Argraff arlunydd o'r Ystafell Gemau yn Harbwr Fulton
Argraff arlunydd o Harbwr Fulton
Argraff arlunydd o'r ystafell gemau yn Harbwr Fulton

Harbwr Fulton – Eich Man Cymdeithasol Newydd ar Gampws Singleton

Harbwr Fulton yw ein man cymdeithasol newydd ar Gampws Parc Singleton - yn yr hen ffreutur ar lawr cyntaf Tŷ Fulton.

Mae'r gwaith i adnewyddu'r Ffreutur a'r mannau o'i gwmpas yn rhan o raglen fesul cam i ailddatblygu a gweddnewid Tŷ Fulton cyfan a'i droi'n ganolfan sy'n canolbwyntio ar anghenion myfyrwyr yng nghanol y campws.

Mae Harbwr yn Nhŷ Fulton yn cynnig man cyfarfod cyfforddus a chroesawgar yng nghanol y campws i bawb ei fwynhau ac, o 18 Medi, bydd ar agor i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr â'r Brifysgol.

Dewiswyd yr enw Harbwr gan randdeiliaid allweddol er mwyn adlewyrchu lleoliad Prifysgol Abertawe ar lan y môr ynghyd â'n hunaniaeth Gymraeg. Mae'n adeiladu ar y cysyniad y bydd y man cymdeithasol i fyfyrwyr ar ei newydd wedd yn Nhŷ Fulton yn lloches, a fydd yn meithrin y teimlad o ddod 'adref' fel pan fydd cychod yn dychwelyd i'r harbwr.

Bydd yn darparu man cymdeithasol a gweithgareddau amlbwrpas, â chymysgedd o fathau o seddau, gosodiadau digidol ac ardal 'deras' awyr agored unigryw, gan fanteisio i'r eithaf ar ein lleoliad heb ei ail ym Mae Abertawe. 

Bydd ystafell gemau yn agor ym mis Hydref yn hen Ystafell y Gorllewin hefyd. Yma byddwch yn gallu cwrdd fel grŵp, ymlacio a chymdeithasu neu herio ffrindiau i gêm o bêl-droed bwrdd, pŵl neu Monopoly.

Bwyta ac yfed yn Harbwr Fulton

Bydd cegin a lle gweini newydd i wasanaethu Harbwr yn agor yn ddiweddarach yn y tymor.  Bydd hi’n gweini amrywiaeth o fwydydd i apelio at bob chwaeth a chyllideb, gan gynnwys prydau wedi'u hysbrydoli gan fwyd Periw, ffefrynnau Americanaidd a bwydydd cysur cartref.

Yn y cyfamser, bydd amrywiaeth wych o opsiynau bwyd a diodydd i staff a myfyrwyr eu mwynhau yn Harbwr, o'n cegin dros dro y tu allan i Dŷ Fulton, ar y dde,  a bydd gwasanaethau clicio a chasglu ar gael drwy ap Uni Food Hub neu gan unrhyw un o'r gwerthwyr bwyd eraill ar y campws.

Oriau Agor

  • Bydd y lle ar agor o 8am tan 11pm.
  • Oriau Cegin - 8am - 8pm.

Cylfeusterau sydd ar gael

 Mae Harbwr Fulton yn cynnwys amrywiaeth eang o gyfleusterau. Gydag amrywiaeth o opsiynau o ran eistedd, gan gynnwys soffas cyfforddus, ardaloedd eistedd ar ffurf bwth neu mewn rhesi, mae’r lle cymdeithasu gwych hwn yn cynnwys sgrîn deledu enfawr, toiledau’n syth y tu allan iddo a llawer o leoedd i chi wefru eich dyfeisiau. Gallwch chi hefyd fwynhau golygfeydd ar draws y bae ar y teras neu chwarae pŵl, pêl-droed bwrdd neu denis bwrdd neu efallai gêm Monopoly dawel gyda ffrindiau yn yr ystafell gemau gyfagos a fydd yn agor yn ddiweddarach y mis Hydref hwn. 

Ystafell Gemau

Mae’r holl gemau bwrdd/bat ac eitemau eraill yn cael eu cadw y tu ôl i’r bar yn JC’s ac yn eiddo i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Gallwch archebu unrhyw rai o’r eitemau sydd ar gael drwy far JC, gan ddefnyddio’ch cerdyn myfyriwr fel blaendal. Pan fydd yr offer yn cael ei ddychwelyd i'r bar, bydd eich cerdyn myfyriwr hefyd yn cael ei ddychwelyd. Os na chaiff gemau bwrdd ac eitemau eu dychwelyd, codir tâl am golled neu ddifrod i'r deiliad cerdyn.