Diogelwch ym Mhrifysgol Abertawe

Nid sylweddau peryglus yw’r unig beryglon wrth weithio mewn labordai. Gall labordai gynnwys amrywiaeth o beryglon, o wydr, ffleimiau a nodwyddau i gemegion, deunydd biolegol a laserau. Os ydych chi’n defnyddio labordy, sicrhewch eich bod chi’n gyfarwydd â’r rheolau lleol ar gyfer y cyfleuster a chynhaliwch eich arbrofion a’ch gweithgareddau yn unol â’r asesiadau risg a’r gweithdrefnau gweithredu safonol. 

Os nad ydych chi’n siŵr sut i weithredu deunydd penodol neu ddarn o gyfarpar, gofynnwch i gydweithiwr, goruchwylydd, aelod o staff technegol neu eich Arweinydd/Ymgynghorodd Iechyd a Diogelwch. Am ragor o wybodaeth, gweler rheolau eich labordy lleol.

Gellir dod o hyd i ganllawiau a thempledi ar gyfer peryglon penodol drwy ehangu’r teitlau isod: