Beth yw troseddau casineb?

Trosedd casineb yw unrhyw drosedd a ganfyddir gan y dioddefwr, neu gan unrhyw berson arall, yn drosedd a symbylwyd gan elyniaeth neu ragfarn sy’n seiliedig ar un o nodweddion (gwirioneddol neu dybiedig) canlynol y person: anabledd, hil, crefydd neu gredo, cyfeiriadedd rhywiol neu pa un a yw’r person yn drawsrywiol.

Gall trosedd casineb fod yn unrhyw weithred droseddol neu anrhoseddol, er enghraifft ysgrifennu graffiti, fandaliaeth yn erbyn eiddo, galw enwau, ymosod, neu ddifrïo ar-lein trwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.