Bydd yr holl fyfyrwyr yn derbyn gwybodaeth gan eu Gyfadran/Yysgol, sy'n berthnasol i'r cwrs maent yn ei astudio, gan gynnwys amserlen, amserlen a meini prawf asesu, gwybodaeth am fodiwlau, gweithgareddau allgyrsiol, ffioedd ychwanegol, cyfarpar labordy ac yswiriant.
Eglurhad o'ch Rhaglen

Llawlyfrau Academaidd Cyfadrannau/Ysgolion a’r Brifysgol
Llawlyfrau Cyfadrannau/Ysgolion
Bydd llawlyfrau Cyfadrannau/Ysgolion yn darparu gwybodaeth bwysig i chi am eu datganiad cenhadaeth a strwythur y Gyfadran/Ysgol, yn cyfeirio at faterion arholi ac asesu, sut gall y Gyfadran/Ysgol wella'ch cyflogadwyedd, eich rhwymedigaethau fel myfyriwr, gwybodaeth gyffredinol am gynnwys eich rhaglen a'ch modiwlau, mentora academaidd, gwybodaeth am astudio yn Abertawe a manylion cyswllt defnyddiol.
Mae'n bwysig eich bod yn ymgyfarwyddo â'r wybodaeth hon a ddarperir gan eich Gyfadran/Ysgol oherwydd y bydd angen i chi gyfeirio at y llawlyfr drwy gydol eich amser yn y Brifysgol.
Llawlyfrau Academaidd y Brifysgol
Mae Llawlyfrau Academaidd y Brifysgol yn rhoi trosolwg o rai o reoliadau, polisïau a gweithdrefnau academaidd y Brifysgol sy'n berthnasol i chi a'ch astudiaethau.
Dylech gyfeirio at y llawlyfr hwn am wybodaeth bwysig a allai fod o gymorth i chi yn eich astudiaethau ac ar adegau pan allai fod angen cymorth academaidd arnoch.
Deilliannau Dysgu, Asesu a Dilyniant
Mae deilliannau dysgu penodol gan bob modiwl (a rhaglen). Mewn geiriau eraill, bydd y darlithydd yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y dylech allu eu dangos erbyn diwedd pob modiwl. Dylai'r deilliannau dysgu hyn fod wedi'u nodi yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol neu daflenni'r modiwlau hefyd, ac maent ar gael hefyd yn y catalog modiwlau ar-lein, https://intranet.swan.ac.uk/catalogue/. Bydd y darlithydd yn asesu a ydych wedi bodloni'r deilliannau dysgu hyn ai peidio, naill ai ar ddiwedd y modiwl neu, o bosib, yn ystod y modiwl trwy asesu parhaus.
Bydd gan bob modiwl batrwm asesu sy'n benodol i'r modiwl hwnnw. Er enghraifft, gellir asesu'r modiwl trwy arholiad ac asesu parhaus, neu drwy waith ymarferol. Darperir manylion am y patrwm asesu i fyfyrwyr yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol, fel cynlluniwr asesu. Bydd angen i chi gydymffurfio'n llawn â phatrwm asesu'r modiwl trwy gwblhau pob agwedd ar yr asesu cyn y tybir eich bod wedi cwblhau'r modiwl. Fel arfer, os nad ydych yn cydymffurfio â'r gofynion, byddwch yn methu'r modiwl.
Dyfernir credydau i chi ar ôl i chi gwblhau tasgau asesu'r modiwl yn llwyddiannus. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i ddangos a ydych wedi bodloni deilliannau dysgu'r modiwl ai peidio. Mae credydau'n chwarae rhan allweddol wrth benderfynu a ydych wedi astudio digon o fodiwlau a'u pasio i ganiatáu i chi symud ymlaen.
Rhaid i bob myfyriwr sy'n astudio am radd israddedig gychwynnol sicrhau bod cyfanswm y credydau am y modiwlau a ddilynir ar bob lefel yn cynnig o leiaf 120 o gredydau. Edrychwch ar eich proffil myfyriwr ar y Fewnrwyd i gadarnhau pa fodiwlau rydych wedi'u dewis a faint o gredydau sy'n gysylltiedig â nhw. Rhaid i fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir astudio modiwlau fel a ganlyn:
Rhaglenni Meistr a Addysgir Safonol (Un Flwyddyn) | 180 o gredydau, gyda 120 o gredydau yn Rhan Un a 60 o gredydau yn Rhan Dau. |
---|---|
Rhaglenni Meistr a Addysgir Estynedig (Dwy Flynedd) | 240 o gredydau, gyda 120 o gredydau ym Mlwyddyn Un a 120 o gredydau ym Mlwyddyn Dau. |
Rhaglenni Meistr a Addysgir Hyblyg (Un Flwyddyn) | 180 o gredydau. |
Yn achos myfyrwyr rhan-amser, rhennir y credydau hyn dros fwy nag un sesiwn academaidd. Os oes gennych unrhyw amheuon, fe'ch cynghorir i gysylltu â'ch Cyfadran/Ysgol neu â'r Gwasanaethau Academaidd.
Os ydych wedi astudio modiwlau gwerth llai na 120 o gredydau yn Lefel Un/Rhan Un /Blwyddyn Un eich rhaglen astudio, ni fyddwch yn gallu bodloni'r rheolau dilyniant, ac ni chaniateir i chi symud ymlaen i Lefel neu Ran astudio nesaf eich gradd. Rhaid i chi symud o un Lefel/Rhan/ Blwyddyn astudio i'r nesaf, ac fel arfer yn achos myfyrwyr amser llawn, bydd hynny'n digwydd bob blwyddyn.
Termau a diffiniadau Dysgu ac Addysgu ar gyfer Dulliau Gwahanol o Gyflwyno
Mae'r diffiniadau hyn i'w defnyddio gan staff a myfyrwyr, a dylent adlewyrchu cynnwys pro fforma modiwl a disgrifiadau ffurfiol eraill gweithgareddau addysgu ym Mhrifysgol Abertawe. Darperir tabl o dermau a diffiniadau yn gyntaf, ac yna enghreifftiau o weithgareddau a ddiffinnir gan ddefnyddio'r termau hynny.
Diffiniadau
Mae'r rhain yn berthnasol i ddysgu, addysgu a mentora academaidd oni nodir fel arall.
Term | Term amgen | Diffiniad | Manylion ac enghreifftiau | Gwybodaeth Bellach |
---|---|---|---|---|
Hunangyfeiriedig | Anghydamserol | “…nid yw'n digwydd yn yr un lle neu ar yr un pryd ar gyfer y garfan gyfan" (ASA). Mae myfyrwyr yn dysgu yn eu hamser eu hunain, fel arfer gan ddefnyddio deunyddiau a argymhellir. Nid yw wedi'i amserlennu fel arfer ond caiff amser ei ddyrannu mewn modiwl. Nid yw'r addysgwyr yn bresennol ond gall myfyrwyr weithio mewn grwpiau. |
Addysgu wedi'i recordio o flaen llaw Gweithgareddau cyfeiriedig Deunydd darllen Astudio annibynnol
|
QAA |
Cyfunol | Cyfuniad o weithgareddau'n fyw ar y campws a gweithgareddau ar-lein yn amser y dysgwr. | |||
Amser Cyswllt | Gweithgarwch dysgu ac addysgu a hwylusir gan addysgwr. 2 awr ar gyfer pob credyd mewn modiwl fel arfer (e.e. mae modiwl 10 credyd yn 20 awr o gyswllt). Mae'n cynnwys yr holl weithgarwch byw, ynghyd â gweithgarwch ar-lein a hwylusir, gan gynnwys oriau swyddfa a mentora academaidd a amserlennir. | Unrhyw weithgarwch addysgu, ar y campws neu ar-lein, gan gynnwys gweithgareddau wedi'u recordio ymlaen llaw gofynnol lle gall myfyrwyr gyfranogi gan ddefnyddio oriau swyddfa, e-byst, byrddau trafod etc. | QAA; Sefydliadau Addysg Uwch ar gyfer myfyrwyr |
|
Wyneb yn wyneb | Gall fod ar-lein neu ar y campws. Fel arfer mae'n digwydd yn fyw. | |||
Ar y campws | Pawb gyda'i gilydd yn yr un lle, fel arfer yn cyfeirio at addysgwr a myfyrwyr ond gall hefyd gyfeirio at waith grŵp myfyrwyr. Wedi'i amserlennu fel arfer. | Yn cynnwys gweithgareddau wyneb yn wyneb mewn lleoliadau y tu allan i safleoedd Prifysgol Abertawe megis lleoliadau gwaith a gwaith maes. | ||
Oriau swyddfa | "mae staff ar gael ar gyfer ymgynghori, trafodaeth un i un etc" (QAA). Dylai fod wyneb yn wyneb. | Nid yw'n orfodol ar gyfer myfyrwyr. |
QAA | |
Ar-lein | O bell | Nid yw addysgwr a myfyrwyr gyda'i gilydd yn yr un lle. Gall fod yn fyw neu'n hunangyfeiriedig. (Mae'r QAA yn rhybuddio rhag defnyddio'r gair 'ar-lein' ond mae hwn yn fwy ystyrlon ar gyfer ymgeiswyr a myfyrwyr) | QAA | |
Yn fyw | Cydamserol | Mae'r holl fyfyrwyr yn ymgymryd â'r un gweithgaredd ar yr un pryd, fel arfer gydag addysgwr yn bresennol ac mewn sesiwn a amserlennir. Ar y campws neu ar-lein. | Sesiynau addysgu traddodiadol ar y campws. Unrhyw weithgaredd byw a gyflwynir ar-lein e.e. darlithoedd wedi'u ffrydio, seminarau neu diwtorialau, goruchwyliaeth, sesiynau adborth. |
Gweithgareddau addysgu cyffredin
Term | Diffiniad | Dull cyflwyno | |
---|---|---|---|
Ar y campws | Ar-lein | ||
Mentora Academaidd | Dynodir aelod o'r staff academaidd i bob myfyriwr i weithredu fel Mentor Academaidd (MA), gan roi datblygiad academaidd a phersonol, adborth ar asesu, gweithredu fel cyswllt ar gyfer gofal bugeiliol a chyfeirio at wasanaethau myfyrwyr. Polisi ar y System Mentora Academaidd Personol | Cyfarfod wedi'i amserlennu rhwng y MA a myfyriwr, naill ai'n unigol neu mewn grŵp. Fe’i cynhelir yn swyddfa'r MA neu mewn ystafell a drefnir. Caiff presenoldeb ei gofnodi. | Fel ar y campws ond drwy Zoom neu system arall. |
Dysgu Gweithredol |
Dysgu wedi’i hwyluso gan weithgareddau lle mae dysgwyr yn ymgysylltu'n weithredol â chynnwys (e.e. cwisiau ffurfiannol, myfyrio, tasgau grŵp a gweithgareddau cydweithredol). Fel arfer, cânt eu diffinio fel 'gweithgareddau nad ydynt yn ddidactig’. Adnoddau SALT yma |
Gellir ei gynnal mewn unrhyw fan addysgu. Gall technoleg briodol gael ei defnyddio ond nid yw hyn yn hanfodol. | Gall gael ei hwyluso gan ddefnyddio technoleg, er enghraifft sesiwn addysgu ar-lein fyw gan ddefnyddio offer ar Canvas. Gellir defnyddio Zoom i rannu myfyrwyr i ystafelloedd er mwyn trafod neu ar gyfer gweithgareddau cydweithredol. |
Asesu | Galluogi myfyrwyr i ddangos eu bod wedi bodloni deilliannau dysgu gofynnol. Mae asesiadau anffurfiol yn asesiadau ffurfiannol a ddefnyddir i gynorthwyo dysgu myfyriwr, asesu dealltwriaeth myfyriwr a llywio arferion addysgu. Mae asesiadau crynodol yn nodi'r hyn y mae myfyriwr wedi'i ddysgu mewn modiwl ac yn cyfrif tuag at ei radd derfynol ar gyfer y modiwl hwnnw; gallant fod ar sawl ffurf, gan gynnwys arholiadau diwedd modiwl neu asesiadau parhaus yn ystod y modiwl. | Mae asesiadau yn y brifysgol yn cynnwys arholiadau wedi'u hamserlennu mewn ystafelloedd dynodedig, a hefyd brofion mewn dosbarth, cyflwyniadau, arholiadau llafar ac OSCE, lle y bydd yn rhaid i fyfyrwyr fod yn bresennol er mwyn cynnal yr asesiadau. | Mae Cwestiynau Amlddewis, cwisiau, atebion byr, llenwi'r bylchau, gwir/anwir, cwymplen amlddewis, atebion amlddewis, paru, atebion rhifiadol, byrddau trafod, cardiau fflach, posau, labordai rhithwir, cyflwyniadau ar-lein/arholiadau llafar ac arholiadau (gyda phorwyr dan glo a/neu oruchwylio o bell ). Gweithgareddau eraill a gyflwynir drwy'r Amgylchedd Dysgu Rhithwir, megis traethodau, cyflwyniadau, prosiectau, traethodau hir, portffolios, astudiaethau achos, adroddiadau, blogiau neu ysgrifennu myfyriol, posteri digidol neu brosiectau'r cyfryngau, mapiau'r meddwl. |
Addysgu Bloc | Darperir darlithoedd, tiwtorialau a dulliau addysgu eraill mewn bloc dwys. | Fe'u cynhelir mewn mannau addysgu priodol a gallant gynnwys ystod o weithgareddau naill ai mewn modiwl neu ar draws y rhaglen. | Fe'u cynhelir gan ddefnyddio technoleg briodol. |
Dysgu Gwrthdroi |
Math o ddysgu cyfunol/gweithredol lle mae'r myfyrwyr yn ymgysylltu â chynnwys sy'n seiliedig ar wybodaeth (e.e. deunyddiau darlith) yn eu hamser eu hunain yn hytrach na mewn darlithfa. Mae hyn yn rhagflaenu dosbarth rhyngweithiol byw. |
Cynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw sy'n seiliedig ar wybodaeth ar yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir. Gweithgareddau dosbarth wedi’u hwyluso sy'n cynnwys trafodaeth gyda chyd-fyfyrwyr ac ymarferion datrys problemau. | Mae’r elfennau sy'n seiliedig ar wybodaeth a’r elfennau rhyngweithiol yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio technoleg briodol drwy'r Amgylchedd Dysgu Rhithwir. |
Astudio a Dysgu Annibynnol |
Mae dysgu annibynnol yn gosod y cyfrifoldeb ar y myfyriwr am ymgysylltu â'r cwricwlwm, datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a dyfnder dealltwriaeth y pwnc. Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag astudio annibynnol er mwyn gallu dangos deilliannau dysgu'r modiwl i lefel uchel, y tu hwnt i elfennau hanfodol y modiwl, a dylid ei hwyluso gan staff addysgu. |
Wedi'i hwyluso gan ddarlithoedd a seminarau byw, gydag argymhellion am ddarllen pellach, gweithgareddau gan ddefnyddio rhestrau darllen, deunyddiau'r llyfrgell a deunydd ategol ychwanegol ar yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir. | Wedi'i hwyluso o bell gan ddefnyddio offer yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir a TEL. |
Grwpiau seminar | Trafodaeth neu sesiwn mewn dosbarth wedi’i hamserlennu sy'n cynnwys grŵp o fyfyrwyr wedi'u rhannu o'r brif garfan. Gall fod ar ffurf gweithdy a chynnwys dysgu gweithredol hefyd. | Caiff y sesiwn ei chyflwyno ar y campws mewn gofod addysgu priodol. | Caiff y sesiwn ei chyflwyno'n fyw ar-lein gan ddefnyddio technoleg briodol |
Mannau Astudio gyda Phellter Cymdeithasol | Mannau astudio dynodedig ar y campws y gall myfyrwyr eu defnyddio i astudio'n annibynnol (gan lynu wrth reolau pellter cymdeithasol presennol). | Caiff y sesiwn ei chyflwyno ar y campws mewn gofod addysgu priodol. | N/A |
Grwpiau Astudio | Sesiwn drafod neu yn yr ystafell ddosbarth sy'n cynnwys grŵp o fyfyrwyr o'r un garfan pan fydd cynnwys pwnc, sgiliau trosglwyddadwy, datblygiad academaidd a chyflogadwyedd yn cael eu trafod yn fanylach. Gall hyn groesi nifer o fodiwlau, gan fynd i'r afael â deilliannau dysgu'r rhaglen. | Fe'i cyflwynir ar y campws mewn gofod addysgu priodol, wedi'i amserlennu a bydd presenoldeb yn cael ei fonitro. | Ar-lein gan ddefnyddio technoleg briodol e.e. Zoom etc, wedi'i amserlenni. Bydd cyfranogiad yn cael ei fonitro. |
Cyfleoedd Symudedd
Gwybodaeth i Fyfyrwyr sy'n dymuno treulio amser dramor yn ystod cyfnod astudio neu leoliad gwaith.
Terminoleg Modiwlau
Dewis Modiwlau
Os ydych yn astudio ar raglen fodiwlaidd, byddwch yn dethol eich modiwlau dewisol ar ddechrau'ch rhaglen. Efallai na fydd rhai myfyrwyr yn gallu astudio modiwlau dewisol, a chânt eu cynghori i siarad â Chyfarwyddwr eu rhaglen. Fel arfer, bydd modiwlau gorfodol wedi'u cofnodi'n awtomatig, ond rhaid cofnodi manylion pob modiwl yn ffurfiol pan fyddant wedi'u dewis a'u cymeradwyo. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau eich bod yn dewis modiwlau sy'n cydweddu â'r rheolau a bennwyd gan y Gyfadran/Ysgol ac sydd wedi'u nodi yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
Os ydych yn fyfyriwr sy'n dychwelyd, ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, bydd eich Cyfadran/Ysgol yn gofyn i chi ddethol eich modiwlau dewisol ar gyfer y lefel astudio nesaf. Os ydych yn newid eich meddwl a byddai'n well gennych ddethol modiwlau eraill, cewch gyfle i ddiwygio'ch detholiad o fodiwlau ar ddechrau'r sesiwn academaidd. Fodd bynnag, mae caniatâd i drosglwyddo rhwng modiwlau a/neu raglenni'n amodol ar gymeradwyaeth a rhaid i chi gwblhau'r broses o fewn yr amser a ganiateir.
Modiwlau
Gellir disgrifio modiwl fel bloc adeiladu mewn rhaglen astudio (cwrs) – mae’n gydran annibynnol ac, fel arfer, mae'n cynnwys cyfres o weithgareddau dysgu, gan gynnwys darlithoedd/tiwtorialau/sesiynau ymarferol ynghyd ag astudio annibynnol a thasgau asesu. Mae gan bob modiwl ddeilliannau dysgu penodol, maes llafur, patrwm dysgu/addysgu, a dull o asesu a ydych wedi cyflawni'r deilliannau dysgu ai peidio. Dynodir nifer o gredydau i bob modiwl.
Strwythur Modiwlau
Gall strwythur modiwl amrywio o bwnc i bwnc, ac yn wir, gall amrywio hyd yn oed o fewn pwnc. Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau'n seiliedig ar strwythur o ddarlithoedd ffurfiol, lle disgwylir i chi fynychu darlithoedd ac ymgymryd ag astudio preifat. Os ydych yn astudio modiwlau sy'n seiliedig ar ddarlithoedd, fel arfer disgwylir i chi fynychu seminarau hefyd. Mae mathau eraill o fodiwl yn cynnwys modiwlau ymarferol, a fydd yn cynnwys elfen sylweddol o waith ymarferol. Yn naturiol, bydd y cysylltiad ffurfiol rhyngoch chi a'r staff academaidd sy'n addysgu'r modiwlau'n fwy yn y modiwlau ymarferol nag yn y modiwlau sy'n seiliedig ar ddarlithoedd. Dylech ddarllen Llawlyfr eich Cyfadran/Ysgol am ragor o wybodaeth am strwythur pob modiwl.
Modiwlau Gorfodol/Craidd
Er y tybir bod modiwlau'n flociau adeiladu annibynnol, gall Cyfadrannau/Ysgolion grwpio rhai modiwlau gyda'i gilydd a nodi eu bod yn fodiwlau gorfodol ar gyfer rhaglenni penodol. Tybir bod y fath fodiwlau'n gydrannau hanfodol o raglenni penodol, ac felly mae'n rhaid i chi astudio'r fath fodiwlau. Darperir manylion am eich modiwlau gorfodol yn Llawlyfr eich Cyfadran/Ysgol.
Mewn rhai disgyblaethau, gellir galw modiwlau gorfodol yn fodiwlau craidd hefyd. Yn ogystal ag astudio modiwlau craidd, mae'n rhaid eu pasio hefyd. Mae'r rhain yn hynod berthnasol mewn pynciau sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol megis y Gyfraith, Seicoleg, Gwaith Cymdeithasol, Meddygaeth a Pheirianneg. Os nad ydych yn llwyddo yn y modiwlau hyn, ni chewch symud o un lefel astudio i lefel arall, na chwblhau'r rhaglen.
Modiwlau Dewisol
Chi sy'n dethol eich modiwlau dewisol. Fel arfer, mae modiwlau dewisol o fewn maes pwnc y rhaglen, ond gallant hefyd gynnwys meysydd pwnc eraill sy'n cael eu cynnig gan y Gyfadran/Ysgol neu bynciau perthynol a gynigir gan Gyfadran arall. Mae rhestr o fodiwlau dewisol cymeradwy ar gael yn eich Gyfadran/Ysgol. Mae staff academaidd bob amser ar gael i'ch cynghori ar ddethol modiwlau dewisol.
Fel arfer, erbyn i chi gyrraedd blwyddyn astudio olaf rhaglen israddedig, bydd nifer y modiwlau gorfodol yn gostwng i ganiatáu mwy o ddewis o fodiwlau dewisol yn y Gyfadran/Ysgol, fel y gallwch astudio pynciau mwy arbenigol. Bydd cyfyngiadau amserlennu bob amser yn cyfyngu ar y dewis o fodiwlau dewisol.
Modiwlau Dethol
Gyda chymeradwyaeth eich Gyfadran/Ysgol cartref, cewch astudio modiwlau dethol. Mae'r modiwlau hyn mewn maes pwnc nad yw'n adlewyrchu cynnwys y rhaglen neu deitl y dyfarniad - er enghraifft modiwl iaith Ewropeaidd. Rhaid i'r Deon Gweithredol neu enwebai gymeradwyo dewis modiwl dethol. Mewn rhai achosion, gall y Gyfadran/Ysgol nodi'r modiwlau dethol. Ni chaniateir i fyfyrwyr ar raglenni Ôl-raddedig a Addysgir astudio modiwlau dethol.
Modiwlau Amnewid
Modiwlau amnewid yw'r modiwlau hynny sy'n cael eu hastudio fel arfer yn ystod yr ail semester, yn lle modiwlau eraill y mae’r myfyriwr wedi tynnu’n ôl ohonynt ar ôl y dyddiad cau a ganiateir, sef chwe wythnos ar ôl cychwyn y modiwl.
Modiwlau Amgen
Modiwlau amgen yw'r modiwlau hynny sy'n cael eu hastudio fel arfer yn ystod yr ail semester yn lle modiwlau a fethwyd yn ystod y semester cyntaf. Gallwch wneud cais i'ch Gyfadran/Ysgol cartref am ganiatâd i astudio modiwl(au) amgen. Bydd y rheolau capio'n berthnasol i'r marciau a enillir ar gyfer modiwlau amgen.
Rheolau Modiwl
Gall Cyfadrannau/Ysgolion fynnu eich bod yn pasio rhai modiwlau penodol cyn y caniateir i chi ddewis modiwl arall - hynny yw, rhaid pasio modiwl 'A' cyn cael astudio modiwl 'B'. Gelwir modiwl 'B' yn rhagofyniad. Yn yr un modd, gall Cyfadrannau/Ysgolion fynnu, os ydych yn dewis modiwl penodol, bod yn rhaid i chi astudio modiwl perthynol arall yn ystod yr un sesiwn. Gelwir y rhain yn gyd-ofynion. Ar y llaw arall, mae rhai modiwlau'n anghydnaws - hynny yw, o ddewis un modiwl, ni chewch ddewis modiwl perthynol arall. Rhaid i chi sicrhau y gallwch gydymffurfio â'r fath ofynion cyn dewis modiwlau unigol.
Lefelau Modiwlau
Dynodir lefel i bob modiwl, sy'n adlewyrchu safon academaidd y modiwl ac yn rhoi syniad o’r disgwyliadau. Yn achos rhaglenni israddedig tair blynedd, lefel 4, 5 a 6 fyddai'r rhain fel arfer (Blynyddoedd 1, 2 a 3) a byddai rhaglenni Meistr Ôl-raddedig a Addysgir ar Lefel 7, a hefyd y modiwlau ym mlwyddyn olaf Graddau Cychwynnol Uwch (e.e. MEng, MMath).
Disgwylir i chi symud o un lefel astudio i'r lefel nesaf yn ystod eich rhaglen fel y bo'n berthnasol, gan ddatblygu'ch gwybodaeth am y pwnc wrth wneud hynny.
Mae'r Flwyddyn Ryngosodol, os ewch dramor i astudio, yn Lefel S, a defnyddir Lefel E i ddisgrifio cyfnod mewn diwydiant neu waith fel cynorthwyydd iaith.
Manylebau Rhaglenni
Mae rhaglen yn gasgliad o fodiwlau wedi'u strwythuro fel eu bod yn creu cyfanswm sy'n dderbyniol yn academaidd. Rhennir rhaglenni israddedig yn Lefelau Astudio (er enghraifft tair lefel ar gyfer rhaglen tair blynedd). Mewn rhaglen sydd â mwy nag un lefel astudio, byddwch yn symud o un lefel i'r lefel nesaf trwy ennill y nifer gofynnol o gredydau. Mae teitl y rhaglen yn adlewyrchu'r cynnwys, a fydd wedi'i bennu gan y Gyfadran/Ysgol ymlaen llaw. Yn achos Graddau Meistr Ôl-raddedig a Addysgir, gellir rhannu'r rhaglen yn Rhan Un a Rhan Dau (y cyfnod dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd), yn Flwyddyn Un a Blwyddyn Dau, neu gall fod yn rhaglen hyblyg barhaus. Er mwyn symud i'r lefel nesaf, rhaid i chi ennill y nifer gofynnol o gredydau.
Mae gan bob rhaglen yn Abertawe strwythur penodol a luniwyd gan staff academaidd y Gyfadran/Ysgolion ac a gymeradwywyd gan y Brifysgol. Mae pob Cyfadran/Ysgol yn creu amlinelliad o'r rhaglen ar ffurf 'manyleb rhaglen' sy'n canolbwyntio ar raglenni astudio unigol ac sy'n amlinellu'r deilliannau dysgu (y wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau, a'r priodweddau y byddech yn disgwyl i’w harddangos erbyn diwedd y rhaglen honno. Mae manylebau rhaglen hefyd yn rhoi manylion am y dulliau addysgu ac asesu a ddefnyddir, ac yn cysylltu'r rhaglen â datganiadau meincnod pwnc Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch ac â Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
Caiff manylebau rhaglen eu cyhoeddi ar gyfer myfyrwyr ar wefan y Brifysgol.
Disgrifwyr Cymwysterau
Mae disgrifwyr cymwysterau'n pennu'r disgwyliadau arferol o ran yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth y dylech eu hennill a gallu eu dangos wrth gwblhau'ch rhaglen yn llwyddiannus. Maent yn ganllawiau ar gyfer pennu safonau addas yn ôl y math o raglen rydych yn ei hastudio, er enghraifft israddedig, ôl-raddedig a addysgir, ôl-raddedig trwy ymchwil, etc. Amlinellir disgwyliadau mwy penodol ar lefel israddedig yn y gwahanol 'ddatganiadau meincnod pwnc' a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch.
Mae Prifysgol Abertawe wedi mabwysiadu disgrifwyr ar gyfer ei rhaglenni gradd/dyfarniad sy'n cynnwys y disgrifwyr cymhwyster a nodir yn y ddogfen Chôd Ansawdd diwygiedig yr ASA.
Trwy ddefnyddio'r disgrifwyr hyn ar gyfer ei dyfarniadau, mae Prifysgol Abertawe'n ymdrechu i wella symudedd graddedigion drwy sicrhau bod modd cymharu lefel ac ansawdd eich dyfarniad yn gyflym ac yn rhwydd â chymwysterau Ewropeaidd, at ddibenion cyflogaeth neu astudio ymhellach.
I gael rhagor o wybodaeth am feincnodau pynciau, disgrifwyr cymwysterau a'r berthynas rhwng fframwaith y DU a fframweithiau Ewropeaidd, ewch i wefan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd: www.qaa.ac.uk o dan‘https://www.qaa.ac.uk/quality-code’.
Strwythur y Flwyddyn Academaidd a Hyd y Diwrnod Addysgu
Tymhorau a Semestrau
I'r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy'n astudio rhaglenni gradd, bydd y patrwm addysgu yn seiliedig ar ddau semester o fewn strwythur tri thymor, sef tymor Mihangel, tymor y Grawys, a thymor yr Haf. I gael manylion llawn sesiynau academaidd cyfredol a rhai'r dyfodol, ewch i Dyddiadau Tymhorau a Semestrau.
Strwythur y Flwyddyn Academaidd ar gyfer Rhaglenni Israddedig
Gellir addysgu modiwlau yn y ddau semester, neu gellir eu haddysgu drwy gydol y sesiwn ar draws semesterau. Y term ar gyfer modiwlau yn y categori olaf yw ‘modiwlau hir’ gan eu bod yn parhau ar draws semesterau. Mae rhai Cyfadrannau/Ysgolion hefyd yn cynnig modiwlau byr dwys iawn, a addysgir dros gyfnod o wythnos/bythefnos. Fel arfer, cyfyngir y rhain i flwyddyn olaf Graddau Cychwynnol Uwch (e.e. MEng, MMath).
Os ydych yn astudio rhaglen yng Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd, bydd y patrwm addysgu'n wahanol oherwydd y gofynion addysgu gwahanol a bennir gan gyrff proffesiynol. Bydd manylion llawn ar gael yn Llawlyfr eich Cyfadran/Ysgol.
Strwythur y Flwyddyn Academaidd ar gyfer Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir
Strwythur y flwyddyn academaidd ar gyfer Rhaglenni Meistr Ôl-raddedig a Addysgir sy’n para am flwyddyn, y rhai Cyffredin a’r rhai Hyblyg, yw cyfnod o 12 mis os ydych yn fyfyriwr llawn amser. Ar gyfer rhaglenni Cyffredin sy’n para am flwyddyn, fel arfer cwblheir Rhan Un (dilyn modiwlau a addysgir) dros gyfnod o dua 9 mis, a Rhan Dau (y traethawd hir) dros gyfnod o dua 3 mis.
O ran rhaglenni Estynedig sy’n para am ddwy flynedd, fel arfer cwblheir Rhan Un dros gyfnod o 9 mis yn ystod Blwyddyn Un, a Rhan Dau (y traethawd hir) fel arfer dros gyfnod o 8 mis yn ystod Blwyddyn Dau. Er hynny, mae rhai rhaglenni ôl-raddedig yn addysgu ac yn asesu eu modiwlau Rhan Un ar ffurf sy’n wahanol i’r patrwm addysgu israddedig arferol, er enghraifft drwy wythnos ddwys neu astudio dros y penwythnos gydag arholiad ar ddiwedd y modiwl, a/neu aseiniad i’w gwblhau yn fuan ar ôl hynny. Ceir manylion yn Llawlyfr eich Cyfadran/Ysgol.
Diploma Ôl-raddedig
Os ydych yn fyfyriwr Diploma Ôl-raddedig amser llawn, bydd strwythur y flwyddyn academaidd fel arfer yn adlewyrchu strwythur Rhan Un rhaglen Meistr a Addysgir.
Tystysgrif Ôl-raddedig
Os ydych yn fyfyriwr Tystysgrif Ôl-raddedig, bydd strwythur y flwyddyn academaidd ar gael yn Llawlyfrau eich Cyfadran/Ysgol.
Hyd y Diwrnod Addysgu
Fel arfer, bydd y diwrnod addysgu o 09:00 i 20:00 ar ddydd Llun, dydd Mawrth, a dydd Iau ac o 09:00 i 18:00 ar ddydd Gwener. Cynhelir addysgu ar ddydd Mercher o 09:00 i 14:00. Bydd y Brifysgol yn ceisio trefnu cyn lleied o sesiynau addysgu â phosibl ar ddydd Mercher rhwng 13:00 a 14:00, a’r nod fydd darparu addysgu o 09:00 i 13:00 yn unig ar ddydd Mercher. Gallai myfyrwyr sydd ar leoliadau sy’n seiliedig ar waith, neu’r rhai sy’n dilyn nifer fach o raglenni sydd â gofynion proffesiynol, gael sesiynau addysgu rheolaidd ar ddydd Mercher ar ôl 14:00. Yn yr achosion hyn, dylai myfyrwyr sydd ag ymrwymiadau chwaraeon neu rai eraill drafod hyn â’u tiwtor neu’u darlithydd.
Pan gaiff darlithoedd eu hail-drefnu (oherwydd absenoldeb na ellir ei osgoi, neu ddigwyddiad arall) a’r unig amser ar gael ar yr amserlen fydd ar ôl 18:00/20:00 (neu 14:00 ar ddydd Mercher), dylid recordio darlithoedd a’u gosod ar Panopto er mwyn iddynt fod ar gael i bob myfyriwr. Caniateir trefnu sesiynau ychwanegol fel tiwtorialau, seminarau neu weithgareddau eraill ar ôl 18:00/20:00 (ac ar ôl 14:00 ar ddydd Mercher) dim ond pan fydd sesiwn arall wedi’i threfnu ar gyfer myfyrwyr (ar yr amod bod y sesiwn arall yn cael ei threfnu er mwyn i fyfyrwyr allu ei mynychu cyn 18:00/20:00 a chyn 14:00 ar ddydd Mercher).
Nid yw hyn yn berthnasol i ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a ddarperir gyda’r hwyr.
Credydau Prifysgol Abertawe
Gellir ystyried credydau fel 'gwerth' graddau modiwlaidd. Dynodir pwysiad credyd penodedig i bob modiwl sy’n rhoi syniad o’r llwyth gwaith sy’n gysylltiedig â’r modiwl hwnnw.
Disgwylir i chi neilltuo’r un faint o amser ar gyfer modiwlau sydd â'r un gwerth credyd. Mewn modiwl sy'n seiliedig ar waith ymarferol, byddwch yn treulio'r rhan fwyaf o'ch amser ar waith ymarferol ac yn paratoi ar gyfer asesiadau. Mewn modiwl sy'n seiliedig ar ddarlithoedd, byddwch yn treulio amser sylweddol yn astudio'n annibynnol. Ar y cyfan, disgwylir i chi dreulio tua 100 o oriau yn astudio am bob modiwl 10 credyd. Bydd hyn yn cynnwys sesiynau addysgu ffurfiol/gwaith labordy/ymarferol, astudio preifat, adolygu ac asesu.
Lwfans Credydau Israddedig
Fel rheol, bydd myfyrwyr israddedig amser llawn yn astudio cyfanswm o 120 o gredydau'r flwyddyn. Os ydych chi wedi cofrestru am raglen gradd anrhydedd tair blynedd o hyd disgwylir i chi astudio modiwlau sy'n denu 360 o bwyntiau credyd; yn achos rhaglen pedair blynedd y cyfanswm fydd 480. I gael manylion llawn am ofynion credydau rhaglenni amrywiol, darllenwch y rheoliadau penodol a geir yn yr adran o'r enw Rheoliadau Dyfarniadau Israddedig.
Os ydych chi'n fyfyriwr rhan-amser, disgwylir i chi, fel arfer, astudio modiwlau gwerth 60 o gredydau ym mhob blwyddyn academaidd er y gellir addasu hyn rywfaint gyda chaniatâd y Deon Gweithredol neu enwebai, ar yr amod eich bod yn cadw o fewn yr isafswm a’r uchafswm a ganiateir, sef rhwng 30 a 90 o gredydau.
Bydd myfyrwyr amser llawn yn astudio credydau fel a ganlyn
Rhaglenni Meistr a Addysgir Safonol (Un Flwyddyn) | 180 o gredydau, gyda 120 o gredydau yn Rhan Un eich rhaglen a 60 o gredydau yn Rhan Dau. |
---|---|
Rhaglenni Meistr a Addysgir Estynedig (Dwy Flynedd) | 240 o gredydau, gyda 120 o gredydau ym Mlwyddyn Un eich rhaglen a 120 o gredydau ym Mlwyddyn Dau. |
Rhaglenni Meistr a Addysgir Hyblyg (Un Flwyddyn) | 180 o gredydau. |
Os ydych chi'n fyfyriwr rhan-amser ar raglen Meistr a Addysgir, disgwylir i chi, fel arfer, astudio modiwlau a ddewisir mewn ymgynghoriad â Chydlynydd eich Rhaglen. Fel arfer, bydd myfyrwyr rhan-amser yn astudio rhwng 30 a 60 o gredydau bob blwyddyn.
Disgwylir i fyfyrwyr Diploma Ôl-raddedig astudio 120 o gredydau a disgwylir i fyfyrwyr Tystysgrif Ôl-raddedig astudio 60 o gredydau.
Credydau'r System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd
Datblygwyd y System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd (ECTS) er mwyn darparu gweithdrefnau cyffredin at ddiben sicrhau cydnabyddiaeth academaidd ar gyfer astudiaethau dramor. Mae'n darparu dull o fesur a chymharu credydau academaidd a'u trosglwyddo o un sefydliad yn Ewrop i un arall.
Caiff gwerthoedd credyd Prifysgol Abertawe eu trosi'n werthoedd credyd ECTS drwy rannu gwerth y credyd yn Abertawe â dau. Er enghraifft, mae 20 credyd Abertawe gyfwerth â 10 credyd ECTS.
Bydd dogfennaeth swyddogol, megis y trawsgrifiad academaidd a'r Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch a fydd ar gael i chi ar ôl cwblhau'ch rhaglen astudio yn Abertawe, yn cyfeirio at gredydau Abertawe a chredydau ECTS.
Terfynau Amser i Gwblhau'ch Rhaglen
Bydd eich Cyfadran/Ysgol, a'ch Mentor Academaidd yn benodol, yn monitro'ch cynnydd drwy gydol eich amser astudio gan eich annog i gwblhau eich rhaglen o fewn y terfynau amser a bennwyd. Anogir myfyrwyr i drafod unrhyw broblemau neu bryderon â'u Mentor Academaidd os teimlant nad ydynt yn gwneud y cynnydd disgwyliedig.
Mae'r rheoliadau sy'n berthnasol i gwblhau rhaglen astudio o fewn terfyn amser penodedig ar gael yn rheoliadau eich dyfarniad penodol.
Os nad yw myfyrwyr yn cwblhau eu rhaglen o fewn y terfyn amser penodedig, gallant fod yn gymwys am ddyfarniad ymadael.
Fodd bynnag, gellir gwneud cais i estyn y terfyn amser mewn amgylchiadau eithriadol. Dylech gysylltu â'ch Cyfadran/Ysgol i wneud cais a gaiff ei anfon at Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Academaidd, lle caiff y cais ei ystyried yn weinyddol ar ran y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd. Sylwer, bod angen cyflwyno tystiolaeth annibynnol o'r rheswm dros y cais gyda phob cais am estyniad.
Gellir gweld crynodeb o'r terfynau amser (sy'n cael ei alw'n 'ymgeisyddiaeth') drwy ddilyn y dolenni isod:
Hyd Arferol Ymgeisyddiaeth Myfyrwyr Israddedig
* Mae modd mynychu'n golygu a ydych yn astudio'r rhaglen ar sail amser llawn, ran-amser neu 'gymysg' - h.y. gallwch wneud cais i drosglwyddo rhwng moddau, yn amodol ar y rheoliadau perthnasol, os dymunwch wneud hynny, ac ar yr amod bod y rhaglen ar gael yn y modd arall.
Hyd Arferol Ymgeisyddiaeth:
Amserlenni
Caiff amserlenni addysgu eu llunio gan y tîm amserlenni sy’n cydweithio â’r Cyfadrannau/Ysgolion ac amserlenni arholiadau gan y Swyddfa Arholiadau yn y Gwasanaethau Academaidd. Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau nad oes gwrthdrawiadau yn yr amserlenni, cydnabyddir y gallai cyfyngiadau amserlennu eich rhwystro rhag astudio modiwl weithiau. Os oes gennych broblemau oherwydd amserlenni, dylech eu trafod â'ch Cyfadran Cartref yn y lle cyntaf.