Gamblo

Rydym wedi gweld cynnydd yn  nifer y myfyrwyr sy'n gamblo ar-lein ac yn buddsoddi mewn marchnadoedd rhithwir a chryptoarian fel ffordd o ychwanegu at yr arian sydd ganddynt. Mae'n risg enfawr i fyfyrwyr gamblo'r ychydig  arian sydd ganddynt, felly awgrymwn yn gryf y dylai myfyrwyr osgoi gamblo gymaint ag sy'n bosib - nid yw'n ffynhonnell ariannu hyfyw ac mae'n fwy tebygol y bydd myfyrwyr yn dioddef hyd yn oed mwy o anawsterau ariannol a all gymryd amser  hir i oresgyn, gan effeithio ar eu hastudiaethau a'u lles.

Mae patrwm sy'n datblygu'n gyflym o fyfyrwyr yn buddsoddi eu harian mewn marchnadoedd masnachu ar-lein a chryptoarian - fodd bynnag gellid ystyried hyn yn fath o gamblo oherwydd does dim sicrwydd y bydd yn cynnig enillion ariannol ar y buddsoddiad ac mae risg o golli'r cyfan. Nid yn unig y gall myfyrwyr golli eu harian yn y marchnadoedd hyn, ond mae llawer iawn o sgamwyr sy’n  cymryd mantais gan gamarwain buddsoddwyr i roi eu harian iddynt heb sylweddoli. Mae llawer o wybodaeth gamarweiniol ar-lein sy'n dylanwadu ar fuddsoddwyr i symud eu harian i gyfrifon neu 'waledi' ffug ar-lein, sydd mewn gwirionedd yn gyfrifon sy'n perthyn i'r sgamwyr.  Rydym wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y myfyrwyr sy’n dioddef sgamiau o farchnadoedd masnachu ar-lein a chryptoarian, ac yn colli eu harian o ganlyniad ac yn wynebu caledi ariannol.

Rydym yn dymuno codi ymwybyddiaeth fel bod myfyrwyr yn deall na ddylid gamblo neu fuddsoddi mewn marchnadoedd rhithwir fel ffynhonnell ariannu, yn enwedig os ydynt yn dioddef caledi ariannol. Os oes unrhyw un yn profi anawsterau ariannol, e-bostiwch Arian@BywydCampws am gyngor ac arweiniad.

Mae GamCare yn cynnig cymorth i'r rhai hynny sy'n cael anawsterau gyda dibyniaeth gamblo yn ogystal ag aelodau o'u teuluoedd neu eu partneriaid y mae'n effeithio arnynt. Yn ogystal â’r pryder ynghylch y cynnydd mewn gamblo ar-lein, mae pryderon hefyd y gallai rhai pobl ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r preifatrwydd i chwilio am gymorth neu gael sgyrsiau cyfrinachol pan fyddant yn gaeth i'w cartrefi. Fodd bynnag, mae GamCare yn cynnig cyfleuster sgwrsio ar-lein a thriniaeth ar-lein ar eu gwefan.