Os ydych wedi dioddef trosedd casineb, cofiwch nad arnoch chi oedd y bai am hynny. Beth bynnag, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i leihau’r risg y bydd yr un peth ddigwydd eto; ac ar ôl eu gwneud hwyrach y byddwch yn teimlo eich bod yn dechrau cael ei bywyd yn ôl dan reolaeth.
Dyma rai o’r pethau hynny:
- Gwella diogelwch sylfaenol eich cartref – er enghraifft trwy ychwanegu cloeau a bolltau ar ddrysau a ffenestri.
- Mynd un cam ymhellach trwy osod cyfarpar diogelwch, megis offer teledu cylch cyfyng, intercoms fideo neu fotymau braw
- Cofnoi pob digwyddiad sy’n gysylltiedig â’r drosedd casineb, gan gynnwys yr amseroedd, y dyddiadau a manylion yr hyn a ddigwyddodd.
- Trefnu i rywun fynd gyda chi os byddwch yn penderfynu adrodd am y drosedd wrth yr heddlu
Beth ddylech ei wneud os byddwch yn gweld trosedd casineb yn cael ei chyflawni?
Os ydych chi, nu rywun o’ch cydnabod, wedi dioddef trosedd casineb, dylech adrodd am hynny fel digwyddiad casineb. Hyd yn oed os nad ydych yn dymuno i’r heddlu ymchwilio i’r digwyddiad, mae’n bwysig bod yr heddlu yn gwybod amdano, fel y gallant gael amcan pa mor niferus yw’r digwyddiadau ac ym mhle y maent yn digwydd. Gall yr wybodaeth honno helpu’r heddlu i ymchwilio i ddigwyddiadau casineb eraill.
Pwy all eich helpu?
Gallwch adrodd am Drosedd Casineb fel a ganlyn:
Ffôn (Achosion brys): 999
Ffôn (Nid achosion brys): 101
Yn bersonol: Unrhyw orsaf heddlu
Tîm gofal dioddefwyr lleol: 0300 303 0161
Gorsaf Heddlu Ganolog Abertawe
Grove Place, Abertawe. SA1 5EA.
Agored 8.00am-2.00am, 7 niwrnod yr wythnos.
Gorsaf Heddlu Castell-nedd
Heol Parc Gnoll, Castell-nedd. SA11 3BW.
Agored 8.00am-6.00pm, 7 niwrnod yr wythnos.