dyn yn taro bwrdd gyda'i ddwrn ac yn gweiddi

Y ddadl

Mae adeiladu dadl resymegol a chadarn yn dibynnu ar eich gallu i ddarllen, ysgrifennu a meddwl yn feirniadol. Os ydych yn cael adborth sy'n awgrymu bod eich ysgrifennu'n rhy ddisgrifiadol neu fod eich dadl yn aneglur, dylech wirio eich bod yn deall yr hyn mae'n ei olygu i fod yn feirniadol. Mewn amgylchedd academaidd, mae bod yn feirniadol yn golygu canolbwyntio ar y cwestiwn rydych yn ei ateb, gwneud honiadau neu ddod i gasgliadau sy'n cysylltu'n uniongyrchol â'r cwestiwn, a sicrhau bod popeth rydych yn ei gynnwys yn eich aseiniad yn cyfrannu at brofi'r honiadau a'r casgliadau hynny.

Gair i Gall: Gall cynllunio eich traethawd fod o gymorth mawr wrth ddatblygu dadl. Bydd cynllunio'n eich helpu i brosesu eich barn am y pwnc, meddwl am sut mae eich syniadau'n cydweddu, a chanolbwyntio ar y cynnwys rydych am ei gynnwys.

Y ddadl gyffredinol: Cydlyniant a Pherthnasedd
Dynes yn ystumio gyda'i dwylo fel petai'n dadlau

Bydd hyd yn oed yr aseiniad gorau, sy'n cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol, yn methu cael sgôr uchel os nad yw'r wybodaeth honno wedi'i threfnu'n gywir; dylai fod yn amlwg, felly, fod strwythur a chynnwys  yn cydweithio er mwyn adeiladu dadl dda. Yn ogystal â defnyddio'r awgrymiadau ynghylch strwythur a amlinellir uchod, meddyliwch am sut rydych am symud eich darllenydd o'ch man cychwyn i gasgliad eich dadl: beth mae angen i'ch darllenydd ei wybod am un rhan o'ch aseiniad er mwyn deall rhan arall?

Fel arfer, bydd dadl yn ein hargyhoeddi os yw'n gwneud dau beth: mae'n rhoi rhesymau da inni sy'n cefnogi'r casgliad ac mae'n rhoi rhesymau da pam mae safbwyntiau gwrthwynebol (os oes rhai) yn anghywir neu'n waeth. Fel arfer, cyfeirir at safbwyntiau gwrthwynebol fel 'gwrthddadlau'. Fel arfer, cyfeirir at ddatganiadau a thystiolaeth sy'n ein hargyhoeddi o wendid neu annilysrwydd (hynny yw, diffyg cywirdeb) gwrthddadlau, fel 'gwrthbrofion'. Mae'n bwysig cynnwys gwrthddadlau er mwyn sicrhau nad oes tuedd yn eich dadl, ond hefyd mae'n bwysig cynnwys gwrthbrofion er mwyn sicrhau bod eich dadl yn aros ar y trywydd iawn a'i bod yn gydlynol. Mae'r cwrs Meddwl yn Feirniadol a'r cyrsiau Ysgrifennu Academaidd a gynhelir gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn gallu eich helpu i feithrin y sgiliau y mae eu hangen arnoch er mwyn adeiladu dadl.

Cefnogi eich Honiadau Defnyddio Ffynonellau