Ysbyty Treforys, Heol Maes Eglwys, Treforys, Abertawe, SA6 6NL. Rhif ffôn +44 (0)1792 702222.
Mae’r adran yn cynnig cyfleuster 24 awr ar gyfer y dderbynfa, asesu, archwilio, trin a chyfeirio pob un sydd wedi bod mewn damwain, a chleifion sydd â salwch difrifol.
Swansea Bay University Health Board
Mân anafiadau
Gallwch ymweld ag Uned Mân Anafiadau Ysbyty Singleton ar gyfer unrhyw fân anafiadau. Dyma’r oriau agor:
Dydd Llun i ddydd Gwener o 8am – 6.30pm, ac o 8am – 1pm dros y penwythnosau a gwyliau banc.
Gallwch ddefnyddio’r uned mân anafiadau yn ysbyty Castell-nedd Port Talbot, Ffordd Baglan, Port Talbot, SA12 7BX y tu allan i’r oriau hyn, gan ei bod ar agor rhwng 7.30am a 11pm saith diwrnod yr wythnos.
Mae gwasanaethau gofal ar unwaith Ysbyty Singleton yn trin mân anafiadau brys neu salwch pan nad ydych yn gallu aros i weld eich meddyg teulu. Gall Ysbyty Singleton drin cyflyrau megis:
- Crafiadau, clwyfau a mân losgiadau
- Anafiadau i’r llygad a’r glust nad ydynt yn treiddio
- Anafiadau i’r wyneb a’r gwddf (heb golli ymwybod)
- Anafiadau bach i’r gwddf (pan fo’r claf yn symudol ac nad oes ganddo binnau bach yn ei freichiau)
Brathiadau gan anifeiliaid a phobl