Pa gymorth sydd ar gael?

Rydym yn cydnabod bod myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu eisoes yn ceisio cydbwyso llawer ochr yn ochr ag astudio ac ymrwymiadau eraill.

Rydym wedi creu'r Pecyn Cymorth a'r Pasbort i Fyfyrwyr sy'n Ofalwyr i helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau ychwanegol hyn arnoch chi.

Darllenwch y dudalen we hon yn llawn, gan ei bod yn amlinellu cymorth ac addasiadau ychwanegol y gallech fod yn gymwys amdanynt a sut i gyflwyno cais.

Rydym yma i chi yn ystod eich astudiaethau.

blue

Ydych chi’n Fyfyriwr sy'n Ofalwr?

"Myfyriwr sy'n gofalu'n amser llawn ac yn ddi-dâl am aelod o'r teulu neu ffrind nad oes modd i'r unigolyn, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethiwed, ymdopi heb ei gymorth o ddydd i ddydd."

Sylwer: Byddai'r dyletswyddau hyn yn ychwanegol at y cyfrifoldebau gofalu arferol a fyddai gan riant am blentyn dibynnol oni bai bod gan y plentyn dibynnol salwch difrifol, problem iechyd meddwl neu anableddau.


Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y Pecyn a’r Pasbort?

Mae'r cynnig cymorth wedi'i rannu rhwng Pecyn a Phasbort ac mae wedi'i ddylunio ar y cyd â myfyrwyr sy'n ofalwyr a chymdeithasau gofalwyr lleol i gynnig cymorth ariannol, bugeiliol ac academaidd er mwyn eich galluogi i gael y budd mwyaf o'ch profiad yn y brifysgol. 

Beth nesaf?

Cwestiynau Cyffredin