Cyflwyniad

Mae'r Brifysgol yn cydnabod bod presenoldeb ac ymrwymiad i ddysgu ac addysgu yn elfennau allweddol wrth sicrhau cyfraddau llwyddiannus o gadw myfyrwyr, a chynnydd, cyflawniad a chyflogadwyedd myfyrwyr. Mae'r ymagwedd hon yn ein helpu i adnabod myfyrwyr a allai fod yn wynebu anawsterau ac y gallai fod angen cymorth penodol arnynt, er enghraifft gan y Gwasanaethau Myfyrwyr

Dylech hefyd ymgyfarwyddo â'r Datganiad ar Ymgysylltu a'r Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir. Mae dyletswydd gyfreithiol ar y Brifysgol i fonitro presenoldeb ac i weithredu ynghylch presenoldeb gwael er mwyn bodloni ei gofynion o ran hysbysu noddwyr allanol am bresenoldeb.