Beth ddylwn i ei wybod am frechiadau llid yr ymennydd?
Rydym yn annog ein holl fyfyrwyr yn daer i sicrhau eu bod wedi cael pob un o’u brechiadau llid yr ymennydd, cyn dechrau yn y Brifysgol. Dylid bod wedi cynnig y brechlyn MenACWY eisoes i’r holl israddedigion blwyddyn gyntaf sy’n hanu o’r Deyrnas Unedig, gan eu hysgol, eu Coleg neu’u meddyg teulu cyn iddynt symud i sefydliad Addysg Uwch. Un dos yn unig sy’n ofynnol.
- Nid wyf eto wedi cael fy holl frechiadau llid yr ymennydd, a byddaf yn dechrau yn y Brifysgol am y tro cyntaf ymhen mis. Beth ddylwn i ei wneud?
Os yw myfyriwr yn darganfod nad yw wedi cael yr holl frechiadau llid yr ymennydd priodol cyn mynd i Brifysgol, cynghorir ef i weld ei feddyg teulu er mwyn cael y brechiad(au) coll, o leiaf ddwy wythnos cyn mynd i’r Brifysgol. Bydd hynny’n rhoi digon o amser i’r imiwneiddio ddigwydd. Mae Canolfan Iechyd y Brifysgol ar gael i frechu unrhyw fyfyrwyr y bydd arnynt angen brechiad.
- Nid wyf wedi cael brechiad, ond rwyf eisoes yn las-fyfyriwr yn y Brifysgol. A oes arnaf angen brechiad bellach?
Os yw myfyriwr wedi anghofio cael brechiad cyn cyrraedd y Brifysgol, dylai gofrestru gyda meddyg teulu cyn gynted ag y bo’n cyrraedd, a gofyn am gael y brechlyn yn ddi-dâl.
- Nid wyf yn las-fyfyriwr, ond nid wyf erioed wedi cael brechiad. A oes arnaf angen brechiad bellach?
Pan fo myfyriwr, yn hwyrach yn y flwyddyn academaidd, heb gael ei frechiadau llawn ar gyfer llid yr ymennydd, neu pan fo’r myfyriwr ar ei ail neu’i drydedd flwyddyn, ni fydd yn rhy hwyr iddo gael brechiad.
Dylai gysylltu â meddyg teulu a chael brechiad cyn gynted ag y bo modd.
Beth yw’r peryglon os na chaf frechiad?
Gall llid yr ymennydd fod yn ddifrifol iawn os na chaiff ei drin yn ddi-oed. Gall achosi gwenwyn gwaed (septisemia) sy’n peryglu bywyd neu achosi difrod parhaol i’r ymennydd neu’r nerfau.
Os cânt driniaeth yn ddiymdroi, bydd y rhan fwyaf o’r cleifion sydd â llid yr ymennydd bacteriol yn cael adferiad llawn. Ond gadewir rhai o’r cleifion gyda phroblemau hirdymor difrifol, gan gynnwys:
- Colli eu golwg neu’u clyw yn gyfan gwbl neu’n rhannol
- Problemau gyda’r cof a’r gallu i ganolbwyntio
- Trawiadau epileptig mynych
- Problemau gyda chydsymud, symudedd a chydbwysedd corfforol
- Colli aelodau o’r corff – weithiau bydd angen torri ymaith aelodau yr effeithir arnynt.
Yn gyffredinol, amcangyfrifir bod tuag 1 o bob 10 o achosion o lid yr ymennydd bacteriol yn angheuol.
(Addaswyd o www.nhs.co.uk)
Beth fydd y Brifysgol yn ei wneud os bydd achos o lid yr ymennydd?
Os bydd yr afiechyd yn effeithio ar fyfyriwr, bydd Prifysgol Abertawe yn dilyn y canllawiau a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, i gynorthwyo’r myfyriwr ei hunan a chanfod pa fyfyrwyr eraill a allai fod mewn perygl, a sicrhau y darperir cyngor priodol iddynt.