Pethau i roi cynnig arnynt a allai eich helpu
Siarad â rhywun - dywedwch wrth rywun sut rydych yn teimlo. Efallai na fydd cyngor o angenrheidrwydd yn ddefnyddiol, ond gall siarad am eich teimladau fod o gymorth ynddo ei hun.
Pwy i siarad â nhw - i rai pobl, bydd siarad â'u ffrindiau ac aelodau'r teulu fod o'r cymorth mwyaf. Neu mae cynghorwyr profedigaeth ar gael trwy eich canolfan profedigaethau leol.
Siarad â'ch meddyg teulu - os ydych yn teimlo bod eich galar yn effeithio ar eich bywyd beunyddiol a bod hyn wedi para am gryn dipyn o amser, efallai y bydd yn ddefnyddiol siarad â'ch meddyg teulu. Bydd yn gallu archwilio'ch iechyd cyffredinol a'ch cyfeirio i gael cymorth ychwanegol.
Yfed llai o alcohol - gall rhai pobl ddibynnu ar alcohol i roi hwb i'w hwyliau wrth iddynt alaru. Mae'n bwysig i beidio â defnyddio alcohol fel bagl emosiynol. Efallai y bydd hyn yn arwain at ddibyniaeth ar alcohol.
Ymarfer corff - gall ymarfer corff ysgafn a rheolaidd helpu i roi hwb naturiol i'ch hwyliau. Mae gadael y tŷ a bod yn yr awyr agored hefyd yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i chi ac yn gwella'ch iechyd cyffredinol. Bydd eich iechyd cyffredinol hefyd yn gwella.
Gwneud rhywbeth ymarferol - defnyddiwch eich dwylo a chanolbwyntiwch ar grefft rydych yn ei mwynhau. Gwnewch deisen, cydiwch yn eich peiriant gwnïo, trwsiwch eich beic neu gallech hyd yn hyd beintio'ch ewinedd. Gall rhoi'r cyfryngau cymdeithasol o'r neilltu am ychydig oriau a gwneud rhywbeth ymarferol helpu i dawelu'ch meddyliau. Gall ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar (bod yn y presennol) helpu i wella symptomau pryder ac iselder ysbryd.
Rhoi Gwybod i'r Brifysgol am eich Colled
Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i staff gweinyddol eich coleg a'ch tiwtor personol am eich profedigaeth. Yna byddant yn ymwybodol o'ch sefyllfa pe bai'n rhaid i chi fod yn absennol o unrhyw ddarlithoedd neu gyfarfodydd tiwtorial. Gallant roi cyngor i chi ar gyfer unrhyw bryderon sydd gennych chi am arholiadau neu asesiadau sydd ar y gorwel.
Amgylchiadau esgusodol a gohirio arholiadau
Gall y Brifysgol ystyried marwolaeth neu salwch difrifol ffrind neu berthynas agos fel amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar eich perfformiad. Mae hyn yn golygu efallai y gallwch gyflwyno cais i'ch coleg am amgylchiadau esgusodol ar gyfer asesiad neu gais i ohirio arholiadau. Os caiff ei gymeradwyo gallwch dderbyn estyniad ar y dyddiad cyflwyno neu'r elfen goll. Os caiff eich cais am ohiriad ei gymeradwyo gallwch sefyll eich arholiad heb gap yn ystod y cyfnod arholiadau nesaf. Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau i ohirio o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn pob arholiad. Sylwer, byddai angen darparu dogfennau ategol priodol gyda phob cais er mwyn iddo gael ei ystyried. Yn achos profedigaeth, byddai hyn fel arfer yn golygu darparu copi o'r dystysgrif marwolaeth neu raglen yr angladd. Yn achos salwch difrifol, byddai angen darparu dogfennau meddygol perthnasol fel arfer.