Canllawiau ar gyfer myfyrwyr a goruchwylwy

Cyfrifoldeb cyfreithiol y darparwr addysg yw sicrhau bod addasiadau rhesymol priodol ar waith i fyfyrwyr sydd ag anableddau a/neu anawsterau dysgu penodol fel na fydd perfformiad y myfyrwyr dan anfantais yn ystod eu cyfnod arholi/asesu.1  

I gael ei ystyried ar gyfer addasiadau rhesymol, argymhellir bod myfyriwr yn trafod ei anghenion â'i oruchwyliwr a/neu dîm ymchwil ôl-raddedig y gyfadran er mwyn gwneud addasiadau ymhell cyn cynnal yr arholiad llafar. Gall addasiadau gael eu diweddaru os caiff anghenion ychwanegol eu nodi'n ddiweddarach. Fodd bynnag, rhaid i addasiadau rhesymol y cytunir arnynt fod ar waith o leiaf un mis cyn cynnal yr arholiad llafar i sicrhau y gellir rhoi gwybod i'r holl bartïon.  

Ceir isod awgrymiadau o bethau i'w hystyried cyn yr arholiad llafar a fydd yn amrywio gan ddibynnu ar anghenion pob myfyriwr. Ni fwriedir i'r rhestr hon fod yn gynhwysfawr ond mae'n cynnwys enghreifftiau o arfer gorau. 

Arholiad llafar ffug 

Drwy sefyll arholiad llafar ffug, gall myfyriwr ymgynefino â fformat a disgwyliadau arholiad llafar a nodi addasiadau ychwanegol y mae angen eu gwneud.  

Arholiad ar-lein, wyneb yn wyneb neu hybrid  

Gall myfyrwyr ddewis sefyll eu harholiad llafar ar-lein, wyneb yn wyneb neu ar ffurf hybrid. Dylai myfyrwyr ystyried pa fformat sydd orau ar gyfer eu hanghenion a'u gofynion penodol. Lle bydd myfyriwr yn gofyn i sefyll ei arholiad llafar wyneb yn wyneb, rhaid ystyried teithio neu gyfyngiadau UKVI (Fisâu a Mewnfudo'r DU) mewn perthynas â'r Arholwr Allanol. Felly, oherwydd goblygiadau penodol gall hyn eu hachosi, efallai mai arholiad llafar hybrid neu ar-lein fyddai'r unig ateb dichonadwy. Mewn achosion lle mae'r myfyriwr wedi gofyn i sefyll arholiad llafar wyneb yn wyneb ond nid yw pob aelod o'r panel yn gallu bod yn bresennol, yna caniateir opsiwn hybrid. Golyga hyn bydd rhai aelodau o'r panel yn bresennol wyneb yn wyneb a bydd rhai eraill yn ymuno ar-lein. 

Cwrdd â'r Cadeirydd cyn yr arholiad llafar  

Ystyrir mai arfer gorau yw i Gadeirydd yr arholiad llafar gwrdd â'r myfyriwr cyn cynnal yr arholiad. Fel rhan o'r cyfarfod hwn, dylai'r Cadeirydd sicrhau bod y myfyriwr yn deall fformat a disgwyliadau'r arholiad llafar a bod pob parti'n deall yn eglur yr addasiadau y mae eu hangen. 

Amgylchedd 

Dylid ystyried lleoliad yr arholiad llafar a pha addasiadau y gellir eu gwneud i greu amgylchedd lle bydd y myfyriwr yn teimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel, gan leihau ffactorau synhwyraidd sy'n tynnu sylw lle bo'n bosib. Os caiff yr arholiad llafar ei gynnal wyneb yn wyneb, gallai hyn gynnwys ystyried lle bydd pob aelod o'r panel yn eistedd ynghyd â defnyddio technoleg gynorthwyol. 

Goruchwyliwr, unigolyn cynorthwyol neu eiriolwr 

Caniateir i oruchwyliwr y myfyriwr neu unigolyn cynorthwyol fod yn bresennol yn ystod ei arholiad llafar. 

Egwylion a dewisiadau o ran rhediad yr arholiad 

Gellir rhoi egwylion drwy gydol yr arholiad i helpu myfyrwyr i reoli eu lefelau egni a lleihau pryder posib neu orlwytho synhwyraidd. Gellir cytuno ar amseroedd egwylion a/neu ofyn amdanynt ar unrhyw adeg yn ystod yr arholiad llafar. 

Lleoedd ar gyfer egwyl 

Os caiff arholiad llafar ei gynnal wyneb yn wyneb, mae'n bwysig sicrhau bod lle addas ar gael i fyfyriwr ei ddefnyddio yn ystod egwylion. 

Cyfathrebu 

Gellir gofyn i arholwyr strwythuro a gofyn eu cwestiynau mewn ffyrdd gwahanol. Ceir isod enghreifftiau o addasiadau ac ystyriaethau y gellir eu gwneud; 

  • Gofyn un cwestiwn ar y tro (gan osgoi cwestiynau sydd â llawer o agweddau arnynt) a bod yn barod i aralleirio cwestiynau os yw'n ymddangos bod y myfyriwr wedi camddeall. 
  • Caniatáu saib byr i'r ymgeisydd lunio ei atebion.  
  • Gadael digon o amser i'r ymgeisydd ddarllen a deall deunydd newydd sy'n cael ei gyflwyno yn ystod yr asesiad.  
  • Cadw llygad ar flinder a rhoi egwylion rhesymol yn ôl yr angen. 
  • Torri cwestiynau'n rhannau byrrach, gan ailadrodd ac aralleirio os oes angen a chaniatáu atebion  rhannol.  
  • Ysgrifennu cwestiynau neu ychwanegu at y sgwrs os bydd gofyn. 
  • Gofyn i arholwyr osgoi defnyddio iaith drosiadol, bod yn barod i aralleirio/ofyn cwestiynau mewn geiriau mwy eglur a diriaethol os bydd yr ymgeisydd yn ei chael hi'n anodd dehongli'r hyn sy'n cael ei ofyn neu wrth fynegi ei wybodaeth yn eglur a dylid eu hannog i ailgyfeirio/atgoffa'r ymgeisydd os bydd yn cyfeiliorni neu'n ei chael hi'n anodd pwyso a mesur faint o wybodaeth y mae ei hangen. 
  • Bod yn barod i aralleirio/ofyn cwestiynau mewn ffordd fwy eglur a diriaethol os yw'r ymgeisydd yn ei chael hi'n anodd dehongli'r hyn sy'n cael ei ofyn neu wrth fynegi ei wybodaeth yn eglur. 
  • Sicrhau bod arholwyr yn ymwybodol o'r ffaith y gall fod ymddygiad/cyfathrebu cymdeithasol anarferol a mwy o bryder na'r hyn a ddisgwylir yn nodweddiadol (gellir awgrymu egwylion byr os bydd angen). 
  • Bod yn ymwybodol o'r ffaith y gall fod pryder sy'n fwy difrifol na'r hyn a ddisgwylir yn nodweddiadol; Mabwysiadu ymagwedd bwyllog a deallgar ac awgrymu egwylion byr os bydd angen.