Mae Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) yn gyfleuster arbenigol lle gall pobl sydd wedi dioddef neu oresgyn trais neu ymosodiad rhywiol yn ddiweddar gael cymorth ar unrhyw adeg (ddydd a nos).

Gallwch ddysgu rhagor am SARC yn y fideo:

Beth yw ISVA?


Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol yw ISVA. Maen nhw'n eich cefnogi chi i benderfynu a ddylid rhoi gwybod i'r heddlu am yr hyn sydd wedi digwydd.

Mae ganddynt wybodaeth arbenigol am brosesau cyfiawnder troseddol, a gallant eich helpu i ddeall eich hawliau o dan y Côd Ymarfer i Ddioddefwyr, a beth i'w ddisgwyl.

Ni waeth pa opsiwn a ddewiswch, gall ISVA weithio gyda chi i ddatblygu cynllun cymorth i ddiwallu eich anghenion.

Os byddwch yn dewis rhoi gwybod i'r heddlu, bydd ISVAs yn darparu cymorth cyn, yn ystod ac ar ôl unrhyw achos llys posibl. Maen nhw'n annibynnol ar unrhyw sefydliad neu asiantaeth arall, gan gynnwys yr heddlu.

Beth sy'n digwydd mewn SARC?


Ar ôl cael atgyfeiriad, bydd gweithiwr argyfwng yn trefnu i gwrdd â chi yn y SARC.

Gallwch ddod â ffrind neu aelod o'r teulu gyda chi i gael cefnogaeth. Mae gan SARC ystafell i ffrindiau a'r teulu a chyfleusterau diodydd, felly os dewch â rhywun gyda chi, bydd yn gallu aros yn gyfforddus.