Beth yw Cynrychiolydd Myfyrwyr?
Mae'r system Cynrychiolwyr Myfyrwyr (Parth Addysg) yn bartneriaeth rhwng Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol.
Bob blwyddyn, caiff mwy na 400 o Gynrychiolwyr Myfyrwyr eu hethol i weithio'n agos gyda Swyddog Addysg Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod diddordebau, lleisiau a barn myfyrwyr yn cael eu cynrychioli ar draws y Brifysgol.
Swydd cynrychiolydd yw gwrando, coladu a chyfleu barn y myfyrwyr yn eu carfannau. Mae Cynrychiolwyr yn gweithio gyda'r Brifysgol i gymryd perchnogaeth ragweithiol ar y profiad dysgu, darparu adborth adeiladol a helpu i wneud gwahaniaeth o ran cynnal eu cyrsiau a'u hadrannau. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i chwarae rhan fwy gweithgar yn eu profiad dysgu ac mae’n sicrhau bod Prifysgol Abertawe'n parhau i fod yn lle anhygoel i astudio.
Yn ogystal, gall cynrychiolwyr gymryd rhan mewn ymgyrchoedd a gynhelir gan Swyddog Addysg Undeb y Myfyrwyr neu gynnal eu hymgyrchoedd eu hunain i gael effaith gadarnhaol ar eu Hysgol a’r Brifysgol.