Cyn i chi fynd allan:
- Gwnewch yn siŵr y medrwch gael adref yn ddiogel drwy gadw eich arian tacsi ar wahân i’ch arian yfed. Cynlluniwch sut yr ydych am gael adref a gyda phwy.
- Rhowch rifau RhOA (Rhag Ofn Argyfwng) ar eich ffôn neu cariwch eich cerdyn RhOA efo chi. (Gellwch gael un gan dîm Llesiant@CampusLife).
- Cofiwch fwyta rhywbeth cyn dechrau yfed. Dydych chi ddim yn twyllo wrth fwyta!!
- Efallai na fyddwch yn sylwi ar effeithiau’r hyn yr ydych wedi ei yfed ymlaen llaw tan ychydig yn ddiweddarach, ac felly cymerwch bwyll a rhoi amser i chi eich hun drwy gydol y gyda’r nos i osgoi mynd yn rhy feddw yn rhy fuan.
Tra byddwch chi allan:
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw golwg ar eich diod; mae hynny’n golygu gwylio’r sawl sy’n gweini’r ddiod yn ogystal a chadw rhywbeth drosti.
- Os byddwch chi’n meddwl nad ydy’ch diod yn blasu’n iawn, peidiwch â’i hyfed.
- Cymerwch bwyll!
- Byddwch yn wyliadwrus rhag derbyn diod gan rywun dieithr, yn enwedig os na welsoch y ddiod yn cael ei hagor neu ei thywallt.
- Arhoswch gyda’ch grŵp.
- Edrychwch ar ôl eich gilydd.
- Gwnewch yn siŵr fod gennych ffordd ddiogel i gael adref ar ôl noson allan.
- Ceisiwch beidio â cherdded ar eich pen eich hun mewn ardaloedd lle nad oes yna olau da.
Ar ôl hynny:
- Yfwch beint o ddŵr cyn mynd i’r gwely i atal eich corff a’ch croen rhag mynd yn sych.
- Rhowch ychydig o ddyddiau rhydd o ddiod i’ch corff, iddo gael dod ato’i hun ar ôl sesiwn yfed drom.
- Ar gyfartaledd, mae’n cymryd awr i’ch corff brosesu pob uned o alcohol. Cadwch hyn mewn cof os mai un ddiod yn unig yr ydych yn bwriadu ei chael a gyrru adref wedyn.
Effeithiau yfed
Edrychwch ar wefan drinkaware i ddysgu mwy am yr effeithiau y gall alcohol fod yn eu cael ar eich corff!
- Rhaglwytho a Sbri o Yfed
- Mae yfed gartref, cyn noson allan, yn gallu cael ei weld fel ffordd rad o feddwi. Ond beth ydy peryglon yr arferiad hwn sy’n gyffredin ymhlith myfyrwyr?
- Mae yfed symiau mawr o alcohol yn gyflym yn effeithio ar eich cydbwysedd a’ch cydweithrediad corfforol ac yn arwain at fwy o berygl o ddamweiniau a chodymau.
- Mae goryfed alcohol mewn cyfnod byr o amser yn medru eich atal rhag anadlu neu atal eich calon, neu gallech dagu ar eich cyfog eich hun.
- Mae modd i alcohol eich gwneud yn fwy ymosodol. Mae’n medru effeithio ar eich gallu i feddwl yn glir gan olygu, mewn sefyllfa o wrthdaro, pan fyddech fel rheol yn cerdded i ffwrdd, na fyddwch efallai yn aros i ystyried canlyniadau eich gweithredoedd.
- Pan fyddant wedi meddwi, mae pobl yn fwy tebygol o gamddeall ymddygiad pobl eraill. Efallai mai dyma pam y mae cymaint o gwffio yn dechrau gydag ‘edrychiad annifyr’ pan fydd alcohol yn y cwestiwn.
- Mae yfed gormodedd o alcohol yn medru gwneud i chi golli eich swildod ac wedyn byddwch yn llawer mwy tebygol o gymryd rhan mewn ymddygiad peryglus megis cael rhyw heb amddiffyniad.
Goddefedd
Rydym ni i gyd wedi clywed rhywun yn dweud bod ganddynt oddefedd uwch i alcohol fel pe bai hyn yn beth da. Fodd bynnag, efallai mai arwydd fod person yn yfed yn rhy drwm ydy meithrin goddefedd i alcohol. Efallai ei fod yn yfed mor drwm fel nad yw’n sylwi bellach ar effeithiau alcohol gymaint ag y byddai’n arfer.
Cofiwch: Po fwyaf o alcohol y byddwch yn ei yfed – y mwyaf fydd y peryglon i’ch iechyd.
Gwenwyn Alcohol
Beth ydy gwenwyn alcohol?
Gall gwenwyn alcohol ddigwydd os bydd person yn yfed llawer o alcohol mewn cyfnod byr o amser. Ni all eich corff brosesu ond un uned o alcohol yr awr. Os byddwch yn yfed llawer o alcohol yn gyflym, yna gall swm yr alcohol yn eich gwaed atal eich corff rhag gweithio’n iawn.
Cofiwch: Does yna ddim isafswm o alcohol a allai achosi gwenwyn alcohol.
Beth ydy effeithiau gwenwyn alcohol?
- Mae’n medru arafu cyflymder eich ymennydd, sy’n golygu y gallech golli eich teimlad o gydbwysedd.
- Mae yfed gormodedd o alcohol yn medru effeithio ar eich stumog ac achosi i chi daflu i fyny.
- Mae modd iddo atal eich adwaith gyfogi rhag gweithio’n iawn sy’n golygu y gallech dagu ar eich cyfog eich hun.
- Mae gwenwyn alcohol yn gallu effeithio ar y nerfau sy’n rheoli eich anadlu gan achosi i chi roi’r gorau i anadlu.
- Gall alcohol eich dadhydradu ac, mewn achosion eithafol, mae modd i hyn achosi niwed parhaol i’r ymennydd.
- Pan fydd gan rywun wenwyn alcohol bydd tymheredd ei gorff yn gostwng, sy’n gallu arwain at hypothermia.
- Gall alcohol hefyd ostwng lefelau’r siwgr yn eich gwaed a all beri i chi gael ffitiau.
Beth ydy symptomau gwenwyn alcohol?
Os byddwch chi’n amau bod gan ffrind wenwyn alcohol edrychwch allan am y symptomau canlynol:
- Dryswch.
- Diffyg cydweithrediad corfforol.
- Taflu i fyny.
- Ffitiau.
- Anadlu afreolaidd neu araf (llai nag 8 anadl y funud).
- Croen â gwawr las neu groen llwyd
- Tymheredd corff isel.
- Syrthni – pan fydd rhywun yn ymwybodol ond ddim yn ymateb.
- Anymwybodol – pan fydd rhywun wedi pasio allan.