mae’r Gyfadran/Ysgol yn y cwestiwn, yw ei Fwrdd Arholiadau.
ACHOSION ARBENNIG AC EITHRIADOL:
Rhagwelir mai ychydig o geisiadau fel hyn fydd i’w cael.
Cydnabyddir y bydd achosion, o bryd i’w gilydd, a fydd yn galw am gyfundrefnau asesu unigol iawn, sy’n wahanol yn sylfaenol i’r rhai sydd mewn grym yn gyffredinol yn y Gyfadran/Ysgol (neu Gyfadrannau/Ysgolion) dan sylw. Gallai angen o’r fath ddeillio o achosion hirdymor neu fyrdymor. Dylai addasrwydd unrhyw gyfundrefn asesu gael ei gytuno rhwng y Swyddfa Anabledd a’r Gyfadran/Ysgol (neu Gyfadrannau/Ysgolion) dan sylw, a chael ei chyfeirio at Gadeirydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol wedyn i gael cymeradwyaeth.
Mewn unrhyw achos lle mae’r Swyddfa Anabledd a Chyfadran/Ysgol (neu Cyfadrannau/Ysgolion) yn cael anhawster cytuno ar gyfundrefn asesu, Cadeirydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
ATODIAD 2:
Mae Polisi’r Brifysgol ar Adborth ac Asesu
RHEOLIADAU CYFFREDINOL
Byrddau Dyfarnu
PenderfyniadEglurhad 1af, 2(i), 2(ii), 3ydd, Llwyddo Wedi cwblhau a chael gradd. 1af Atodol Heb gymhwyso ond wedi cael cynnig asesiad atodol heb ei gapio mewn modiwlau penodol. Ni fydd yr ymgeisydd yn cael cynnig y cyfle i ailsefyll unrhyw fodiwlau y gwnaeth fethu ynddynt. Arholiadau Craidd Atodol Heb gymhwyso ond mae’n ofynnol ailsefyll modiwlau craidd y methwyd ynddynt (ymgais olaf) yn ystod cyfnod yr arholiadau atodol. Bydd y marciau a enillir wedi’u capio ar 40% (50% ar Lefel7). Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol Ni fydd ymgeiswyr sy’n cael penderfyniad academaidd sy’n nodi ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod ‘Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn. Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol – Dyfarnu Gradd Gyffredin* Wedi methu â chymhwyso ond wedi cael Gradd Gyffredin. Ni fydd ymgeiswyr yn cael cynnig unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn. Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol – Dyfarnu Diploma Addysg Uwch Wedi methu â chymhwyso ond wedi cael Diploma Addysg Uwch. Ni fydd ymgeiswyr yn cael cynnig unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.[*Nodyn: Ni fydd gradd Gyffredin ar gael I fyfyrwyr o fis Medi 2018 ymlaen].
Byrddau Dilyniant
Penderfyniad | Eglurhad |
---|---|
Cynghorir i dynnu yn ôl |
Wedi methu cwblhau lefel astudio a chynghorir i dynnu yn ôl |
Wedi cwblhau | Wedi cwblhau’r lefel astudio ac yn cael camu ymlaen i’r lefel nesaf. |
Yn parhau (Rhan-amser) | Yn cael parhau â’r lefel astudio. |
Arholiadau Atodol | Wedi methu â chwblhau’r lefel ac mae’n ofynnol ailsefyll yr holl fodiwlau y methwyd ynddynt (wedi’u capio ar Lefelau 5 a 6) |
Craidd Atodol | Wedi methu â chwblhau oherwydd methiant mewn modiwl craidd. Gall ailsefyll methiannau mewn modiwlau Craidd yn unig. |
1af atodol {ar gyfer L5 a 6 (ymgeiswyr nad ydynt ar eu blwyddyn olaf)} | Wedi methu â chwblhau ac mae’n ofynnol ailsefyll modiwlau y methwyd ynddynt. Nid yw’r rhai a nodwyd fel ‘gohiriadau’ wedi’u capio. |
Arholiadau Atodol – Ymgais Olaf | Wedi methu â chwblhau’r lefel ac mae’n ofynnol ailsefyll yr holl fodiwlau y methwyd ynddynt (wedi’u capio ar Lefelau 5 a 6). Ymgais olaf i gwblhau’r lefel fel myfyriwr sy’n ailadrodd lefel/modiwlau. |
Craidd Atodol – Ymgais Olaf | Wedi methu â chwblhau oherwydd methiant mewn modiwl(au) craidd. Gall ailsefyll methiannau mewn modiwlau Craidd yn unig. Ymgais olaf i gwblhau’r lefel fel myfyriwr sy’n ailadrodd lefel/modiwlau. |
Ailadrodd y Lefel | Wedi methu â chwblhau’r lefel ac mae’n ofynnol ailadrodd y lefel yn y sesiwn nesaf. (Gall wneud cais i ailsefyll modiwlau y methwyd ynddynt yn unig fel ymgeisydd mewnol, yn amodol ar feini prawf penodol). |
Ailadrodd Modiwlau | Wedi methu â chwblhau’r lefel ac mae’n ofynnol ailadrodd modiwlau y methwyd ynddynt yn y sesiwn nesaf (Penderfyniad yn gymwys i fyfyrwyr rhan-amser yn unig). |
Ailadrodd 1af | Wedi methu â chwblhau. Mae’n ofynnol sefyll modiwlau y methwyd ynddynt yn y sesiwn nesaf, (gall rhai neu’r cyfan gael eu cymeradwyo fel rhai heb eu capio). Bydd y myfyriwr yn cael cynnig cyfle i ailadrodd y lefel astudio hefyd. |
Yn Cael Ei Dynnu’n Ôl o’r Rhaglen gyda Thystysgrif Addysg Uwch | Wedi methu yn y rhaglen a ddim yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am y methiannau ar y rhaglen gyfredol. Gall wneud cais i drosglwyddo’n fewnol i raglen astudio arall. Dyfarnwyd Cymhwyster Allanol ar ffurf Tystysgrif Addysg Uwch i’w ymgeisydd. |
Wedi’i Dynnu’n Ôl o’r Rhaglen | Wedi methu yn y rhaglen a ddim yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am y methiannau ar y rhaglen gyfredol. Gall wneud cais i drosglwyddo’n fewnol i raglen astudio arall. |
Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol | Ni fydd ymgeiswyr sy’n cael penderfyniad academaidd sy’n nodi ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn. |
Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol – Dyfarnu Diploma Addysg Uwch | Wedi methu â chymhwyso ond wedi cael Diploma Addysg Uwch. Ni fydd ymgeiswyr yn cael cynnig unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn. |
Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol – Dyfarnu Tystysgrif Addysg Uwch | Wedi methu â chymhwyso ond wedi cael Tystysgrif Addysg Uwch. Ni fydd ymgeiswyr yn cael cynnig unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn. |