Bydd eich mynediad at yr holl ddogfennau Office a ffeiliau eraill sydd wedi'u storio yn eich storfa OneDrive ar gyfer Busnes yn dod i ben pan rydych yn gadael Prifysgol Abertawe, ac ymhen amser byddent yn cael eu dileu.
Eich cyfrifoldeb chi yw hi felly i sicrhau eich bod yn cadw copïau o unrhyw ddogfennau neu ffeiliau efallai bydd angen arnoch ar ôl i chi gadael y Brifysgol, cyn bod eich cyfrif Prifysgol Abertawe yn dod i ben. Ar gyfer staff, hwn fydd y dyddiad mae'ch contract yn dod i ben, ac ar gyfer myfyrwyr, hwn fydd y dyddiad mae'ch cwrs yn dod i ben.
Pwysig: Datblygwyd, gweithredwyd a chefnogwyd OneDrive ar gyfer Busnes gan Microsoft. Golygir hyn fod y Brifysgol ond yn gallu darparu cymorth rheng flaen gyfyngedig, a chaiff problemau mwy cymhleth eu blaenyrru i Microsoft i'w ddatrys.