Paratoi ar gyfer y Brifysgol
Fewngofnodi i'ch cyfrif MyUni (Porth i'r fewnrwyd, e-byst y Brifysgol Canvas a chymwysiadau eraill)
Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair er mwyn cael mynediad i'ch ceisiadau ac i gofrestru.
Cynghorir trwy e-bost pryd y gallwch gael cyrchiad i’ch cyfrif.
Mae’r e-byst hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar fewngofnodi i'ch cyfrif, newid eich cyfrinair dros dro a chofrestru ar gyfer Hunanwasanaeth Ailosod Cyfrinair.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch â'r Desg Wasanaeth TG. Sylwer y bydd angen i chi ein ffonio ar 01792 604000 ar gyfer galwadau sy'n ymwneud â diogelwch y cyfrif, er mwyn inni allu cadarnhau eich hunaniaeth.
Lanlwytho eich llun, cofrestru eich prawf hunaniaeth, cenedligrwydd a'ch hawl i astudio.
Lanlwythwch eich llun drwy fewngofnodi i'r Fewnrwyd a bydd eich cerdyn yn barod pan fyddwch yn cyrraedd.
Er mwyn cofrestru, mae angen i ni gael prawf o'ch hunaniaeth a'ch cenedligrwydd i gadarnhau'ch hawl i astudio, eich statws ffioedd dysgu a'ch cymhwysedd i dderbyn benthyciadau/grantiau.
Porwch drwy'n Canllawiau Hawl i Astudio.
Cwblhau eich camau cofrestru cyn gynted â phosib
Mae'n hanfodol eich bod yn cofrestru erbyn dyddiad dechrau'r cwrs yn eich amserlen gofrestru fel y gallwch ddechrau ymgymryd â'ch astudiaethau. Byddwch yn cael e-bost pan allwch gofrestru ar gyfer eich cwrs, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar eich e-byst!
Bydd ein tudalennau gwe cofrestru yn eich arwain drwy'r holl gamau cofrestru y bydd angen i chi eu cymryd.
Trefnu eich llety
Os ydych wedi gwneud cais am lety Prifysgol Abertawe neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am wneud cais, ewch i'n tudalennau gwe Llety.
Pe bai'n well gennych fyw oddi ar y campws, edrychwch ar ein tudalennau gwe i gael awgrymiadau am ddod o hyd i lety preifat.
Trefnu eich ffioedd dysgu a'ch cyllid
Mae'n bwysig i fyfyrwyr ystyried eu cynllun ariannol cyn cofrestru ar eu cwrs, a sicrhau eu bod yn gwneud cais am y cyllid a'r cymorth sydd ar gael iddynt. Defnyddiwch y Rhestr Wirio Ariannol Cyn Cyrraedd i'ch helpu gyda'ch cynllun ariannol, a chofiwch fod Arian@BywydCampws ar gael i ateb unrhyw gwestiynau am faterion ariannol sydd gan fyfyrwyr.
Cymerwch gipolwg ar ein rhestr wirio ar gyfer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n ymuno â ni
Deallwn fod gennych gymaint i feddwl amdano wrth baratoi i adael cartref i symud dramor (yn aml am y tro cyntaf) felly mae Rhyngwladol@BywydCampws yma i'ch helpu i baratoi gymaint â phosibl ar gyfer eich bywyd newydd yn Abertawe. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth gam wrth gam ar ein tudalennau gwe pwrpasol.
Trefnu eich trefniadau iechyd a lles
Mae eich iechyd yn bwysig i ni ac fel myfyriwr newydd mae angen i chi:
- darllen y wybodaeth am iechyd a lles i sicrhau bod popeth yn ei le rhag ofn y bydd angen cymorth arnoch
- cofrestru gyda meddyg teulu (meddyg) – cofrestru gyda’r Ganolfan Iechyd
- cofrestru gyda deintydd – cofrestru gyda’r Ddeintyddfa
Os ydych chi rhwng 17 a 25 oed ac yn dod i'r brifysgol am y tro cyntaf mae'n bwysig eich bod yn cael brechiad yn erbyn Llid yr Ymennydd (Men ACWY) cyn eich bod yn cyrraedd. Gellwch chi gael brechiad drwy ffonio eich meddyg teulu a threfnu apwyntiad.
Sicrhewch bod eich brechiadau MMR (y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela) hefyd yn gyfamserol cyn dod. Bydd angen i chi roi dyddiadau'r brechiadau i'ch Meddygfa yn Abertawe er mwyn gallu cofrestru gyda Meddyg Teulu yma (bydd y wybodaeth hon ar gael gan eich Meddyg Teulu gartref neu gan Adran Imiwneiddio Plant eich Awdurdod Iechyd Lleol).
Dylech nodi nad ydych yn cael eich diogelu yn erbyn y clefydau hyn tan 10 niwrnod ar ol i chi gael brechiad.
Rhoi gwybod i ni am unrhyw ofynion penodol
Os ydych chi'n teimlo efallai y bydd angen cefnogaeth arnoch ym Mhrifysgol Abertawe ond heb ddatgelu anabledd neu ofyniad penodol, llenwch ein holiadur.
Adolygu rheolau a rheoliadau'r Brifysgol
Mae cyfres o reolau a rheoliadau ar waith gennym er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel ac y gallwn ymgysylltu â’n gilydd. Rydyn ni eisiau i chi fanteisio i’r eithaf ar fod yn y Brifysgol, wedi'r cyfan!
I gael manylion llawn am eich hawliau mynediad, ein polisi cadw data, diogelwch data, y sawl rydym yn rhannu data â nhw, a sut i gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol os oes gennych gwestiynau am ein polisi preifatrwydd, porwch ein Hysbysiad Preifatrwydd Myfyrwyr
Cyn i chi gytuno i gydymffurfio â rheolau a rheoliadau’r Brifysgol dylech edrych ar y rheolau, y rheoliadau a’r polisïau yn y Rheoliadau Academaidd a'r cyfrifoldebau yn y Siarter Myfyrwyr.
Trefnu cyrraedd Abertawe
Mae dod o hyd i ni yn hawdd, gallwch lawrlwytho detholiad llawn o fapiau a chyfarwyddiadau ar ein tudalennau Gwe Mapiau a Chyfarwyddiadau.
Cwblhau eich sesiwn sefydlu
Byddwn yn anfon e-bost atoch gyda’ch manylion sefydlu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar eich e-byst ac yn gwybod pryd mae eich apwyntiad cyntaf!
Rydym yn siŵr eich bod yn awyddus iawn i wybod mwy am eich cwrs a dechrau cwrdd â phobl y byddwch yn astudio gyda nhw am yr ychydig flynyddoedd nesaf! Gallwch gael llawer mwy o wybodaeth bwysig ar dudalennau Sefydlu eich Ysgol.
Efallai yr hoffech...
Dilyn MyUniSwansea ar Facebook, Twitter, ac Instagram.
MyUni Abertawe yw'r lle PWYSIG i fyfyrwyr presennol. Dilynwch ein sianeli i wneud yn siŵr bod gennych yr wybodaeth a’r newyddion diweddaraf am wasanaethau, digwyddiadau a chyfleoedd. Byddwn hefyd yn postio gwybodaeth am gyrraedd a nodiadau atgoffa ar ein sianeli!
Tudalen Facebook Swyddogol MyUni
Edrychwch ar Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
Yn ogystal â chynnal digwyddiadau anhygoel drwy gydol y flwyddyn, gall Undeb y Myfyrwyr hefyd eich cefnogi wrth ymuno â Chymdeithas neu Glwb Chwaraeon, a rhoi help i chi drwy ei Ganolfan Cyngor a Chymorth anhygoel.
Mae gan Undeb y Myfyrwyr chwe Swyddog Amser Llawn etholedig sy'n eich cynrychioli ar gyfer popeth sy'n gysylltiedig â’r Brifysgol, yn ogystal â thîm Llais Myfyrwyr sy'n helpu i sicrhau eich bod yn cael eich clywed.
Mae'r tîm hyd yn oed yn cynnal nifer o siopau a bariau i chi edrych arnynt pan fyddwch chi'n cyrraedd y campws!
Cymerwch gipolwg ar Wasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
P'un a oes angen cefnogaeth arnoch gydag anabledd, help mewn argyfwng, neu’ch bod eisiau dod o hyd i rywun i siarad ag ef, mae gennym wasanaeth i'ch helpu.
Cyflwyno cais am docyn bws
Rydym yn falch o fod yn Brifysgol Werdd. Mae gennym y gwobrau i brofi hynny!
Anogwn yn gryf i chi beidio â dod â char gyda chi i Brifysgol Abertawe – mae lleoedd parcio i fyfyrwyr ar y campws yn brin iawn ac wedi'u cadw ar gyfer y rhai sydd â rhesymau meddygol neu anghenion teithio ychwanegol.
Cymerwch olwg ar ein dewisiadau teithio amgen, gan gynnwys pasys bws.
*Awgrym Euraidd* Os ydych chi’n 16-21 oed ac yn byw yng Nghymru, rydych yn gymwys i arbed 1/3 ar bob pàs bws!