Atodiadau

ATODIAD 1: Myfyrwyr y mae Arnynt Angen Deparpariaethau Penodol a'r Broses Asesu

Gall pob Cyfadran/Ysgol benderfynu a yw’n mynd i ffurfio un Pwyllgorau Achosion Arbennig y Cyfadran/Ysgol neu gynnal byrddau o’r fath ar lefel pynciau/disgyblaethau.

Crynodeb o’r Canllawiau

  1. Rhaid i unrhyw fyfyriwr sydd, am ba bynnag reswm, yn gofyn am lwfans/ystyriaeth arbennig mewn perthynas ag asesiad, wneud ei anghenion yn hysbys a bod yn barod i ddangos tystiolaeth ategol briodol. [Egwyddor A1];
  2. Dylai’r Swyddfa Anabledd graffu ar gyflyrau hirdymor, yn enwedig rhai meddygol, a hynny gan ymgynghori â’r Gyfadran/Ysgol a’r myfyriwr dan sylw, gyda golwg ar lunio cyfundrefn asesu sy’n ymarferol, sy’n diwallu anghenion yr unigolyn ac sy’n dderbyniol i’r holl bartïon. Rhaid i drefniadau gael eu ffurfioli a rhaid i’r holl bartïon lofnodi cytundeb. [Egwyddor A1-6];
  3. Y Gyfadran/Ysgol dan sylw ddylai ymdrin â phroblemau byrdymor; fodd bynnag, lle y bo’n briodol, efallai y bydd yn dymuno ymgynghori â’r Swyddfa Anabledd. [Egwyddor A7-13];
  4. Dylai pob Gyfadran/Ysgol sefydlu Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig i ymdrin ag achosion o’r fath. Dylai gwrdd mor aml ag sy’n briodol i wrando achosion ac i gyflwyno argymhellion ynghylch asesu i’r Bwrdd Arholi. Dylai pob Gyfadran/Ysgol hefyd ddynodi aelod o staff i fod yn Swyddog Anabledd y Gyfadran/Ysgol a chychwyn system lle gall gwybodaeth am fyfyrwyr ac arnynt angen darpariaeth arbennig gael ei chofnodi a’i chynnal [Egwyddor A7];
  5. Dylai Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig pob Gyfadran/Ysgol fabwysiadu’r un gweithdrefnau a defnyddio meini prawf tebyg.
    Yn achos myfyrwyr Cydanrhydedd y mae arnynt angen lwfans/ystyriaeth arbennig, dylai Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig y Gyfadran/Ysgol dan sylw ymgynghori i wneud yn siŵr bod y myfyriwr yn cael triniaeth gyson;
  6. Mewn ychydig iawn o achosion arbennig, efallai y bydd yn rhaid i’r Gyfadran/Ysgol fabwysiadu cyfundrefnau asesu unigol, y mae’n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan Gadeirydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol;
  7. Rhaid osgoi cydadfer dwbl ar gyfer amgylchiadau esgusodol. O ganlyniad, dylid wastad dynodi achosion lle cymerwyd camau cydadfer;
  8. Mae’r Brifysgol yn cynhyrchu’r canllawiau canlynol y bydd Cyfadrannau/Ysgolion o bosibl yn dymuno cyfeirio atynt:
  • ‘Dyslecsia ac Anawsterau Dysgu Penodol: Dogfen ar arfer da gan gynnwys canllawiau marcio’
  • ‘Polisi ar Anawsterau Dysgu Penodol (Dyslecsia)’

         Mae’r ddwy ddogfen ar gael o’r Swyddfa Anabledd.

MYFYRWYR Y MAE ARNYNT ANGEN DARPARIAETHAU PENODOL A’R BROSES ASESU

Egwyddorion 

A1

Cyfrifoldeb y myfyriwr yw hysbysu’r Gyfadran/Ysgol berthnasol ynghylch unrhyw anabledd neu unrhyw amgylchiadau esgusodol, a allai olygu bod angen darpariaeth arbennig ar gyfer asesu. Rhaid i fyfyrwyr fod yn barod i ddangos dogfennaeth briodol i ategu hyn. Dylai eu cais, boed yn deillio o anabledd hirdymor neu amgylchiadau byrdymor, fod wedi’i nodi ar ffurflen arbennig, sy’n gyffredin i’r Brifysgol gyfan, a chael ei ategu, lle y bo’n bosibl, gan dystiolaeth ysgrifenedig.

A2

Yn achos anabledd hirdymor, efallai y bydd y Swyddfa Anabledd yn ymwybodol o unrhyw achosion o’r fath cyn bod y myfyrwyr yn cofrestru yn y Brifysgol. Fodd bynnag, dylai’r llythyr gwreiddiol a anfonir at fyfyrwyr newydd, a llawlyfrau’r Brifysgol a Chyfadrannau/Ysgolion a.y.b., egluro’r angen i gofrestru eu hawliad. Wedyn dylai’r Gyfadran/Ysgol sicrhau bod yr holl fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud hawliad o’r fath yn cael eu dwyn i sylw’r Swyddfa Anabledd.

A3

Ar hyn o bryd mae’r Swyddfa Anabledd yn asesu myfyrwyr â phroblemau hirdymor er mwyn darparu ar gyfer eu hanghenion. Yn y dyfodol, dylai’r asesiad hwn o’u hamgylchiadau gynnwys argymhellion ynghylch mesurau angenrheidiol ar gyfer asesu. Mewn cydweithrediad â’r myfyriwr a’r Gyfadran/Ysgol, bydd y Swyddfa Anabledd yn asesu’r myfyriwr, gan ystyried cyngor meddygol neu gyngor arall priodol. Os rhagwelir anawsterau gydag asesu, bydd y Swyddfa Anabledd yn gwneud argymhellion ar gyfer patrwm o fesurau cydadferol, o ran amser ychwanegol ar gyfer arholiadau, ysgrifenyddion, cymorth cyfrifiadur a.y.b., fel rhan o’r broses asesu arferol ar gyfer y myfyriwr. Rhaid pwysleisio bod rôl cynrychiolydd y Gyfadran/Ysgol mewn ymgyngoriadau o’r fath yn ymwneud nid â gwerthuso’r amgylchiadau, ond yn syml â hysbysu’r Swyddfa Anabledd ynghylch natur yr asesu yn y Gyfadran/Ysgol dan sylw.

A4

Dylai hawlyddion gael datganiad o’r mesurau cydadferol, wedi’i ddyddio’n briodol, a llofnodi datganiad i nodi eu bod yn eu derbyn.

A5

Yn achos anabledd hirdymor, gall fod yn angenrheidiol darparu amrywiaeth o gyfundrefnau ar gyfer achosion penodol, yn seiliedig ar asesiad gan y Swyddfa Anabledd. Ni ddiystyrir y posibilrwydd y gall fod angen mwy nag un sesiwn ar gyfer arholiad, neu y gall fod yn rhaid amserlennu arholiadau mewn ffordd wahanol i fyfyrwyr eraill.

A6

Unwaith y mae’r Swyddfa Anabledd wedi gwneud asesiad ac wedi argymell mesurau cydadferol, efallai na fydd myfyrwyr y caniateir y mesurau hynny iddynt yn cael unrhyw ryddhad na chymorth pellach o ran yr angen asesedig hwn. Bydd gwaith yn cael ei farcio yn unol â chonfensiynau marcio’r Gyfadran/Ysgol. Os honnir bod cyflwr wedi newid, gellir cyflwyno cais i’r Swyddfa Anabledd am asesiad pellach. Fodd bynnag, dylid rhybuddio myfyrwyr nad yw asesiadau o’r fath yn gallu cael eu cymhwyso’n ôl-weithredol i gynyddu lwfansau. Cydnabyddir, wrth gwrs, y gall rhai myfyrwyr â phroblemau hirdymor ddatblygu anawsterau byrdymor hefyd; gellir ymdrin â’r rhain yn unol â Pholisi’r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy’n Effeithio ar Asesiad.

A7

Dylai pob Cyfadran/Ysgol sefydlu Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig.

A8

Bydd cofnodion yn cael eu cymryd o gyfarfodydd Pwyllgorau Amgylchiadau Arbennig.

A9

Bydd Pwyllgorau Amgylchiadau Arbennig yn ymdrin â’r holl geisiadau am driniaeth arbennig:

Cyflyrau hirdymor, sy’n rhai meddygol fel arfer. Mae gan Bwyllgorau Amgylchiadau Arbennig gyfrifoldeb i sicrhau bod y gofrestr o’r myfyrwyr hynny o fewn eu hawdurdodaeth, sydd wedi gofyn am ryddhad ar y sail hon, wedi’i diweddaru. Dylai’r cofnod sydd gan y Gyfadran/Ysgol gyd-fynd â’r cofnodion sydd gan y Swyddfa Anabledd ac a gaiff eu cylchredeg ganddi. Bydd hyn yn ei galluogi i ystyried Egwyddor A6 uchod;
Amgylchiadau byrdymor a thros dro.

A10

Dylai’r Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig ymdrin ag unrhyw geisiadau sy’n ymwneud â gwaith cwrs. Cadeirydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol sy’n ymdrin â cheisiadau arbennig sy’n ymwneud ag arholiadau.

A11

Awgrymir ymdrin â cheisiadau am estyniadau ar yr amser ar gyfer gwaith cwrs (ar ba bynnag ffurf) neu ystyriaethau arbennig eraill, mor agos â phosibl at yr amser y caiff y gwaith ei gyflwyno neu ei gwblhau fel arall. Rhaid i benderfyniadau gael eu cofnodi bob amser.

A12

Lle mae ar Bwyllgor Amgylchiadau Arbennig y Gyfadran/Ysgol angen cyngor pellach i ymdrin â mater sy’n achosi pryder, bydd yn ymgynghori â’r Swyddfa Anabledd.

A13

Bydd y Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig yn cwrdd, fel y bo’n gyfleus, i ymdrin â busnes, ond wastad yn union cyn cynnull Bwrdd Arholiadau’r Gyfadran/Ysgol a bydd yn adrodd wrth y Bwrdd hwnnw ac yn cyflwyno argymhellion iddo. Dylid nodi mai’r pwynt penderfynu terfynol o hyd, lle mae’r Gyfadran/Ysgol yn y cwestiwn, yw ei Fwrdd Arholiadau.

ACHOSION ARBENNIG AC EITHRIADOL:

Rhagwelir mai ychydig o geisiadau fel hyn fydd i’w cael.

Cydnabyddir y bydd achosion, o bryd i’w gilydd, a fydd yn galw am gyfundrefnau asesu unigol iawn, sy’n wahanol yn sylfaenol i’r rhai sydd mewn grym yn gyffredinol yn y Gyfadran/Ysgol (neu Gyfadrannau/Ysgoliondan sylw. Gallai angen o’r fath ddeillio o achosion hirdymor neu fyrdymor. Dylai addasrwydd unrhyw gyfundrefn asesu gael ei gytuno rhwng y Swyddfa Anabledd a’r Gyfadran/Ysgol (neu Gyfadrannau/Ysgolion) dan sylw, a chael ei chyfeirio at Gadeirydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol wedyn i gael cymeradwyaeth.

Mewn unrhyw achos lle mae’r Swyddfa Anabledd a Chyfadran/Ysgol (neu Cyfadrannau/Ysgolion) yn cael anhawster cytuno ar gyfundrefn asesu, Cadeirydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

ATODIAD 2: POLISI’R BRIFYSGOL AR ADBORTH AC ASESU ATODIAD 3: Crynodeb o Benderfyniadau a Roddir Gan Fyrddau Dilyniant a Dyfarniada