Ymarfer corff

Beth ydyw?

Yn ôl tystiolaeth, ymarfer corff yw un o’r ffyrdd gorau o’ch rhoi mewn hwyliau gwell. Mae’n rhyddhau endorffinau i’ch llif gwaed, a fydd yn gwella eich hwyliau yn ogystal â’ch helpu i deimlo’n gadarnhaol am eich hunain a’r hyn y gallwch ei gyflawni. Mae ymarfer corff hefyd yn eich helpu i gadw’n iach ac yn heini, gan wella eich hunan-hyder a’ch gwytnwch. Gallwch hefyd ddefnyddio ymarfer corff fel ffordd arall o gwrdd â phobl debyg i chi a gwneud ffrindiau newydd.

Ymarfer corff yw un o’r pedwar o bileri tuag at iechyd da ochr yn ochr â diet cytbwys, cysgu’n dda a rhoi rhywfaint o amser ar gyfer ymlacio.

Cyngor ymarferol ac argymhellion

Dyma restr o ychydig o’r ffyrdd y gallwch wneud ymarfer corff ym Mhrifysgol Abertawe

  • Ymunwch â champfa – Mae cyfleusterau campfa o’r radd flaenaf gan y ddau gampws, sy’n cynnig offer hyfforddi cardiofasgwlaidd, pwysau a dosbarthiadau a drefnir megis ioga ac erobig. Ceir hefyd nifer o gampfeydd eraill y gallwch ymuno â nhw ar draws y ddinas, gweler y rhestr isod!
  • Ymunwch â thîm chwaraeon – mae gan Chwaraeon Abertawe dros 50 o glybiau chwaraeon sy’n hyfforddi ac yn cystadlu. Os hoffech ymuno, maen nhw’n cynnig sesiynau blasu ar ddechrau’r flwyddyn.
  • Beiciau Santander – Yn ddiweddar, gwnaeth y Brifysgol ennill cynnig i gael beiciau Santander y mae modd eu llogi ar y ddau gampws. Byddwch yn gweld y beiciau coch y tu allan i Dŷ Fulton a’r Ysgol Reolaeth, a chewch ragor o wybodaeth yma.
  • Cynllun beiciau – Beth am brynu eich beic eich hunain am bris gostyngedig er mwyn teithio o gwmpas y ddinas yn rhatach wrth wneud ychydig o ymarfer corff pwysig ar yr un pryd? 
  • Ymunwch â chlwb lleol – Mae nifer o wahanol glybiau chwaraeon a gweithgareddau corfforol i gymryd rhan ynddynt, yn amrywio o’r ras parkrun leol bob dydd Sadwrn i dimau chwaraeon cystadleuol. Edrychwch ar y fewnrwyd i weld beth sy’n addas ar eich cyfer!
  • Manteisiwch i’r eithaf ar yr ardal leol – Mae Prifysgol Abertawe yn ffodus iawn bod gennym draethau a pharciau o fewn tafliad carreg – maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer gwneud ychydig o redeg, cerdded, beicio neu fel y mynnwch!

Campfeydd