Trosolwg | |
---|---|
![]() |
Lefel 1, 2, 3, Master's a lefel PhD |
![]() |
5 gweithdy 2 awr |

Bydd y modiwl hwn yn cynnig hyfforddiant ar ddefnyddio Word, Excel a PowerPoint Microsoft i’w defnyddio yn eich gwaith academaidd. Mae’r cwrs ymarferol hwn yn rhoi cyfle i chi weithio gyda thempledi academaidd i fireinio eich sgiliau wrth fformatio dogfen, dewis dyluniad a threfnu data. Bydd y sesiynau’n esbonio’r rhesymau dros ofynion cyflwyno; help i ddewis yr ymagweddau mwyaf priodol a rhoi awgrymiadau i chi wella eich effeithlonrwydd amser ar gyfer cwblhau tasgau a chyflwyno eich gwaith.
Gwybodaeth: Mae modiwlau sy'n cario'r cod UG yn fodiwlau dwyn credyd. Golyga hyn y bydd cwblhau'r modiwlau hyn yn llwyddiannus trwy fynychu 80% o'r cwrs, yn ymddangos ar eich Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR).
MAES LLAFUR
Wrth ichi gofrestru, gallwch ddewis pa weithdai yr hoffech fynd iddynt ymhlith y canlynol:

Gweithdy 1: Fformatio eich Aseiniad
Dewch i'n gweithdy fformatio traethawd i ddysgu canllawiau i fanteisio i'r eithaf ar Microsoft Word. Byddwch yn dysgu sut i gyflawni safonau academaidd a rhoi sglein proffesiynol i'ch gwaith.
CAMPWS BAE
Dydd Mercher 8fed Chwefror 2023, 14:00-16:00
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mawrth 14eg Chwefror 2023, 10:00-12:00
AR-LEIN DRWY ZOOM
Dydd Gwener 10fed Mawrth 2023, 10:00-12:00

Gweithdy 2: Dylunio Sleidiau
Ydy'ch cyflwyniadau'n ennyn diddordeb eich cynulleidfa? Dewch i'n gweithdy rhyngweithiol ar ddylunio sleidiau i ddarganfod ein canllawiau gorau i fanteisio i'r eithaf ar Microsoft PowerPoint. Byddwch yn creu cyflwyniadau mwy deniadol ac yn osgoi camgymeriadau sylfaenol sy'n colli diddordeb eich cynulleidfa.
CAMPWS BAE
Dydd Mercher 15fed Chwefror 2023, 14:00-16:00
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mawrth 21ain Chwefror 2023, 10:00-12:00
AR-LEIN DRWY ZOOM
Dydd Gwener 17eg Mawrth 2023, 10:00-12:00

Gweithdy 3: Didoli Data 1
Am ganfod ffordd effeithlon o brosesu eich data? Dysgwch sut i drefnu a labelu symiau mawr o wybodaeth, er mwyn ichi dynnu’r union wybodaeth y mae ei hangen arnoch.
CAMPWS BAE
Dydd Mercher 22ain Chwefror 2023, 14:00-16:00
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mawrth 28ain Chwefror 2023, 10:00-12:00
AR-LEIN DRWY ZOOM
Dydd Gwener 24ain Mawrth 2023, 10:00-12:00

Gweithdy 4: Didoli Data 2
Gan adeiladu ar y sgiliau Microsoft Excel a ddatblygwyd yn y gweithdai Didoli Data 1. Datblygu tablau pifod i dynnu gwybodaeth allweddol wrth adael y data gwreiddiol yn gyfan, ac archwilio ffyrdd i gyflwyno’r wybodaeth y daethpwyd o hyd iddi.
CAMPWS BAE
Dydd Mercher 1af Mawrth 2023, 14:00-16:00
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mawrth 7fed Mawrth 2023, 10:00-12:00
AR-LEIN DRWY ZOOM
Dydd Gwener 31ain Mawrth 2023, 10:00-12:00

Gweithdy 5: Dylunio Poster
Hoffech chi ddylunio posteri o safon broffesiynol i ennyn sylw eich cynulleidfa? Dyluniwch bosteri academaidd effeithiol, gan sicrhau bod yr wybodaeth yn ddarllenadwy o bellter priodol.
CAMPWS BAE
Dydd Mercher 8fed Mawrth 2023, 14:00-16:00
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mawrth 14eg Mawrth 2023, 10:00-12:00
AR-LEIN DRWY ZOOM
Dydd Gwener 28ain Ebril 2023, 10:00-12:00