RHANNU ADBORTH, CANMOL, GOFYN CWESTIWN NEU GYNNIG AWGRYM

Eich platfform llais y myfyrwyr yw MyUniVoice. Mae'r platfform wedi'i gynnal gan Unitu ac mae'n lle ar-lein diogel lle gall myfyrwyr, cynrychiolwyr a staff grybwyll, trafod a datrys problemau academaidd a chyffredinol gyda'i gilydd, yn ogystal â chanmol, gofyn cwestiynau neu gynnig adborth adeiladol yn ddienw. Mae'n galluogi'r Brifysgol i ymateb i adborth a gweithredu arno mewn amser go iawn i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posib fel myfyriwr gyda ni yma ym Mhrifysgol Abertawe.

Enillodd Unitu a Phrifysgol Abertawe Wobr Arloesedd Technolegol y Flwyddin yn 2019. Gwnaeth beirniaid ganmol y platfform am chwyldroi'r ffordd y mae'r Brifysgol yn ymdrin â dysgwyr ynghylch materion allweddol, megis lles a chludiant.

Felly, sut mae'n gweithio?

Bwrdd Trafod

Rhannu unrhyw gwestiynau, syniadau neu ganmoliaeth gyhoeddus neu breifat

Speech bubbles

Mannau Cyswllt

I staff ofyn cwestiynau, agendâu myfyrwyr, a thracio camau gweithredu

Multi-coloured shape

Pwls

Mae pwls yn casglu adborth myfyrwyr yn gyflym i fesur ymgysylltiad a ddiddordeb

Pulse icon

Dyma rai enghreifftiau'n unig o sut mae eich adborth wedi ein helpu ni i wneud gwelliannau:

  • Mae llawer o fannau newydd i fyfyrwyr bellach
  • Mae oriau agor mannau astudio dros y penwythnos wedi cael eu hymestyn mewn dau leoliad
  • Gosodwyd man croeso newydd ar Gampws y Bae
  • Gosodwyd arwyddion gwell ar gyfer mannau ail-lenwi poteli dŵr
  • Wi-Fi gwell ym mhreswylfeydd Campws y Bae
  • Gosodwyd microdonau yn Llyfrgell Singelton
Together we Changed Logo
MyUniVoice logo