Rhagarweiniad

Mae Prifysgol Abertawe wedi sefydlu Polisi Cyswllt Dibynadwy i ategu lles a diogelwch ei myfyrwyr. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i nodi cyswllt dibynadwy y gall y Brifysgol gysylltu ag ef os bydd pryder difrifol am les y myfyriwr. Fe'i dyluniwyd i ddarparu haen ychwanegol o gymorth i fyfyrwyr, yn enwedig y rhai a allai fod yn profi anawsterau neu a allai fod mewn perygl.

Cysylltiadau Dibynadwy

Mae gan fyfyrwyr y cyfle i nodi cyswllt dibynadwy pan fyddant yn cofrestru yn y Brifysgol a dylent ystyried yn ofalus pwy ddylai hyn fod. Gwahoddir myfyrwyr i ddiweddaru neu gadarnhau eu cyswllt dibynadwy wrth ailgofrestru, ac mae'n bwysig bod yr wybodaeth hon yn cael ei diweddaru. Gall myfyrwyr newid eu cyswllt dibynadwy ar unrhyw adeg drwy'r Fewnrwyd. Ceir manylion llawn yma - Diweddaru fy manylion - Prifysgol Abertawe.

Dylai cyswllt dibynadwy fod yn:

  • Oedolyn cyfrifol dros 18 oed, fel aelod o'r teulu, gwarcheidwad, cyfaill neu bartner.
  • Unigolyn sy'n gallu cynnig cymorth ac sydd â dealltwriaeth o amgylchiadau meddygol a chymdeithasol y myfyriwr.
  • Ymwybodol ei fod wedi cael ei enwebu ac yn fodlon i'r Brifysgol gysylltu ag ef.

Gellir cysylltu â'r cyswllt dibynadwy mewn gwahanol sefyllfaoedd pan fo pryderon difrifol gan y Brifysgol ynghylch lles myfyriwr. Dyma rai enghreifftiau:

  • Anawsterau iechyd meddwl yn gwaethygu
  • Ymddygiad sy’n peri pryder
  • Defnyddio cyffuriau ac alcohol mewn modd risg uchel
  • Hunan-niweidio risg uchel
  • Diffyg cyfranogiad mewn astudiaethau neu gymorth

Mae’r Brifysgol yn parchu preifatrwydd a chyfrinachedd myfyrwyr ac ni fyddwn yn rhoi gwybod yn awtomatig i gyswllt dibynadwy am bryderon. Cysylltir ag ef mewn cydweithrediad â'r myfyriwr, a phryd bynnag y bo'n bosibl bydd y Brifysgol yn gofyn am ganiatâd myfyriwr cyn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol â'r cyswllt dibynadwy.

Perthynas agosaf

Mae perthynas agosaf yn unigolyn y mae myfyriwr yn ei ddynodi i gysylltu ag ef os bydd argyfwng meddygol, damwain, neu sefyllfa frys arall lle mae buddiannau hanfodol y myfyriwr mewn perygl. Diben nodi perthynas agosaf yw ein galluogi i roi gwybod ar unwaith i rywun a all wneud penderfyniadau ar ran y myfyriwr a darparu cymorth angenrheidiol. Dyma wybodaeth orfodol y mae'n rhaid i bob myfyriwr ei darparu wrth gofrestru. Fel arfer bydd perthynas agosaf yn rhiant, yn warcheidwad neu'n briod.

Mae cyswllt dibynadwy yn berson y mae myfyriwr yn ei nodi fel rhywun y mae'n ymddiried ynddo ac y gall y Brifysgol gysylltu ag ef os bydd pryder am les y myfyriwr. Diben pennu cyswllt dibynadwy yw darparu cymorth ychwanegol ac nid yw'n wybodaeth orfodol.

Er y gall myfyriwr ddewis rhestru'r un person yn berthynas agosaf ac yn gyswllt dibynadwy iddo, y prif wahaniaeth yw diben y rhain a'r amgylchiadau pan gysylltir â nhw.

Trydydd Partïon

Gall y Brifysgol hefyd drosglwyddo gwybodaeth i drydydd partïon perthnasol pan fo pryderon diogelu neu pan fo buddiannau hanfodol myfyriwr mewn perygl. Gall trydydd partïon perthnasol gynnwys:

  • Gwasanaethau brys
  • Meddyg Teulu
  • Gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd
  • Gwasanaethau cymdeithasol

Buddiannau hanfodol

Os oes gan y brifysgol bryderon sylweddol, mwy uniongyrchol, am les a diogelwch myfyriwr, gall gysylltu â chyswllt dibynadwy, perthynas agosaf neu drydydd partïon perthnasol heb gydsyniad. Dyma rai enghreifftiau:

  • Mae'r myfyriwr ar goll ac ni ellir cysylltu ag ef
  • Mae'r myfyriwr yn cael ei dderbyn i'r ysbyty mewn argyfwng
  • Argyfwng iechyd meddwl
  • Ymddygiad neu gynlluniau sy'n bygwth ei fywyd ei hunan neu bobl eraill
  • Hunan-esgeulustod sylweddol neu fethu byw'n annibynnol

Rhoi gwybod am bryderon

Dylai staff neu fyfyrwyr sydd â phryderon a all beri i’r Brifysgol gysylltu â chyswllt dibynadwy neu berthynas agosaf gysylltu â Llesiant@BywydCampws neu swyddogion Diogelwch ar gyfer pryderon mwy brys.

Cymorth

Mae gan Brifysgol Abertawe ystod o gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n profi anawsterau lles ac iechyd meddwl. Ewch i'n tudalennau gwe am ragor o wybodaeth - Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr - Prifysgol Abertawe

Diogelu Data

Mae gwybodaeth am gysylltiadau dibynadwy a pherthnasoedd agosaf yn cael ei chadw a'i phrosesu yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018. Ceir manylion llawn yma - Diogelu Data - Prifysgol Abertawe

Polisïau Perthnasol

  • Polisi Iechyd Meddwl Myfyrwyr
  • Polisi Addasrwydd i Astudio
  • Polisi Diogelu

(maent i gyd yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd - ceir dolenni pan fyddant ar waith)