Bydd yr holl fyfyrwyr yn derbyn gwybodaeth gan eu Gyfadran/Yysgol, sy'n berthnasol i'r cwrs maent yn ei astudio, gan gynnwys amserlen, amserlen a meini prawf asesu, gwybodaeth am fodiwlau, gweithgareddau allgyrsiol, ffioedd ychwanegol, cyfarpar labordy ac yswiriant.
Eglurhad o'ch Rhaglen
Diffiniadau Asesu ac Addasiadau Rhesymol
Cynwysoldeb
Dylunio a galluogi dysgu hygyrch i sicrhau bod pob myfyriwr, waeth beth yw ei gefndir addysgol, diwylliannol ac economaidd-gymdeithasol a/neu ei nodweddion gwarchodedig a ddiffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn cael y cyfle a'r cymorth i symud ymlaen at, ac o fewn, addysg uwch.
Asesu Cynhwysol
O'r cychwyn cyntaf, dylunio asesiadau sydd mor hygyrch â phosib i bob myfyriwr (gan adnabod efallai y bydd angen addasiadau i asesiadau o hyd ar rai myfyrwyr sydd ag anghenion cymhleth), gan ddefnyddio cysyniadau ‘dylunio cyffredinol’.
Asesu wedi'i Addasu
Gwneud newidiadau rhesymol ac addas i'r dull asesu gwreiddiol er mwyn galluogi pob myfyriwr i gael mynediad at yr asesiad ac ymgysylltu ag ef, heb beryglu safonau cymhwysedd.
Asesu Amgen
Darparu dull asesu gwahanol i fyfyrwyr, sy’n addas ar eu cyfer, ac sydd yn dal i brofi deilliannau dysgu'r asesiad gwreiddiol, heb beryglu safonau cymhwysedd.
Addasiad Rhesymol
Y disgwyliad yn ôl y gyfraith (Deddf Cydraddoldeb 2010) yw bod asesiadau'n hygyrch i fyfyrwyr sydd â gofynion dysgu penodol sydd wedi’u hadnabod (gan gynnwys anableddau, lles, cyflyrau iechyd hirdymor a/neu ofynion dysgu unigol), a bod asesu'n cael ei addasu (gweler asesu wedi'i addasu neu asesu amgen) pan fo'n rhesymol ac yn angenrheidiol er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr ymgysylltu â'r asesiad yn deg. (Caiff hyn ei gysylltu ag arweiniad a pholisïau ychwanegol)
Amseru/Hyd Asesu: Arholiadau bydd y myfyrwyr wedi’u gweld o flaen llaw ac arholiadau na fydd y myfyrwyr wedi’u gweld o flaen llaw (ar y campws neu ar-lein)
Mae arholiadau (rhai y bydd myfyrwyr wedi’u gweld a heb eu gweld o flaen llaw, ar y campws ac ar-lein) fel arfer wedi’u dylunio i fod yn asesiadau ffurfiol byr, lle gellid disgwyl iddynt fod yn dair awr o hyd, ar y mwyaf (gall hyn fod yn amodol ar addasiadau rhesymol). Gall arholiadau sydd yn fwy na thair awr o hyd, neu sy'n gallu cael eu cwblhau dros gyfnod hirach o amser (e.e. 6, 8 neu 24 awr), estyn y teimlad o orbryder i rai myfyrwyr a bydd angen gwneud addasiadau rhesymol i'r asesu o hyd er mwyn sicrhau cyfle cyfartal i fyfyrwyr. Mae hyn yn enwedig o heriol i fyfyrwyr sydd eisoes yn derbyn amser ychwanegol, a myfyrwyr sy’n astudio mewn parthau amser gwahanol. Gall hyn ynddo'i hun arwain at anghydraddoldeb o ran cyfle a phrofiad y myfyrwyr.
Mewn achosion lle mae arholiadau wedi’u llunio i fod yn hirach oherwydd darpariaeth ar-lein, neu er mwyn galluogi myfyrwyr i ymgymryd â nhw ar eu cyflymder eu hunain (gweler Sefyll Arholiadau Adref), dylai myfyrwyr sy'n gymwys ar gyfer amser ychwanegol gael yr amser ychwanegol wedi'i ychwanegu at yr amser y disgwylir gorffen yr arholiad. Fel arall, gellir newid disgwyliadau'r asesiad er mwyn cymryd hyn i ystyriaeth, er enghraifft drwy leihau nifer y cwestiynau sydd i'w hateb, er mwyn galluogi'r myfyriwr i gwblhau'r asesiad o fewn yr amser a ddiffinnir, yn hytrach nag estyn cyfnod yr arholiad.
Gan na fydd myfyrwyr sydd â gofynion dysgu penodol yn medru cyrchu cymorth ychwanegol pan fydd asesiad wedi’i osod mewn cyfnod byr, dylid ystyried dull asesu amgen er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn medru ymgysylltu â’r dull asesu'n deg.
Asesu
Mae'r term cyffredinol 'asesu' yn cynnwys yr holl weithgareddau sydd â'r nod o fesur yr hyn mae myfyrwyr wedi’i ddysgu, gan gynnwys arholiadau ac asesu parhaus, asesiadau ffurfiannol a chrynodol.
Asesu Dilys
Mae Asesu Dilys yn disgrifio unrhyw fath o asesu sy'n adlewyrchu sefyllfaoedd go iawn y gall myfyrwyr eu profi yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Asesu Parhaus
Gwerthuso cynnydd myfyriwr drwy gyfrwng asesu rheolaidd drwy gydol rhaglen astudio, sy'n wahanol i arholiadau.
At ddiben y diffiniadau hyn, mae ‘Asesu Parhaus’ yn cyfeirio at unrhyw ddull asesu sydd â dyddiad cyflwyno, ond nid oes ganddo gyfyngiadau amser eraill fel arall. Cyfeirir ato hefyd fel gwaith cwrs. O ganlyniad, mae gan fyfyrwyr yr amser a'r cyfle yn ystod yr asesiad i gyrchu cymorth drwy sgiliau astudio, prawf-ddarllen allanol neu feddalwedd gymorth ychwanegol pan fo angen.
Arholiad
At ddiben y diffiniadau hyn, mae ‘Arholiad’ yn cyfeirio at unrhyw ddull asesu sydd â chyfyngiadau amser ffurfiol ac sydd fel arfer yn cael ei oruchwylio'n annibynnol, oni bai y nodir yn wahanol. Yn gyffredinol, nid oes gan fyfyrwyr amser na chyfle yn ystod yr asesiad i gyrchu cymorth drwy sgiliau astudio, prawf-ddarllen allanol neu feddalwedd gymorth ychwanegol pan fo angen, ac ychwanegir addasiadau rhesymol eraill, gan gynnwys amser ychwanegol, er mwyn sicrhau cyfle cyfartal.
Arholiad ar y Campws
Arholiad a gynhelir lle mae'r myfyrwyr yn mynychu lleoliad diogel gyda goruchwylwyr annibynnol.
Arholiad Ar-lein
Arholiad y mae myfyrwyr yn ei sefyll ar-lein mewn amgylchiadau sydd mor debyg â phosib i arholiad ar y campws. Fel arfer caiff yr arholiad ei oruchwylio o bell.
Mae'r term 'Arholiad' yn cynnwys yr asesiadau canlynol ym Mhrifysgol Abertawe:
Arholiad na fydd myfyrwyr wedi'i weld o flaen llaw (ar y campws)
Arholiad sydd â chyfyngiadau amser ac sy'n cael ei sefyll gan fyfyrwyr mewn lleoliad diogel gyda goruchwylwyr. Nid yw'r papur wedi cael ei ryddhau i fyfyrwyr o flaen llaw. Oni bai y nodir yn wahanol, ni fydd gan fyfyrwyr fynediad at adnoddau allanol, a rhoddir addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer myfyrwyr unigol pan fo'n berthnasol.
Arholiad na fydd myfyrwyr wedi'i weld o flaen llaw (ar-lein)
Arholiad nad yw myfyrwyr wedi'i weld o flaen llaw, sydd â chyfyngiadau amser, ac sy'n cael ei sefyll ar-lein a'i oruchwylio o bell. Nid yw'r papur wedi cael ei ryddhau i fyfyrwyr o flaen llaw. Oni bai y nodir yn wahanol, ni fydd gan fyfyrwyr fynediad at adnoddau allanol, a rhoddir addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer myfyrwyr unigol pan fo'n berthnasol.
Arholiad bydd myfyrwyr wedi'i weld o flaen llaw (ar y campws)
Arholiad sydd â chyfyngiadau amser ac sy'n cael ei sefyll gan fyfyrwyr mewn lleoliad diogel gyda goruchwylwyr, ond mae'r cwestiynau wedi cael eu rhyddhau i fyfyrwyr cyn yr arholiad. Fel arall, gall pynciau'r arholiad gael eu rhyddhau o flaen llaw, ond ni fydd modd i'r myfyrwyr weld y cwestiynau penodol cyn yr arholiad. Lle y nodir hyn, gall myfyrwyr hefyd gael mynediad at adnoddau allanol yn ystod yr arholiad. Ychwanegir addasiadau rhesymol ar gyfer myfyrwyr unigol pan fo'n berthnasol.
Arholiad bydd myfyrwyr wedi'i weld o flaen llaw (ar-lein)
Arholiad sydd â chyfyngiadau amser sy'n cael ei sefyll ar-lein ac yn cael ei oruchwylio o bell, ond mae'r cwestiynau wedi cael eu rhyddhau i fyfyrwyr cyn yr arholiad. Fel arall, gall pynciau'r arholiad gael eu rhyddhau o flaen llaw, ond ni fydd modd i'r myfyrwyr weld y cwestiynau penodol cyn yr arholiad. Lle y nodir hyn, gall myfyrwyr hefyd gael mynediad at adnoddau allanol yn ystod yr arholiad. Ychwanegir addasiadau rhesymol ar gyfer myfyrwyr unigol pan fo'n berthnasol.
Arholiad Llyfr Agored Cyfyngedig (ar y campws)
Arholiad sydd â chyfyngiadau amser ac sydd wedi’i weld neu heb ei weld o flaen llaw, sy'n cael ei sefyll gan fyfyrwyr mewn lleoliad diogel, fel arfer gyda goruchwylwyr, ond mae gan fyfyrwyr fynediad at adnoddau a deunyddiau allanol penodedig. Ychwanegir addasiadau rhesymol ar gyfer myfyrwyr unigol pan fo'n berthnasol.
Arholiad Llyfr Agored Cyfyngedig (ar-lein)
Arholiad ar-lein sydd â chyfyngiadau amser ac sydd wedi’i weld neu heb ei weld o flaen llaw, sydd fel arfer yn cael ei oruchwylio o bell, ond mae gan fyfyrwyr fynediad at adnoddau a deunyddiau allanol penodedig. Ychwanegir addasiadau rhesymol ar gyfer myfyrwyr unigol pan fo'n berthnasol.
Arholiad i'w Sefyll Adref/Arholiad Llyfr Agored Cyfan
Arholiad sydd â chyfyngiadau amser hirach lle gall myfyrwyr gwblhau'r papur ar eu cyflymder eu hun, yn ystod y cyfnod amser a ddiffinnir o flaen llaw. Ni ddisgwylir i fyfyrwyr dreulio'r holl amser a ganiateir yn gweithio ar y papur arholiad, ac nid yw'r dull arholiad hwn fel arfer yn cael ei oruchwylio. Ychwanegir addasiadau rhesymol i fyfyrwyr unigol pan fo'n berthnasol er mwyn sicrhau hygyrchedd a phrofiad cydradd.
Arholiad Sgiliau Strwythuredig Gwrthrychol/
Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol/
Arholiad Ymarferol Strwythuredig Gwrthrychol (ar y campws)
Mae myfyrwyr yn symud o gwmpas cyfres o orsafoedd profi gan gael eu hasesu ar nifer o ddeilliannau dysgu, fel arfer dan amodau arholi ffurfiol, pob un am gyfnod penodol o amser. Ychwanegir addasiadau rhesymol ar gyfer myfyrwyr unigol pan fo'n berthnasol.
Yn ôl rheoliadau'r Brifysgol, nid yw prawf dosbarth yn cael ei ystyried yn arholiad ffurfiol, ond gall fod yn ddarostyngedig i amodau arholiad o hyd:
Prawf Dosbarth (ar y campws neu ar-lein)
Profion sydd â chyfyngiadau amser sydd fel arfer yn cael eu sefyll yn y dosbarth neu drwy'r Platfform Dysgu Digidol neu feddalwedd briodol arall. Gall y rhain gael neu beidio â chael eu goruchwylio neu eu sefyll yn ddiogel, gyda phapur sydd wedi’i weld neu heb gael ei weld o flaen llaw, ac maent yn aml yn cael eu sefyll ar-lein. Ychwanegir addasiadau rhesymol ar gyfer myfyrwyr unigol pan fo'n berthnasol.
Llawlyfrau Academaidd Cyfadrannau/Ysgolion a’r Brifysgol
Llawlyfrau Cyfadrannau/Ysgolion
Bydd llawlyfrau Cyfadrannau/Ysgolion yn darparu gwybodaeth bwysig i chi am eu datganiad cenhadaeth a strwythur y Gyfadran/Ysgol, yn cyfeirio at faterion arholi ac asesu, sut gall y Gyfadran/Ysgol wella'ch cyflogadwyedd, eich rhwymedigaethau fel myfyriwr, gwybodaeth gyffredinol am gynnwys eich rhaglen a'ch modiwlau, mentora academaidd, gwybodaeth am astudio yn Abertawe a manylion cyswllt defnyddiol.
Mae'n bwysig eich bod yn ymgyfarwyddo â'r wybodaeth hon a ddarperir gan eich Gyfadran/Ysgol oherwydd y bydd angen i chi gyfeirio at y llawlyfr drwy gydol eich amser yn y Brifysgol.
Llawlyfrau Academaidd y Brifysgol
Mae Llawlyfrau Academaidd y Brifysgol yn rhoi trosolwg o rai o reoliadau, polisïau a gweithdrefnau academaidd y Brifysgol sy'n berthnasol i chi a'ch astudiaethau.
Dylech gyfeirio at y llawlyfr hwn am wybodaeth bwysig a allai fod o gymorth i chi yn eich astudiaethau ac ar adegau pan allai fod angen cymorth academaidd arnoch.
Deilliannau Dysgu, Asesu a Dilyniant
Mae deilliannau dysgu penodol gan bob modiwl (a rhaglen). Mewn geiriau eraill, bydd y darlithydd yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y dylech allu eu dangos erbyn diwedd pob modiwl. Dylai'r deilliannau dysgu hyn fod wedi'u nodi yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol neu daflenni'r modiwlau hefyd, ac maent ar gael hefyd yn y catalog modiwlau ar-lein, https://intranet.swan.ac.uk/catalogue/. Bydd y darlithydd yn asesu a ydych wedi bodloni'r deilliannau dysgu hyn ai peidio, naill ai ar ddiwedd y modiwl neu, o bosib, yn ystod y modiwl trwy asesu parhaus.
Bydd gan bob modiwl batrwm asesu sy'n benodol i'r modiwl hwnnw. Er enghraifft, gellir asesu'r modiwl trwy arholiad ac asesu parhaus, neu drwy waith ymarferol. Darperir manylion am y patrwm asesu i fyfyrwyr yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol, fel cynlluniwr asesu. Bydd angen i chi gydymffurfio'n llawn â phatrwm asesu'r modiwl trwy gwblhau pob agwedd ar yr asesu cyn y tybir eich bod wedi cwblhau'r modiwl. Fel arfer, os nad ydych yn cydymffurfio â'r gofynion, byddwch yn methu'r modiwl.
Dyfernir credydau i chi ar ôl i chi gwblhau tasgau asesu'r modiwl yn llwyddiannus. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i ddangos a ydych wedi bodloni deilliannau dysgu'r modiwl ai peidio. Mae credydau'n chwarae rhan allweddol wrth benderfynu a ydych wedi astudio digon o fodiwlau a'u pasio i ganiatáu i chi symud ymlaen.
Rhaid i bob myfyriwr sy'n astudio am radd israddedig gychwynnol sicrhau bod cyfanswm y credydau am y modiwlau a ddilynir ar bob lefel yn cynnig o leiaf 120 o gredydau. Edrychwch ar eich proffil myfyriwr ar y Fewnrwyd i gadarnhau pa fodiwlau rydych wedi'u dewis a faint o gredydau sy'n gysylltiedig â nhw. Rhaid i fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir astudio modiwlau fel a ganlyn:
Rhaglenni Meistr a Addysgir Safonol (Un Flwyddyn) | 180 o gredydau, gyda 120 o gredydau yn Rhan Un a 60 o gredydau yn Rhan Dau. |
---|---|
Rhaglenni Meistr a Addysgir Estynedig (Dwy Flynedd) | 240 o gredydau, gyda 120 o gredydau ym Mlwyddyn Un a 120 o gredydau ym Mlwyddyn Dau. |
Rhaglenni Meistr a Addysgir Hyblyg (Un Flwyddyn) | 180 o gredydau. |
Yn achos myfyrwyr rhan-amser, rhennir y credydau hyn dros fwy nag un sesiwn academaidd. Os oes gennych unrhyw amheuon, fe'ch cynghorir i gysylltu â'ch Cyfadran/Ysgol neu â'r Gwasanaethau Addysg.
Os ydych wedi astudio modiwlau gwerth llai na 120 o gredydau yn Lefel Un/Rhan Un/Blwyddyn Un eich rhaglen astudio, ni fyddwch yn gallu bodloni'r rheolau dilyniant, ac ni chaniateir i chi symud ymlaen i Lefel neu Ran astudio nesaf eich gradd. Rhaid i chi symud o un Lefel/Rhan/Blwyddyn astudio i'r nesaf, ac fel arfer yn achos myfyrwyr amser llawn, bydd hynny'n digwydd bob blwyddyn.
Termau a diffiniadau Dysgu ac Addysgu ar gyfer Dulliau Gwahanol o Gyflwyno
Mae'r diffiniadau hyn i'w defnyddio gan staff a myfyrwyr, a dylent adlewyrchu cynnwys pro fforma modiwl a disgrifiadau ffurfiol eraill gweithgareddau addysgu ym Mhrifysgol Abertawe. Darperir tabl o dermau a diffiniadau yn gyntaf, ac yna enghreifftiau o weithgareddau a ddiffinnir gan ddefnyddio'r termau hynny.
Diffiniadau
Mae'r rhain yn berthnasol i ddysgu, addysgu a mentora academaidd oni nodir fel arall.
Term | Term amgen | Diffiniad | Manylion ac enghreifftiau | Gwybodaeth Bellach |
---|---|---|---|---|
Hunangyfeiriedig | Anghydamserol | “…nid yw'n digwydd yn yr un lle neu ar yr un pryd ar gyfer y garfan gyfan" (ASA/QAA). Mae myfyrwyr yn dysgu yn eu hamser eu hunain, fel arfer gan ddefnyddio deunyddiau a argymhellir. Nid yw wedi'i amserlennu fel arfer ond caiff amser ei ddyrannu mewn modiwl. Nid yw'r addysgwyr yn bresennol ond gall myfyrwyr weithio mewn grwpiau. | Addysgu wedi'i recordio o flaen llaw Gweithgareddau a darllen cyfeiriedig Astudio annibynnol |
QAA |
Amser Cyswllt | Gweithgarwch dysgu ac addysgu a hwylusir gan addysgwr. 2 awr ar gyfer pob credyd mewn modiwl fel arfer (e.e. mae modiwl 10 credyd yn 20 awr o gyswllt). Mae'n cynnwys yr holl weithgarwch byw, ynghyd â gweithgarwch ar-lein a hwylusir, gan gynnwys oriau swyddfa a mentora academaidd a amserlennir. | Unrhyw weithgarwch addysgu, ar y campws neu ar-lein, gan gynnwys gweithgareddau wedi'u recordio ymlaen llaw gofynnol lle gall myfyrwyr gyfranogi gan ddefnyddio oriau swyddfa, e-byst, byrddau trafod etc. | ||
Oriau swyddfa | "Mae staff ar gael ar gyfer ymgynghori, trafodaeth un i un etc" (QAA). Dylai fod wyneb yn wyneb. | Nid yw'n orfodol ar gyfer myfyrwyr. | QAA | |
Wyneb yn wyneb Ar-lein | Ffrydio |
Mae myfyrwyr yn cyfarfod â darlithwyr ar amseroedd rheolaidd sydd wedi’u hamserlennu, gan ddefnyddio amgylcheddau rhithwir ar-lein. Gall fod ar-lein neu ar y campws. Fel arfer mae'n digwydd yn fyw. Pawb gyda'i gilydd yn yr un lle, fel arfer yn cyfeirio at addysgwr a myfyrwyr ond gall hefyd gyfeirio at waith grŵp myfyrwyr. Wedi'i amserlennu fel arfer. |
Teams, Zoom etc Yn cynnwys gweithgareddau wyneb yn wyneb mewn lleoliadau y tu allan i safleoedd Prifysgol Abertawe megis lleoliadau gwaith a gwaith maes. |
|
Wyneb yn wyneb mewn person | Mewn person/Ar y Campws | Mae myfyrwyr yn cyfarfod mewn person â'r darlithwyr ar adegau rheolaidd wedi'u hamserlennu, yn bennaf mewn ystafell ddosbarth neu leoliad dysgu arall. | Darlithoedd, sesiynau ymarferol, seminarau, tiwtorialau, gweithdai efelychu, gweithdai (yn cynnwys gweithgareddau mewn person ar safleoedd nad ydynt yn rhai PA megis lleoliadau gwaith a gwaith maes). | |
Dysgu Cyfunol | Dull cyfarwyddiadol sy'n cyfuno'r defnydd o gyfryngau digidol a thechnolegau ar-lein â dulliau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb. Mae'n gofyn am bresenoldeb cydamserol yr athro a'r dysgwr, gyda rhyw elfen o reolaeth y dysgwr dros amser, lle, llwybr, neu gyflymder y dysgu. Nod y gydran gyfunol yw ymestyn yr amser y mae dysgwyr yn ei dreulio ar dasg: datblygu eu dealltwriaeth, ysgogi eu diddordeb, neu eu galluogi i weithio ar eu cyflymder eu hunain. |
Enghraifft o ddysgu cyfunol yw'r “dosbarth gwrthdro” lle mae dysgwyr yn dod ar draws gwybodaeth cyn y dosbarth, gan ryddhau amser dosbarth ar gyfer gweithgareddau sy'n annog sgiliau meddwl lefel uwch. | ||
Dysgu Hybrid | Dull sy'n cyfuno profiadau mewn person cydamserol traddodiadol, ar-lein cydamserol ac ar-lein anghydamserol i gyflawni amcanion dysgu penodol. Disgwylir i ddysgwyr gymryd rhan mewn cyfuniad o weithgareddau wyneb yn wyneb ac ar-lein lle mae addysgwyr yn darparu cyfarwyddyd i'r dysgwyr yn mewn person ac yn rhithwir ar yr un pryd. Mae addysgu hybrid yn cynnig mwy o hyblygrwydd i ddysgwyr na’r model ystafell ddosbarth traddodiadol, ond yr elfennau gofynnol a’r ffordd y mae’r gweithgareddau cydamserol ac anghydamserol hyn yn cyfuno yw’r hyn sy’n gwahaniaethu hybrid oddi wrth y dull ‘hyflex’. |
|||
Hyflex (Dysgu Hybrid-Hyblyg) | Ymagwedd at addysgu a dysgu sy'n cyfuno cyfarwyddyd ar-lein ac mewn person. Mae'n caniatáu i ddysgwyr i ddewis cyfranogi fesul sesiwn, trwy ymgysylltu mewn person, o bell neu'n anghydamserol, a symud rhwng y tri dull yn ôl yr angen, tra'n dal i ymgysylltu â'r un deunydd cwrs. Gall y dull hwn roi hyblygrwydd i hyfforddwyr a myfyrwyr o ran y cyrsiau a gynigir, yr amserlennu a’r dulliau addysgu. |
|||
Dysgu Ar-lein / O Bell |
O bell/e-ddysgu | Cyflwynir dysgu ac addysgu yn electronig mewn amgylchedd rhithwir trwy amlgyfrwng, y rhyngrwyd a/neu gymwysiadau (ap’iau). Gall gynnwys cymysgedd o weithgareddau cydamserol ac anghydamserol megis dosbarthiadau ar-lein, gweminarau, podlediadau, darlithoedd fideo, ac adnoddau ychwanegol eraill trwy destun neu amlgyfrwng. Mae amser a/neu bellter yn gwahanu'r dysgwr a'r ffynhonnell wybodaeth. |
Nid yw’r addysgwr a’r myfyrwyr gyda'i gilydd yn yr un gofod corfforol. Gall fod yn fyw neu'n hunan-gyfeiriedig. (Sylwch fod y QAA yn ofalus rhag defnyddio’r gair ‘ar-lein’ ond mae’n cario mwy o ystyr i ymgeiswyr a myfyrwyr). | QAA |
Yn fyw | Cydamserol | Mae’r holl fyfyrwyr yn gwneud yr un gweithgaredd, ar yr un pryd, fel arfer gydag addysgwr yn bresennol ac mewn sesiwn wedi'i hamserlennu. Gall fod ar y campws neu ar-lein. |
Sesiynau addysgu traddodiadol ar y campws Unrhyw weithgaredd byw a gyflwynir ar-lein, e.e. darlithoedd, seminarau neu diwtorialau wedi'u ffrydio, goruchwyliaeth, sesiynau adborth. |
Gweithgareddau addysgu cyffredin
Term | Diffiniad | Dull cyflwyno | |
---|---|---|---|
Ar y campws | Ar-lein | ||
Tiwtor Personol | Dynodir aelod o'r staff academaidd i bob myfyriwr i weithredu fel Tiwtor Personol, i gefnogi datblygiad academaidd a phersonol, i ddarparu adborth ar asesu, i weithredu fel cyswllt ar gyfer gofal bugeiliol a chyfeirio at wasanaethau myfyrwyr. Polisi ar y System Tiwtora Personol. | Cyfarfod wedi'i amserlennu rhwng y Tiwtor a’r myfyriwr, naill ai'n unigol neu mewn grŵp. Fe’i cynhelir yn swyddfa'r Tiwtor neu mewn ystafell a drefnir. Caiff presenoldeb ei gofnodi. | Fel ar y campws ond drwy Zoom neu system arall. |
Dysgu Gweithredol |
Dysgu wedi’i hwyluso gan weithgareddau lle mae dysgwyr yn ymgysylltu'n weithredol â chynnwys (e.e. cwisiau ffurfiannol, myfyrio, tasgau grŵp a gweithgareddau cydweithredol). Fel arfer, cânt eu diffinio fel 'gweithgareddau nad ydynt yn ddidactig’. Adnoddau SALT yma |
Gellir ei gynnal mewn unrhyw fan addysgu. Gall technoleg briodol gael ei defnyddio ond nid yw hyn yn hanfodol. | Gall gael ei hwyluso gan ddefnyddio technoleg, er enghraifft sesiwn addysgu ar-lein fyw gan ddefnyddio offer ar Canvas. Gellir defnyddio Zoom i rannu myfyrwyr i ystafelloedd er mwyn trafod neu ar gyfer gweithgareddau cydweithredol. |
Asesu | Galluogi myfyrwyr i ddangos eu bod wedi bodloni deilliannau dysgu gofynnol. Mae asesiadau anffurfiol yn asesiadau ffurfiannol a ddefnyddir i gynorthwyo dysgu myfyriwr, asesu dealltwriaeth myfyriwr a llywio arferion addysgu. Mae asesiadau crynodol yn nodi'r hyn y mae myfyriwr wedi'i ddysgu mewn modiwl ac yn cyfrif tuag at ei radd derfynol ar gyfer y modiwl hwnnw; gallant fod ar sawl ffurf, gan gynnwys arholiadau diwedd modiwl neu asesiadau parhaus yn ystod y modiwl. | Mae asesiadau yn y brifysgol yn cynnwys arholiadau wedi'u hamserlennu mewn ystafelloedd dynodedig, a hefyd brofion mewn dosbarth, cyflwyniadau, arholiadau llafar ac OSCE, lle y bydd yn rhaid i fyfyrwyr fod yn bresennol er mwyn cynnal yr asesiadau. | Mae Cwestiynau Amlddewis, cwisiau, atebion byr, llenwi'r bylchau, gwir/anwir, cwymplen amlddewis, atebion amlddewis, paru, atebion rhifiadol, byrddau trafod, cardiau fflach, posau, labordai rhithwir, cyflwyniadau ar-lein/arholiadau llafar ac arholiadau (gyda phorwyr dan glo a/neu oruchwylio o bell ). Gweithgareddau eraill a gyflwynir drwy'r Amgylchedd Dysgu Rhithwir, megis traethodau, cyflwyniadau, prosiectau, traethodau hir, portffolios, astudiaethau achos, adroddiadau, blogiau neu ysgrifennu myfyriol, posteri digidol neu brosiectau'r cyfryngau, mapiau'r meddwl. |
Addysgu Bloc | Darperir darlithoedd, tiwtorialau a dulliau addysgu eraill mewn bloc dwys. | Fe'u cynhelir mewn mannau addysgu priodol a gallant gynnwys ystod o weithgareddau naill ai mewn modiwl neu ar draws y rhaglen. | Fe'u cynhelir gan ddefnyddio technoleg briodol. |
Dysgu Gwrthdroi/ Dosbarthiadau Gwrthdro |
Dull pedagogaidd a math o ddysgu cyfunol lle mae myfyrwyr yn cwblhau gweithgareddau (e.e. gwylio darlith / deunydd ar-lein) cyn mynychu dosbarth wyneb yn wyneb. Cyflwynir dysgwyr i'r deunydd dysgu cyn y dosbarth (caffael gwybodaeth), ac mae darlithwyr yn hwyluso'r amser dosbarth i ennyn diddordeb dysgwyr gan ddefnyddio gweithgareddau dysgu gweithredol fel datrys problemau, trafodaeth, neu ddadleuon. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr greu gwybodaeth newydd mewn ystafell ddosbarth ‘wedi’i fflipio’. |
Cynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw sy'n seiliedig ar wybodaeth ar yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir. Gweithgareddau dosbarth wedi’u hwyluso sy'n cynnwys trafodaeth gyda chyd-fyfyrwyr ac ymarferion datrys problemau. | Mae’r elfennau sy'n seiliedig ar wybodaeth a’r elfennau rhyngweithiol yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio technoleg briodol drwy'r Amgylchedd Dysgu Rhithwir. |
Astudio a Dysgu Annibynnol |
Mae dysgu annibynnol yn gosod y cyfrifoldeb ar y myfyriwr am ymgysylltu â'r cwricwlwm, datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a dyfnder dealltwriaeth y pwnc. Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag astudio annibynnol er mwyn gallu dangos deilliannau dysgu'r modiwl i lefel uchel, y tu hwnt i elfennau hanfodol y modiwl, a dylid ei hwyluso gan staff addysgu. |
Wedi'i hwyluso gan ddarlithoedd a seminarau byw, gydag argymhellion am ddarllen pellach, gweithgareddau gan ddefnyddio rhestrau darllen, deunyddiau'r llyfrgell a deunydd ategol ychwanegol ar yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir. | Wedi'i hwyluso o bell gan ddefnyddio offer yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir a TEL. |
Grwpiau seminar | Trafodaeth neu sesiwn mewn dosbarth wedi’i hamserlennu sy'n cynnwys grŵp o fyfyrwyr wedi'u rhannu o'r brif garfan. Gall fod ar ffurf gweithdy a chynnwys dysgu gweithredol hefyd. | Caiff y sesiwn ei chyflwyno ar y campws mewn gofod addysgu priodol. | Caiff y sesiwn ei chyflwyno'n fyw ar-lein gan ddefnyddio technoleg briodol |
Mannau Astudio gyda Phellter Cymdeithasol | Mannau astudio dynodedig ar y campws y gall myfyrwyr eu defnyddio i astudio'n annibynnol (gan lynu wrth reolau pellter cymdeithasol presennol). | Caiff y sesiwn ei chyflwyno ar y campws mewn gofod addysgu priodol. | N/A |
Grwpiau Astudio | Sesiwn drafod neu yn yr ystafell ddosbarth sy'n cynnwys grŵp o fyfyrwyr o'r un garfan pan fydd cynnwys pwnc, sgiliau trosglwyddadwy, datblygiad academaidd a chyflogadwyedd yn cael eu trafod yn fanylach. Gall hyn groesi nifer o fodiwlau, gan fynd i'r afael â deilliannau dysgu'r rhaglen. | Fe'i cyflwynir ar y campws mewn gofod addysgu priodol, wedi'i amserlennu a bydd presenoldeb yn cael ei fonitro. | Ar-lein gan ddefnyddio technoleg briodol e.e. Zoom etc, wedi'i amserlenni. Bydd cyfranogiad yn cael ei fonitro. |
Cyfleoedd Symudedd
Gwybodaeth i Fyfyrwyr sy'n dymuno treulio amser dramor yn ystod cyfnod astudio neu leoliad gwaith.
Terminoleg Modiwlau
Dewis Modiwlau
Os ydych yn astudio ar raglen fodiwlaidd, byddwch yn dethol eich modiwlau dewisol ar ddechrau'ch rhaglen. Efallai na fydd rhai myfyrwyr yn gallu astudio modiwlau dewisol, a chânt eu cynghori i siarad â Chyfarwyddwr eu rhaglen. Fel arfer, bydd modiwlau gorfodol wedi'u cofnodi'n awtomatig, ond rhaid cofnodi manylion pob modiwl yn ffurfiol pan fyddant wedi'u dewis a'u cymeradwyo. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau eich bod yn dewis modiwlau sy'n cydweddu â'r rheolau a bennwyd gan y Gyfadran/Ysgol ac sydd wedi'u nodi yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
Os ydych yn fyfyriwr sy'n dychwelyd, ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, bydd eich Cyfadran/Ysgol yn gofyn i chi ddethol eich modiwlau dewisol ar gyfer y lefel astudio nesaf. Os ydych yn newid eich meddwl a byddai'n well gennych ddethol modiwlau eraill, cewch gyfle i ddiwygio'ch detholiad o fodiwlau ar ddechrau'r sesiwn academaidd. Fodd bynnag, mae caniatâd i drosglwyddo rhwng modiwlau a/neu raglenni'n amodol ar gymeradwyaeth a rhaid i chi gwblhau'r broses o fewn yr amser a ganiateir.
Modiwlau
Gellir disgrifio modiwl fel bloc adeiladu mewn rhaglen astudio (cwrs) – mae’n gydran annibynnol ac, fel arfer, mae'n cynnwys cyfres o weithgareddau dysgu, gan gynnwys darlithoedd/tiwtorialau/sesiynau ymarferol ynghyd ag astudio annibynnol a thasgau asesu. Mae gan bob modiwl ddeilliannau dysgu penodol, maes llafur, patrwm dysgu/addysgu, a dull o asesu a ydych wedi cyflawni'r deilliannau dysgu ai peidio. Dynodir nifer o gredydau i bob modiwl.
Strwythur Modiwlau
Gall strwythur modiwl amrywio o bwnc i bwnc, ac yn wir, gall amrywio hyd yn oed o fewn pwnc. Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau'n seiliedig ar strwythur o ddarlithoedd ffurfiol, lle disgwylir i chi fynychu darlithoedd ac ymgymryd ag astudio preifat. Os ydych yn astudio modiwlau sy'n seiliedig ar ddarlithoedd, fel arfer disgwylir i chi fynychu seminarau hefyd. Mae mathau eraill o fodiwl yn cynnwys modiwlau ymarferol, a fydd yn cynnwys elfen sylweddol o waith ymarferol. Yn naturiol, bydd y cysylltiad ffurfiol rhyngoch chi a'r staff academaidd sy'n addysgu'r modiwlau'n fwy yn y modiwlau ymarferol nag yn y modiwlau sy'n seiliedig ar ddarlithoedd. Dylech ddarllen Llawlyfr eich Cyfadran/Ysgol am ragor o wybodaeth am strwythur pob modiwl.
Modiwlau Gorfodol/Craidd
Er y tybir bod modiwlau'n flociau adeiladu annibynnol, gall Cyfadrannau/Ysgolion grwpio rhai modiwlau gyda'i gilydd a nodi eu bod yn fodiwlau gorfodol ar gyfer rhaglenni penodol. Tybir bod y fath fodiwlau'n gydrannau hanfodol o raglenni penodol, ac felly mae'n rhaid i chi astudio'r fath fodiwlau. Darperir manylion am eich modiwlau gorfodol yn Llawlyfr eich Cyfadran/Ysgol.
Mewn rhai disgyblaethau, gellir galw modiwlau gorfodol yn fodiwlau craidd hefyd. Yn ogystal ag astudio modiwlau craidd, mae'n rhaid eu pasio hefyd. Mae'r rhain yn hynod berthnasol mewn pynciau sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol megis y Gyfraith, Seicoleg, Gwaith Cymdeithasol, Meddygaeth a Pheirianneg. Os nad ydych yn llwyddo yn y modiwlau hyn, ni chewch symud o un lefel astudio i lefel arall, na chwblhau'r rhaglen.
Modiwlau Dewisol
Chi sy'n dethol eich modiwlau dewisol. Fel arfer, mae modiwlau dewisol o fewn maes pwnc y rhaglen, ond gallant hefyd gynnwys meysydd pwnc eraill sy'n cael eu cynnig gan y Gyfadran/Ysgol neu bynciau perthynol a gynigir gan Gyfadran arall. Mae rhestr o fodiwlau dewisol cymeradwy ar gael yn eich Gyfadran/Ysgol. Mae staff academaidd bob amser ar gael i'ch cynghori ar ddethol modiwlau dewisol.
Fel arfer, erbyn i chi gyrraedd blwyddyn astudio olaf rhaglen israddedig, bydd nifer y modiwlau gorfodol yn gostwng i ganiatáu mwy o ddewis o fodiwlau dewisol yn y Gyfadran/Ysgol, fel y gallwch astudio pynciau mwy arbenigol. Bydd cyfyngiadau amserlennu bob amser yn cyfyngu ar y dewis o fodiwlau dewisol.
Modiwlau Dethol
Gyda chymeradwyaeth eich Gyfadran/Ysgol cartref, cewch astudio modiwlau dethol. Mae'r modiwlau hyn mewn maes pwnc nad yw'n adlewyrchu cynnwys y rhaglen neu deitl y dyfarniad - er enghraifft modiwl iaith Ewropeaidd. Rhaid i'r Deon Gweithredol neu enwebai gymeradwyo dewis modiwl dethol. Mewn rhai achosion, gall y Gyfadran/Ysgol nodi'r modiwlau dethol. Ni chaniateir i fyfyrwyr ar raglenni Ôl-raddedig a Addysgir astudio modiwlau dethol.
Modiwlau Amnewid
Modiwlau amnewid yw'r modiwlau hynny sy'n cael eu hastudio fel arfer yn ystod yr ail semester, yn lle modiwlau eraill y mae’r myfyriwr wedi tynnu’n ôl ohonynt ar ôl y dyddiad cau a ganiateir, sef chwe wythnos ar ôl cychwyn y modiwl.
Modiwlau Amgen
Modiwlau amgen yw'r modiwlau hynny sy'n cael eu hastudio fel arfer yn ystod yr ail semester yn lle modiwlau a fethwyd yn ystod y semester cyntaf. Gallwch wneud cais i'ch Gyfadran/Ysgol cartref am ganiatâd i astudio modiwl(au) amgen. Bydd y rheolau capio'n berthnasol i'r marciau a enillir ar gyfer modiwlau amgen.
Rheolau Modiwl
Gall Cyfadrannau/Ysgolion fynnu eich bod yn pasio rhai modiwlau penodol cyn y caniateir i chi ddewis modiwl arall - hynny yw, rhaid pasio modiwl 'A' cyn cael astudio modiwl 'B'. Gelwir modiwl 'B' yn rhagofyniad. Yn yr un modd, gall Cyfadrannau/Ysgolion fynnu, os ydych yn dewis modiwl penodol, bod yn rhaid i chi astudio modiwl perthynol arall yn ystod yr un sesiwn. Gelwir y rhain yn gyd-ofynion. Ar y llaw arall, mae rhai modiwlau'n anghydnaws - hynny yw, o ddewis un modiwl, ni chewch ddewis modiwl perthynol arall. Rhaid i chi sicrhau y gallwch gydymffurfio â'r fath ofynion cyn dewis modiwlau unigol.
Lefelau Modiwlau
Dynodir lefel i bob modiwl, sy'n adlewyrchu safon academaidd y modiwl ac yn rhoi syniad o’r disgwyliadau. Yn achos rhaglenni israddedig tair blynedd, lefel 4, 5 a 6 fyddai'r rhain fel arfer (Blynyddoedd 1, 2 a 3) a byddai rhaglenni Meistr Ôl-raddedig a Addysgir ar Lefel 7, a hefyd y modiwlau ym mlwyddyn olaf Graddau Cychwynnol Uwch (e.e. MEng, MMath).
Disgwylir i chi symud o un lefel astudio i'r lefel nesaf yn ystod eich rhaglen fel y bo'n berthnasol, gan ddatblygu'ch gwybodaeth am y pwnc wrth wneud hynny.
Mae'r Flwyddyn Ryngosodol, os ewch dramor i astudio, yn Lefel S, a defnyddir Lefel E i ddisgrifio cyfnod mewn diwydiant neu waith fel cynorthwyydd iaith.
Manylebau Rhaglenni
Mae rhaglen yn gasgliad o fodiwlau wedi'u strwythuro fel eu bod yn creu cyfanswm sy'n dderbyniol yn academaidd. Rhennir rhaglenni israddedig yn Lefelau Astudio (er enghraifft tair lefel ar gyfer rhaglen tair blynedd). Mewn rhaglen sydd â mwy nag un lefel astudio, byddwch yn symud o un lefel i'r lefel nesaf trwy ennill y nifer gofynnol o gredydau. Mae teitl y rhaglen yn adlewyrchu'r cynnwys, a fydd wedi'i bennu gan y Gyfadran/Ysgol ymlaen llaw. Yn achos Graddau Meistr Ôl-raddedig a Addysgir, gellir rhannu'r rhaglen yn Rhan Un a Rhan Dau (y cyfnod dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd), yn Flwyddyn Un a Blwyddyn Dau, neu gall fod yn rhaglen hyblyg barhaus. Er mwyn symud i'r lefel nesaf, rhaid i chi ennill y nifer gofynnol o gredydau.
Mae gan bob rhaglen yn Abertawe strwythur penodol a luniwyd gan staff academaidd y Gyfadran/Ysgolion ac a gymeradwywyd gan y Brifysgol. Mae pob Cyfadran/Ysgol yn creu amlinelliad o'r rhaglen ar ffurf 'manyleb rhaglen' sy'n canolbwyntio ar raglenni astudio unigol ac sy'n amlinellu'r deilliannau dysgu (y wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau, a'r priodweddau y byddech yn disgwyl i’w harddangos erbyn diwedd y rhaglen honno. Mae manylebau rhaglen hefyd yn rhoi manylion am y dulliau addysgu ac asesu a ddefnyddir, ac yn cysylltu'r rhaglen â datganiadau meincnod pwnc Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch ac â Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
Caiff manylebau rhaglen eu cyhoeddi ar gyfer myfyrwyr ar wefan y Brifysgol.
Disgrifwyr Cymwysterau
Mae disgrifwyr cymwysterau'n pennu'r disgwyliadau arferol o ran yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth y dylech eu hennill a gallu eu dangos wrth gwblhau'ch rhaglen yn llwyddiannus. Maent yn ganllawiau ar gyfer pennu safonau addas yn ôl y math o raglen rydych yn ei hastudio, er enghraifft israddedig, ôl-raddedig a addysgir, ôl-raddedig trwy ymchwil, etc. Amlinellir disgwyliadau mwy penodol ar lefel israddedig yn y gwahanol 'ddatganiadau meincnod pwnc' a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch.
Mae Prifysgol Abertawe wedi mabwysiadu disgrifwyr ar gyfer ei rhaglenni gradd/dyfarniad sy'n cynnwys y disgrifwyr cymhwyster a nodir yn y ddogfen Chôd Ansawdd diwygiedig yr ASA.
Trwy ddefnyddio'r disgrifwyr hyn ar gyfer ei dyfarniadau, mae Prifysgol Abertawe'n ymdrechu i wella symudedd graddedigion drwy sicrhau bod modd cymharu lefel ac ansawdd eich dyfarniad yn gyflym ac yn rhwydd â chymwysterau Ewropeaidd, at ddibenion cyflogaeth neu astudio ymhellach.
I gael rhagor o wybodaeth am feincnodau pynciau, disgrifwyr cymwysterau a'r berthynas rhwng fframwaith y DU a fframweithiau Ewropeaidd, ewch i wefan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd: www.qaa.ac.uk o dan‘https://www.qaa.ac.uk/quality-code’.
Strwythur y Flwyddyn Academaidd a Hyd y Diwrnod Addysgu
Tymhorau a Semestrau
I'r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy'n astudio rhaglenni gradd, bydd y patrwm addysgu yn seiliedig ar ddau semester o fewn strwythur tri thymor, sef tymor Mihangel, tymor y Grawys, a thymor yr Haf. I gael manylion llawn sesiynau academaidd cyfredol a rhai'r dyfodol, ewch i Dyddiadau Tymhorau a Semestrau.
Strwythur y Flwyddyn Academaidd ar gyfer Rhaglenni Israddedig
Gellir addysgu modiwlau yn y ddau semester, neu gellir eu haddysgu drwy gydol y sesiwn ar draws semestrau. Y term ar gyfer modiwlau yn y categori olaf yw ‘modiwlau hir’ gan eu bod yn parhau ar draws semesterau. Mae rhai Cyfadrannau/Ysgolion hefyd yn cynnig modiwlau byr dwys iawn, a addysgir dros gyfnod o wythnos/bythefnos. Fel arfer, cyfyngir y rhain i flwyddyn olaf Graddau Cychwynnol Uwch (e.e. MEng, MMath).
Os ydych yn astudio rhaglen yng Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd, bydd y patrwm addysgu'n wahanol oherwydd y gofynion addysgu gwahanol a bennir gan gyrff proffesiynol. Bydd manylion llawn ar gael yn Llawlyfr eich Cyfadran/Ysgol.
Strwythur y Flwyddyn Academaidd ar gyfer Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir
Strwythur y flwyddyn academaidd ar gyfer Rhaglenni Meistr Ôl-raddedig a Addysgir sy’n para am flwyddyn, y rhai Cyffredin a’r rhai Hyblyg, yw cyfnod o 12 mis os ydych yn fyfyriwr llawn amser. Ar gyfer rhaglenni Cyffredin sy’n para am flwyddyn, fel arfer cwblheir Rhan Un (dilyn modiwlau a addysgir) dros gyfnod o dua 9 mis, a Rhan Dau (y traethawd hir) dros gyfnod o dua 3 mis.
O ran rhaglenni Estynedig sy’n para am ddwy flynedd, fel arfer cwblheir Rhan Un dros gyfnod o 9 mis yn ystod Blwyddyn Un, a Rhan Dau (y traethawd hir) fel arfer dros gyfnod o 8 mis yn ystod Blwyddyn Dau. Er hynny, mae rhai rhaglenni ôl-raddedig yn addysgu ac yn asesu eu modiwlau Rhan Un ar ffurf sy’n wahanol i’r patrwm addysgu israddedig arferol, er enghraifft drwy wythnos ddwys neu astudio dros y penwythnos gydag arholiad ar ddiwedd y modiwl, a/neu aseiniad i’w gwblhau yn fuan ar ôl hynny. Ceir manylion yn Llawlyfr eich Cyfadran/Ysgol.
Diploma Ôl-raddedig
Os ydych yn fyfyriwr Diploma Ôl-raddedig amser llawn, bydd strwythur y flwyddyn academaidd fel arfer yn adlewyrchu strwythur Rhan Un rhaglen Meistr a Addysgir.
Tystysgrif Ôl-raddedig
Os ydych yn fyfyriwr Tystysgrif Ôl-raddedig, bydd strwythur y flwyddyn academaidd ar gael yn Llawlyfrau eich Cyfadran/Ysgol.
Hyd y Diwrnod Addysgu
Fel arfer, bydd y diwrnod addysgu o 09:00 i 20:00 ar ddydd Llun, dydd Mawrth, a dydd Iau ac o 09:00 i 18:00 ar ddydd Gwener. Cynhelir addysgu ar ddydd Mercher o 09:00 i 14:00. Bydd y Brifysgol yn ceisio trefnu cyn lleied o sesiynau addysgu â phosibl ar ddydd Mercher rhwng 13:00 a 14:00, a’r nod fydd darparu addysgu o 09:00 i 13:00 yn unig ar ddydd Mercher. Gallai myfyrwyr sydd ar leoliadau sy’n seiliedig ar waith, neu’r rhai sy’n dilyn nifer fach o raglenni sydd â gofynion proffesiynol, gael sesiynau addysgu rheolaidd ar ddydd Mercher ar ôl 14:00. Yn yr achosion hyn, dylai myfyrwyr sydd ag ymrwymiadau chwaraeon neu rai eraill drafod hyn â’u tiwtor neu’u darlithydd.
Pan gaiff darlithoedd eu hail-drefnu (oherwydd absenoldeb na ellir ei osgoi, neu ddigwyddiad arall) a’r unig amser ar gael ar yr amserlen fydd ar ôl 18:00/20:00 (neu 14:00 ar ddydd Mercher), dylid recordio darlithoedd a’u gosod ar Panopto er mwyn iddynt fod ar gael i bob myfyriwr. Caniateir trefnu sesiynau ychwanegol fel tiwtorialau, seminarau neu weithgareddau eraill ar ôl 18:00/20:00 (ac ar ôl 14:00 ar ddydd Mercher) dim ond pan fydd sesiwn arall wedi’i threfnu ar gyfer myfyrwyr (ar yr amod bod y sesiwn arall yn cael ei threfnu er mwyn i fyfyrwyr allu ei mynychu cyn 18:00/20:00 a chyn 14:00 ar ddydd Mercher).
Nid yw hyn yn berthnasol i ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a ddarperir gyda’r hwyr.
Oriau Cyswllt Prifysgol Abertawe
Mae'r ddogfen hon wedi'i llywio gan ganllawiau QAA ar oriau cyswllt (2011), y canllaw Guidance on Teaching Intensity a gyhoeddwyd gan Office for Students mewn perthynas â TEF, a diffiniadau HESA ‘Guided Learning Hours’.
Beth mae 'Oriau Cyswllt' neu 'Amser Cyswllt' yn ei olygu’?
Mae Oriau Cyswllt neu Amser Cyswllt yn ddisgrifiad eang sy'n berthnasol i faint o amser y gall myfyrwyr ddisgwyl ymwneud â staff y Brifysgol (naill ai'n bersonol neu ar-lein) wrth ddysgu - a dylent fod yn strwythuredig, yn llawn ffocws, yn bwrpasol ac yn rhyngweithiol.
Mae Amser Cyswllt, ynghyd â'r amser a neilltuwyd ar gyfer astudio ac asesu annibynnol, yn pennu cyfanswm oriau astudio myfyrwyr ar gyfer modiwl neu raglen. Er bod oriau ar wahân wedi'u dyrannu ar gyfer pob un o'r gweithgareddau hyn, dylid eu cysylltu'n glir â'i gilydd bob amser er mwyn cefnogi dysgu effeithiol.
Mae amser cyswllt:yn gallu bod ar sawl ffurf, yn dibynnu ar eich pwnc, yn ogystal â lle a sut rydych chi'n astudio;
- Yn cynnwys cysylltiadau yn y cnawd ac yn 'rhithwir' ar-lein;
- Yn gallu cynnwys pobl wahanol yn y Brifysgol, e.e. darlithydd, technegydd neu aelod o staff cymorth, neu gyflogwr (yn achos dysgu seiliedig ar waith);
- Yn gallu bod ar-lein yn hytrach nag yn bersonol, er enghraifft trwy ddarlithoedd/seminarau Zoom/Skype, fforymau trafod ar-lein, gweminarau neu hyd yn oed e-bost neu sgwrs fyw.
Dyma rai o'r enghreifftiau mwyaf cyffredin:
- Darlithoedd
- Seminarau
- Tiwtorialau
- Sesiynau goruchwylio prosiectau
- Arddangosiadau
- Sesiynau ymarferol/labordy a gweithdai
- Treulio amser wedi’i oruchwylio mewn stiwdio/gweithdy
- Gwaith maes
- Ymweliadau allanol
- Dysgu seiliedig ar waith (gan gynnwys lleoliadau)
- Sesiynau tiwtora personol
Gallai enghreifftiau eraill llai amlwg, ond yr un mor bwysig, gynnwys:
- Oriau swyddfa (lle mae staff ar gael i drin a thrafod)
- Rhyngweithio drwy e-bost, a chyfryngau electronig neu rithwir eraill
- Sefyllfaoedd lle bydd adborth yn cael ei roi am waith a asesir (un i un neu mewn grŵp).
Mae'r Brifysgol wedi diffinio'r hyn a olygir gan bob un o'r termau Dysgu ac Addysgu y mae'n eu defnyddio ar ei gwefan.
Amser Cyswllt Ar-lein
Gall yr amser cyswllt ar-lein fod yn 'fyw' (neu'n 'gydamserol'), gan ddefnyddio rhaglenni amser real fel Zoom/Skype neu Canvas; neu'n hunangyfeiriedig (neu'n 'anghydamserol'), gan ddefnyddio offer megis fforymau trafod wedi'u cymedroli gan diwtoriaid, blogiau neu wicis. Mae amser cyswllt ar-lein (neu 'o bell') bob amser yn cael ei nodweddu gan bresenoldeb academaidd ac ymgysylltiad o fewn amserlen benodol (mae'r diffiniad hwn yn seiliedig ar yr un a ddarperir gan y QAA).
Faint o Amser Cyswllt ddylwn i ei gael?
Bydd yr amser cyswllt yn amrywio yn ôl pwnc a gofynion eich Rhaglen neu Fodiwl. Er enghraifft, ar gyfer gradd Saesneg neu Hanes lle mae disgwyl i chi dreulio mwy o amser yn darllen ac ymchwilio, bydd llai o amser cyswllt nag ar gyfer Bioleg, pan fyddwch chi'n treulio mwy o amser mewn labordy.
Mae'r amser cyswllt yn cael ei gyfrifo ar sail ddangosol o 2 awr y credyd o fewn strwythur cyffredinol 'Oriau Tybiannol’. Mae oriau tybiannol yn cynrychioli'r cyfanswm amser y dylai gymryd i chi gwblhau modiwl gan gynnwys addysgu ffurfiol, amser astudio preifat, adolygu ac asesu. Cyfrifir oriau tybiannol fel arfer trwy luosi gwerth credyd y modiwl â 10 (10 credyd = 100 awr dybiannol). Byddai hyn yn golygu y byddwch chi'n derbyn tua 20 awr gyswllt ffurfiol ar gyfer modiwl 10 credyd, gan ganiatáu ar gyfer amrywiant o 25% yn fwy neu’n llai i gyfrif am amrywiad pwnc. Gellir diffinio amser cyswllt mewn sawl ffordd, fel y dangosir yn y tabl isod. Does dim hierarchaeth o ran pa fath o gyswllt sydd 'orau' - maen nhw i gyd yr un mor werthfawr.
Amser cyswllt a 'Gwerth am Arian’
Ydy mwy o amser cyswllt yn golygu gwell gwerth am arian? Ddim o reidrwydd. Mae nifer yr oriau cyswllt ar gwrs wedi'i ddylanwadu gan y pwnc, yn ogystal â sut a lle mae myfyrwyr yn astudio. Felly, gallai nifer gymharol isel o oriau gynnig cyfle cystal i fyfyrwyr â chryn dipyn o oriau.
Mae'r QAA yn credu bod profiad o ansawdd da i fyfyrwyr yn golygu'r cyfleoedd gorau i lwyddo yn eu hastudiaethau. Cyfeirir at y ffactorau hyn fel 'cyfleoedd dysgu' ac mae'r QAA yn trafod pa mor dda mae sefydliad penodol yn eu rheoli. Felly, gellir cysylltu ansawdd ag ystod eang o ffactorau gan gynnwys addysgu, gwasanaethau cymorth, mynediad i fannau ac adnoddau dysgu, a phrosesau asesu ac adborth. Does dim tystiolaeth i awgrymu bod modd mesur ansawdd a phrofiad myfyrwyr yn ddibynadwy ar sail oriau cyswllt.
Mae'r diffiniad o oriau cyswllt hefyd yn allweddol – canfyddiaeth myfyrwyr yw mai 'cyswllt' yw'r amser maen nhw'n ei dreulio yn yr ystafell ddosbarth. Fel y nodwyd uchod, bydd hyn yn naturiol yn amrywio yn ôl pwnc, ond erbyn hyn mae amrywiaeth eang o offer a dulliau i fyfyrwyr a staff gysylltu â'i gilydd, sy'n cefnogi, yn galluogi ac yn hwyluso dysgu, sef prif nod y myfyrwyr.
Disgrifiadau o 'Amser Cyswllt' ar gyfer gweithgareddau dysgu
Er mwyn helpu i sicrhau cyd-ddealltwriaeth o'r mathau gwahanol o weithgarwch a all gynnwys 'amser cyswllt', darperir y set ganlynol o ddiffiniadau:
Gweithgaredd dysgu | Sut | Disgrifiad |
---|---|---|
Seminarau/Tiwtorialau/Sesiynau Grŵp Bach Rhyngweithiol | WYNEB YN WYNEB | Mae'r rhain yn sesiynau rhyngweithiol personol, er enghraifft seminarau neu weithdai. Fel arfer, bydd y sesiynau hyn yn cael eu haddysgu mewn grwpiau llai. Does dim angen gofod arbenigol fel arfer, heblaw am le ar lawr gwastad. Mae'r gweithgaredd wedi'i amserlennu. |
Seminarau/Tiwtorialau/Sesiynau Grŵp Bach Rhyngweithiol | AR-LEIN | Sesiynau rhyngweithiol ar-lein yw'r rhain, er enghraifft seminarau neu weithdai. Fel arfer, bydd y sesiynau hyn yn cael eu haddysgu ar-lein mewn grwpiau llai trwy gyfrwng Zoom neu blatfformau eraill. Mae'r gweithgaredd wedi'i amserlennu. |
Sesiynau Arbenigol Pwnc | WYNEB YN WYNEB | Sesiynau wyneb yn wyneb yw'r rhain fel arfer, mewn grwpiau bach sy'n defnyddio gofod arbenigol, er enghraifft sesiynau labordy. Mae'r gweithgareddau wedi'u hamserlennu. |
Addysgu Rhyngweithiol gyda Grwpiau Mawr | WYNEB YN WYNEB | Mae'r rhain yn sesiynau rhyngweithiol, er enghraifft dysgu mewn tîm neu weithdai. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu haddysgu mewn grwpiau mwy fel arfer. Does dim angen gofod arbenigol fel arfer, heblaw am le ar lawr sy’n wastad. Mae'r gweithgareddau wedi'u hamserlennu. |
Addysgu Rhyngweithiol gyda Grwpiau Mawr | AR-LEIN | Mae'r rhain yn sesiynau rhyngweithiol, er enghraifft dysgu mewn tîm neu weithdai. Fel arfer, bydd y sesiynau hyn yn cael eu haddysgu ar-lein mewn grwpiau mwy drwy Zoom neu blatfformau eraill. Mae'r gweithgareddau wedi'u hamserlennu. |
Dysgu Gweithredol | WYNEB YN WYNEB |
Dysgu a ategir gan weithgareddau lle mae dysgwyr yn ymgysylltu'n weithredol â'r cynnwys (e.e. defnyddio cwisiau ffurfiannol, myfyrio, tasgau grŵp a gweithgareddau cydweithredol). Fel arfer yn cael ei ddiffinio fel 'nid didacteg’. Fel arfer mae'n digwydd mewn man addysgu sydd â llawr gwastad, labordy TG neu leoliad addysgu arbenigol arall. Gall dysgu gweithredol ddigwydd mewn darlithfa draddodiadol hefyd. Gellir defnyddio technoleg briodol yn yr ystafell ddosbarth i hwyluso gweithgareddau grŵp. |
Dysgu Gweithredol | AR-LEIN |
Dysgu a ategir trwy weithgareddau lle mae dysgwyr yn ymgysylltu'n weithredol â'r cynnwys (e.e. defnyddio cwisiau ffurfiannol, myfyrio, tasgau grŵp a gweithgareddau cydweithredol). Fel arfer yn cael ei ddiffinio fel 'nid didacteg’. Mae modd defnyddio technoleg i hwyluso dysgu gweithredol, er enghraifft fel sesiwn addysgu gydamserol gan ddefnyddio offer ar Canvas. Gellir ei gynllunio mewn ffordd ddefnyddiol er mwyn helpu myfyrwyr i ddefnyddio deunyddiau anghydamserol. Gellir defnyddio Zoom i rannu myfyrwyr yn ystafelloedd ar gyfer trafod neu weithgareddau cydweithredol. |
Dysgu Gwrthdro | WYNEB YN WYNEB |
Math o ddysgu cyfunol / gweithredol lle mae myfyrwyr yn dilyn elfennau â chyfarwyddiadau (e.e. deunyddiau darlith) yn eu hamser eu hunain yn hytrach nag yn y ddarlithfa. Mae hyn yn digwydd cyn dosbarth cydamserol byw lle mae myfyrwyr yn dysgu mewn ffordd ryngweithiol i wneud y mwyaf o'r sesiwn ymgysylltu. Y nod yw dyfnhau dealltwriaeth trwy drafodaeth gyda chyfoedion a gweithgareddau datrys problemau a hwylusir gan athrawon/addysgwyr. Wedi'i gynllunio fel ystafell ddosbarth wrthdro lle darperir deunyddiau anghydamserol i'w dilyn ar eich hynt eich hun ar y Platfform Dysgu Digidol cyn sesiwn ryngweithiol fyw wedi'i hamserlennu mewn man addysgu priodol ar y campws. Gellir cyfrif amser cyswllt pan fydd myfyrwyr yn rhyngweithio â staff yn y broses 'wrthdro', ond nid pan fydd myfyrwyr yn paratoi'n annibynnol ar gyfer dysgu gwrthdro. |
Dysgu Gwrthdro | AR-LEIN |
Math o ddysgu cyfunol / gweithredol lle mae myfyrwyr yn dilyn elfennau â chyfarwyddiadau (e.e. deunyddiau darlith) yn eu hamser eu hunain yn hytrach nag yn y ddarlithfa. Mae hyn yn digwydd cyn dosbarth cydamserol byw lle mae myfyrwyr yn dysgu mewn ffordd ryngweithiol i ennyn eu diddordeb i’r eithaf. Y nod yw dyfnhau dealltwriaeth trwy drafodaeth gyda chyfoedion a gweithgareddau datrys problemau a hwylusir gan athrawon/addysgwyr. Cyflwynir elfennau anghydamserol a chydamserol gan ddefnyddio technoleg briodol. Gellir cyfrif amser cyswllt pan fydd myfyrwyr yn rhyngweithio â staff yn y broses 'wrthdro', ond nid pan fydd myfyrwyr yn paratoi'n annibynnol ar gyfer dysgu gwrthdro. |
Darlithoedd Byw | WYNEB YN WYNEB | Wedi’u neilltuo ar gyfer adegau lle mae angen dod â charfan at ei gilydd (e.e. darlithoedd gwadd, sesiwn gynefino i garfan benodol). Gall myfyrwyr gael y cyfle i ryngweithio â'r tiwtor. Mae'r gweithgareddau wedi'u hamserlennu. |
Darlithoedd Byw | AR-LEIN | Wedi’u neilltuo ar gyfer adegau lle mae angen dod â charfan at ei gilydd (e.e. darlithoedd gwadd, sesiwn gynefino i garfan benodol). Gall myfyrwyr gael y cyfle i ryngweithio â'r tiwtor. Mae'r gweithgareddau wedi'u hamserlennu. |
Asesiad (Ffurfiannol neu Grynodol) | WYNEB YN WYNEB |
Mae asesu'n caniatáu i fyfyrwyr ddangos eu bod wedi cyflawni deilliannau dysgu modiwl. Mae asesiadau ffurfiannol yn asesiadau anffurfiol a ddefnyddir i gynorthwyo gyda dysgu myfyrwyr, mesur dealltwriaeth myfyrwyr a llywio arferion addysgu. Mae asesiadau crynodol yn crynhoi'r hyn y mae myfyriwr wedi'i ddysgu mewn modiwl ac yn cyfrif tuag at ei radd derfynol ar gyfer y modiwl hwnnw; gallant fod ar sawl ffurf wahanol, gan gynnwys arholiadau diwedd modiwl neu asesiadau parhaus yn ystod y modiwl. Mae asesiadau wyneb yn wyneb yn cynnwys arholiadau wedi'u hamserlennu mewn ystafelloedd penodol, a hefyd profion dosbarth, cyflwyniadau, vivas ac OSCEs, lle mae'n rhaid i fyfyrwyr fod yn y fan a'r lle i gael asesiad. Fel arfer, mae asesiadau'n cael eu harwain gan fyfyrwyr ac yn annibynnol, ac nid ydynt yn cael eu cyfrif yn rhan o amser cyswllt ffurfiol. |
Asesiad (Ffurfiannol neu Grynodol) | AR-LEIN |
Mae asesu'n caniatáu i fyfyrwyr ddangos eu bod wedi cyflawni deilliannau dysgu modiwl. Mae asesiadau ffurfiannol yn asesiadau anffurfiol a ddefnyddir i gynorthwyo gyda dysgu myfyrwyr, mesur dealltwriaeth myfyrwyr a llywio arferion addysgu. Mae asesiadau crynodol yn crynhoi'r hyn y mae myfyriwr wedi'i ddysgu mewn modiwl ac yn cyfrif tuag at ei radd derfynol ar gyfer y modiwl hwnnw; gallant fod ar sawl ffurf wahanol, gan gynnwys arholiadau diwedd modiwl neu asesiadau parhaus yn ystod y modiwl. Mae'r asesiadau sy’n cael eu cynnal yn gyfan gwbl o bell yn cynnwys MCQs, cwisiau, atebion byr, llenwi bylchau, gwir neu gau, cwymplenni lluosog, dewis o atebion, paru, ateb rhifiadol, byrddau trafod, cardiau fflach, posau, labordai rhithwir, cyflwyniadau ar-lein/vivas ac arholiadau (gyda phorwyr clo a/neu broctorion o bell). Cyflwynir mathau eraill o asesu trwy'r VLE, megis traethodau, cyflwyniadau, prosiectau, traethodau hir, portffolios, astudiaethau achos, adroddiadau, blogiau neu ysgrifennu myfyriol, posteri digidol neu brosiectau cyfryngau, mapiau meddwl. Fel arfer, mae asesiadau'n cael eu harwain gan fyfyrwyr ac yn annibynnol, a ddim yn cael eu cyfrif yn rhan o amser cyswllt ffurfiol. |
Sesiynau tiwtora personol | WYNEB YN WYNEB | Cyfarfod wedi'i amserlennu rhwng Tiwtor Personol a myfyriwr, naill ai fel sesiynau un i un neu sesiynau grŵp. Cynhelir cyfarfodydd yn swyddfa'r Tiwtor Personol neu mewn ystafell y gellir ei harchebu o fewn Cyfadran/Ysgol. Mae presenoldeb yn cael ei gofnodi. |
Sesiynau tiwtora personol | AR-LEIN | Cyfarfod wedi'i amserlennu rhwng Tiwtor Personol a myfyriwr, naill ai un i un neu mewn grwpiau bach. Cynhelir cyfarfodydd gan ddefnyddio technoleg fideogynadledda (e.e. Skype/Zoom). Mae presenoldeb yn cael ei recordio. |
‘Oriau Swyddfa’ | WYNEB YN WYNEB | Trefnu amser galw heibio penodol i fyfyrwyr ymgysylltu ag academyddion. |
‘Oriau Swyddfa’ | AR-LEIN | Amser 'galw heibio' ar-lein wedi'i neilltuo i fyfyrwyr ymgysylltu ag academyddion. |
Sesiwn Goruchwylio Prosiect | WYNEB YN WYNEB | Amser goruchwylio wedi'i drefnu neu ad hoc er mwyn helpu myfyrwyr sy'n gweithio ar brosiectau neu draethodau hir. |
Sesiwn Goruchwylio Prosiect | AR-LEIN | Amser goruchwylio ar-lein wedi'i drefnu neu ad hoc er mwyn helpu myfyrwyr sy'n gweithio ar brosiectau neu draethodau hir. |
Gweithgareddau oddi ar y safle | WYNEB YN WYNEB | Ar rai cyrsiau; mae cyfle i wneud gwaith maes, a rhoi'r hyn y mae myfyrwyr wedi'i ddysgu ar waith, yn ogystal ag ehangu gwybodaeth am bwnc penodol, neu ymweld ag amgylchedd sy'n gysylltiedig â'r cwrs. Mae'r gweithgareddau wedi'u hamserlennu. |
Dysgu seiliedig ar waith neu Ddysgu ar Leoliad | WYNEB YN WYNEB | Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw gyfnod o weithgarwch wedi'i gynllunio lle mae myfyrwyr yn ymgysylltu â gweithle trydydd parti fel rhan wedi’i integreiddio o'u rhaglen astudio, a lle darperir goruchwyliaeth gan y tiwtor neu'r trydydd parti. |
Gweithgareddau dysgu ar-lein/cyfunol gyda mewnbwn academaidd | AR-LEIN | Mae'r categori hwn yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau lle mae myfyrwyr yn gweithio'n unigol neu mewn grwpiau ar weithgareddau dysgu sy'n cael eu categoreiddio'n bennaf trwy gael eu hwyluso ar-lein. Maen nhw'n rhan o becyn gwaith a allai gynnwys rhywbeth i'w ddarllen, ei wylio neu wrando arno, ac yna gwaith ymgysylltu gweithredol ar-lein gan gynnwys rhyngweithio ag academydd. Gallant fod yn gydamserol neu'n anghydamserol. Gallai'r gweithgareddau hyn gyfrannu at sesiynau eraill (gweler uchod) naill ai fel gwaith paratoi, gwaith dilynol, neu hanner ffordd trwy weithgaredd, neu unrhyw gyfuniad o hynny. Maen nhw'n rhan annatod o’r dysgu a’r addysgu ar gyfer y modiwl. |
Addysgu ar-lein byw (cydamserol) | AR-LEIN |
Unrhyw sesiynau addysgu sy'n cael eu cyflwyno'n 'fyw' ar-lein, gan gynnwys addysgu ar-lein un i un. Rhoddir cyfle i'r myfyrwyr ryngweithio â'r tiwtor. Mae'r gweithgareddau wedi’u hamserlennu. Mae enghreifftiau'n cynnwys darlithoedd wedi'u ffrydio'n fyw, seminarau neu diwtorials Zoom, sesiynau goruchwylio byw (un-i-un neu grŵp), sesiynau adborth byw, cymedroli fforymau trafod ar-lein etc. |
Dysgu ar-lein hunangyfeiriedig (anghydamserol) | AR-LEIN |
“…does not occur in the same place or at the same time for a whole cohort” (QAA). Mae myfyrwyr yn dysgu ar eu cyflymder eu hunain, gan ddefnyddio deunyddiau y maen nhw wedi cael eu cyfeirio atyn nhw fel arfer. Nid yw’r gwaith hwn fel arfer wedi'i amserlennu, ond mae amser yn cael ei neilltuo o fewn modiwl. Nid yw addysgwyr o reidrwydd yn bresennol yn 'fyw', ond gall myfyrwyr weithio mewn grwpiau, ac mae’r dull yn gofyn am ryngweithio rhwng academyddion a myfyrwyr. Mae enghreifftiau y gellir eu cofnodi fel 'cyswllt' yn cynnwys trafodaethau tiwtorial anghydamserol, byrddau trafod wedi'u hwyluso gan diwtoriaid, a phrosiectau cydweithredol neu unigol a hwylusir gan diwtoriaid fel wicis, padlets, blogiau ac e-bortffolios a thrafodaeth dros e-bost. Er nad ydynt o bosib yn bresennol ar yr un pryd â'r myfyrwyr, mae aelodau'r staff yn ymgysylltu'n weithredol, dro ar ôl tro ac yn uniongyrchol â myfyrwyr i hwyluso ac arwain dysgu, ac maen nhw'n weladwy, yn dangos diddordeb ac yn weithgar yn yr amgylchedd dysgu rhithwir. Nid yw oriau cyswllt dysgu ar-lein anghydamserol yn cynnwys astudio annibynnol myfyrwyr (er enghraifft, myfyriwr yn ail-wylio darlith wedi'i recordio, gweithio trwy ddeunyddiau cwrs heb arweiniad staff, neu adolygu nodiadau darlithoedd a bostiwyd i'r amgylchedd dysgu rhithwir. |
Credydau Prifysgol Abertawe
Gellir ystyried credydau fel 'gwerth' graddau modiwlaidd. Dynodir pwysiad credyd penodedig i bob modiwl sy’n rhoi syniad o’r llwyth gwaith sy’n gysylltiedig â’r modiwl hwnnw.
Disgwylir i chi neilltuo’r un faint o amser ar gyfer modiwlau sydd â'r un gwerth credyd. Mewn modiwl sy'n seiliedig ar waith ymarferol, byddwch yn treulio'r rhan fwyaf o'ch amser ar waith ymarferol ac yn paratoi ar gyfer asesiadau. Mewn modiwl sy'n seiliedig ar ddarlithoedd, byddwch yn treulio amser sylweddol yn astudio'n annibynnol. Ar y cyfan, disgwylir i chi dreulio tua 100 o oriau yn astudio am bob modiwl 10 credyd. Bydd hyn yn cynnwys sesiynau addysgu ffurfiol/gwaith labordy/ymarferol, astudio preifat, adolygu ac asesu.
Lwfans Credydau Israddedig
Fel rheol, bydd myfyrwyr israddedig amser llawn yn astudio cyfanswm o 120 o gredydau'r flwyddyn. Os ydych chi wedi cofrestru am raglen gradd anrhydedd tair blynedd o hyd disgwylir i chi astudio modiwlau sy'n denu 360 o bwyntiau credyd; yn achos rhaglen pedair blynedd y cyfanswm fydd 480. I gael manylion llawn am ofynion credydau rhaglenni amrywiol, darllenwch y rheoliadau penodol a geir yn yr adran o'r enw Rheoliadau Dyfarniadau Israddedig.
Os ydych chi'n fyfyriwr rhan-amser, disgwylir i chi, fel arfer, astudio modiwlau gwerth 60 o gredydau ym mhob blwyddyn academaidd er y gellir addasu hyn rywfaint gyda chaniatâd y Deon Gweithredol neu enwebai, ar yr amod eich bod yn cadw o fewn yr isafswm a’r uchafswm a ganiateir, sef rhwng 30 a 90 o gredydau.
Bydd myfyrwyr amser llawn yn astudio credydau fel a ganlyn.
Rhaglenni Meistr a Addysgir Safonol (Un Flwyddyn) | 180 o gredydau, gyda 120 o gredydau yn Rhan Un eich rhaglen a 60 o gredydau yn Rhan Dau. |
---|---|
Rhaglenni Meistr a Addysgir Estynedig (Dwy Flynedd) | 240 o gredydau, gyda 120 o gredydau ym Mlwyddyn Un eich rhaglen a 120 o gredydau ym Mlwyddyn Dau. |
Rhaglenni Meistr a Addysgir Hyblyg (Un Flwyddyn) | 180 o gredydau. |
Os ydych chi'n fyfyriwr rhan-amser ar raglen Meistr a Addysgir, disgwylir i chi, fel arfer, astudio modiwlau a ddewisir mewn ymgynghoriad â Chydlynydd eich Rhaglen. Fel arfer, bydd myfyrwyr rhan-amser yn astudio rhwng 30 a 60 o gredydau bob blwyddyn.
Disgwylir i fyfyrwyr Diploma Ôl-raddedig astudio 120 o gredydau a disgwylir i fyfyrwyr Tystysgrif Ôl-raddedig astudio 60 o gredydau.
Credydau'r System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd
Datblygwyd y System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd (ECTS) er mwyn darparu gweithdrefnau cyffredin at ddiben sicrhau cydnabyddiaeth academaidd ar gyfer astudiaethau dramor. Mae'n darparu dull o fesur a chymharu credydau academaidd a'u trosglwyddo o un sefydliad yn Ewrop i un arall.
Caiff gwerthoedd credyd Prifysgol Abertawe eu trosi'n werthoedd credyd ECTS drwy rannu gwerth y credyd yn Abertawe â dau. Er enghraifft, mae 20 credyd Abertawe gyfwerth â 10 credyd ECTS.
Bydd dogfennaeth swyddogol, megis y trawsgrifiad academaidd a'r Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch a fydd ar gael i chi ar ôl cwblhau'ch rhaglen astudio yn Abertawe, yn cyfeirio at gredydau Abertawe a chredydau ECTS.
Terfynau Amser i Gwblhau'ch Rhaglen
Bydd eich Cyfadran/Ysgol, a'ch Tiwtor Personol yn benodol, yn monitro'ch cynnydd drwy gydol eich amser astudio gan eich annog i gwblhau eich rhaglen o fewn y terfynau amser a bennwyd. Anogir myfyrwyr i drafod unrhyw broblemau neu bryderon â'u Tiwtor Personol os teimlant nad ydynt yn gwneud y cynnydd disgwyliedig.
Mae'r rheoliadau sy'n berthnasol i gwblhau rhaglen astudio o fewn terfyn amser penodedig ar gael yn rheoliadau eich dyfarniad penodol.
Os nad yw myfyrwyr yn cwblhau eu rhaglen o fewn y terfyn amser penodedig, gallant fod yn gymwys am ddyfarniad ymadael.
Fodd bynnag, gellir gwneud cais i estyn y terfyn amser mewn amgylchiadau eithriadol. Dylech gysylltu â'ch Cyfadran/Ysgol i wneud cais a gaiff ei anfon at Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg, lle caiff y cais ei ystyried yn weinyddol ar ran y Bwrdd Achosion Myfyrwyr. Sylwer, bod angen cyflwyno tystiolaeth annibynnol o'r rheswm dros y cais gyda phob cais am estyniad.
Gellir gweld crynodeb o'r terfynau amser (sy'n cael ei alw'n 'ymgeisyddiaeth') drwy ddilyn y dolenni isod:
Hyd Arferol Ymgeisyddiaeth Myfyrwyr Israddedig
* Mae modd mynychu'n golygu a ydych yn astudio'r rhaglen ar sail amser llawn, ran-amser neu 'gymysg' - h.y. gallwch wneud cais i drosglwyddo rhwng moddau, yn amodol ar y rheoliadau perthnasol, os dymunwch wneud hynny, ac ar yr amod bod y rhaglen ar gael yn y modd arall.
Hyd Arferol Ymgeisyddiaeth:
Amserlenni
Caiff amserlenni addysgu eu llunio gan y tîm amserlenni sy’n cydweithio â’r Cyfadrannau/Ysgolion ac amserlenni arholiadau gan y Swyddfa Arholiadau yn y Gwasanaethau Addysg. Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau nad oes gwrthdrawiadau yn yr amserlenni, cydnabyddir y gallai cyfyngiadau amserlennu eich rhwystro rhag astudio modiwl weithiau. Os oes gennych broblemau oherwydd amserlenni, dylech eu trafod â'ch Cyfadran Cartref yn y lle cyntaf.