Aerial photo of three women sitting and chatting on colourful beanbags on a grey floor

Beth yw Cynrychiolydd Myfyrwyr?

Mae'r system Cynrychiolwyr Myfyrwyr (Parth Addysg) yn bartneriaeth rhwng Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol.

Bob blwyddyn, caiff mwy na 400 o Gynrychiolwyr Myfyrwyr eu hethol i weithio'n agos gyda Swyddog Addysg Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod diddordebau, lleisiau a barn myfyrwyr yn cael eu cynrychioli ar draws y Brifysgol.

Swydd cynrychiolydd yw gwrando, coladu a chyfleu barn y myfyrwyr yn eu carfannau. Mae Cynrychiolwyr yn gweithio gyda'r Brifysgol i gymryd perchnogaeth ragweithiol ar y profiad dysgu, darparu adborth adeiladol a helpu i wneud gwahaniaeth o ran cynnal eu cyrsiau a'u hadrannau. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i chwarae rhan fwy gweithgar yn eu profiad dysgu ac mae’n sicrhau bod Prifysgol Abertawe'n parhau i fod yn lle anhygoel i astudio.
Yn ogystal, gall cynrychiolwyr gymryd rhan mewn ymgyrchoedd a gynhelir gan Swyddog Addysg Undeb y Myfyrwyr neu gynnal eu hymgyrchoedd eu hunain i gael effaith gadarnhaol ar eu Hysgol a’r Brifysgol.

Beth yw'r buddion o fod yn Gynrychiolydd?

Mae bod yn gynrychiolydd yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd ac ennill sgiliau newydd. Peidiwch â derbyn ein gair ni am hyn! Dyma beth oedd gan rai o gynrychiolwyr y gorffennol i'w ddweud:

“Rwy'n dwlu ar fod yn gynrychiolydd. Gwnes i ffrindiau newydd a thyfodd fy hyder."

“Bod yn gynrychiolydd oedd un o'r pethau gorau a wnes i yn y Brifysgol. Rwy’n teimlo fy mod i wedi gwneud gwahaniaeth go iawn.”

“Dysgais i gymaint yn ystod fy amser fel cynrychiolydd. Gwn y byddaf yn defnyddio'r sgiliau a enillais drwy gydol fy ngyrfa.”

Gallwch enwebu eich hun i fod yn Gynrychiolydd Myfyrwyr yn ystod ein cyfnod ymgyrchu, a gynhelir o ddydd Llun 20 Medi tan ddydd Gwener 8 Hydref.

Three students working together around a laptop
Reps enjoying a social at the Students' Union bar