Mae'r adran hon yn cynnwys atebion i gwestiynau cyffredin am y broses o drefnu rhif CAS.
Cwestiynau Cyffredin am gyflwyno Cadarnhad Derbyn i Astudio
Beth yw rhif CAS?
Mae rhif CAS yn ddogfen electronig bwysig iawn y bydd ei hangen arnoch cyn cyflwyno eich cais am fisa Haen 4. Mae'n rhaid i chi wneud cais am eich CAS cyn i chi ddechrau er mwyn cwblhau eich ffurflen gais am fisa, oherwydd y bydd angen i chi gynnwys gwybodaeth allweddol fel y nodir ar ddatganiad eich CAS, megis y rhif CAS unigryw sy'n cadarnhau mai Prifysgol Abertawe fydd eich noddwr Haen 4.
Pam bod angen rhif CAS arnaf?
Bydd angen rhif CAS arnoch i wneud cais am fisa er mwyn eich galluogi chi i astudio yn y DU gyda noddwr Haen 4.
Sut gallaf gael rhif CAS?
Bydd angen i chi gysylltu â'r Uned Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol (ISCU) ar studentcompliance@abertawe.ac.uk i ofyn am ffurflen gais CAS. Bydd yr Uned Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol wedyn yn eich arwain drwy'r broses CAS.
Mae fy nghyfeiriad yn y DU yn ystod y tymor wedi newid. Beth dylwn i ei wneud?
A chithau'n ddeiliad fisa Haen 4, byddwch yn gyfrifol am ddiweddaru eich cyfeiriad yn y DU yn ystod y tymor pan fyddwch yn astudio yn y DU. Os ydych yn penderfynu symud cyfeiriad ar unrhyw adeg yn ystod eich astudiaethau, bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif ar y fewnrwyd a diweddaru eich manylion cyn gynted ag y byddwch wedi symud i'ch llety newydd.
Mae angen tystysgrif ATAS ar gyfer fy nghwrs Sut rydw i'n gwneud cais am ATAS?
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS) a sut i wneud cais, ewch i adran MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws y wefan.
Rwyf yng nghanol adnewyddu fy mhasbort. A fydd hyn yn cael effaith ar fy Nghadarnhad Derbyn i Astudio?
Byddwn yn gofyn i weld copi o'ch pasbort cyfredol cyn cyflwyno CAS. Y pasbort cyfredol a gyflwynwyd i'r Uned Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol gyda'ch cais CAS fydd y pasbort a fydd yn cael ei ychwanegu at eich CAS a bydd angen i chi ei gyflwyno gyda'ch cais am fisa Haen 4.
Os ydych wedi derbyn CAS newydd erbyn i'r pasbort newydd gyrraedd, bydd angen i chi roi gwybod i'r Uned Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol fod eich pasbort newydd wedi cyrraedd drwy anfon copi o'r pasbort newydd atom ni. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ychwanegu nodyn noddwr at eich CAS drwy'r System Rheoli Nawdd (SMS) cyn i chi gyflwyno eich cais am fisa. Wedyn bydd angen i chi gyflwyno eich pasbort newydd gyda'ch cais am fisa Haen 4.
Am ba mor hir fydd fy CAS yn ddilys?
Bydd y CAS yn ddilys am chwe mis o'r dyddiad y cafodd ei neilltuo.
Ble gallaf gael rhagor o gyngor a chanllawiau am gynhaliaeth?
Gallwch gysylltu â'n Cynghorwyr Myfyrwyr Rhyngwladol ar MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws, International.Campuslife@abertawe.ac.uk i gael cyngor ac arweiniad pellach neu gallwch drefnu apwyntiad i gwrdd ag un o'n cynghorwyr cymwys.
Rwyf wedi astudio yn y DU o'r blaen gyda fisa myfyriwr. A fydda i'n gymwys am rif CAS ar gyfer ail fisa myfyriwr?
Byddwch, yn amodol ar fodloni gofynion Fisâu a Mewnfudo y DU o ran "cynnydd academaidd" a chyfyngiadau amser.
Erbyn diwedd eich cwrs newydd, rhaid sicrhau nad ydych wedi treulio mwy na phum mlynedd yn astudio cymwysterau Bagloriaeth a Meistr ar fisa myfyriwr o'r DU (chwe blynedd os hyd safonol eich cwrs israddedig yw pedair blynedd).
Os nad yw fy nghais am fisa yn llwyddiannus, a allaf ddefnyddio'r un rhif CAS i ail-ymgeisio?
Os bydd eich fisa'n cael ei wrthod gan y Swyddfa Gartref, ni ddylech geisio ailddefnyddio'r CAS i wneud cais newydd am ganiatâd. Er mwyn gallu gwneud cais arall, bydd angen i chi wneud cais am CAS newydd o'ch noddwr Haen 4, a chynnig cais cwbl newydd am ganiatâd.
A fyddaf bendant yn cael fisa os ydw i'n derbyn rhif CAS?
Na fyddwch. I sicrhau eich bod yn cael fisa mae'n rhaid i chi fodloni holl ofynion eraill rheolau a rheoliadau mewnfudo'r DU. Gallwch weld yr wybodaeth hon ar wefan MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws.
Ble gallaf ddod o hyd i wybodaeth am agweddau eraill ar y broses gwneud cais am fisa?
Darperir cyngor a chanllawiau gan dîm cyngor myfyriwr rhyngwladol Prifysgol Abertawe yn MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am agweddau eraill ar fewnfudo o ran y broses gwneud cais am fisa ar wefan Fisâu a Mewnfudo y DU.