Astudio Rhywle Arall

ASTUDIO RHYWLE ARALL

Blwyddyn/semester dramor neu mewn diwydiant

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i fyfyrwyr newydd sy'n byw yng Nghymru neu Loegr. I gael gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael i chi os ydych yn dod o'r tu allan i Gymru neu Loegr neu os ydych yn fyfyriwr sy'n parhau, cysylltwch â'r Tîm Arian@BywydCampws.

Beth yw Blwyddyn/Semester Dramor?

Gall fod gan fyfyrwyr gyfle i dreulio cyfnod yn gweithio neu'n astudio dramor mewn prifysgol bartner. Fel arfer, bydd myfyrwyr sy'n astudio rhaglenni gradd 4 blynedd yn treulio'r drydedd flwyddyn gyfan dramor.

Efallai bydd myfyrwyr sy'n astudio rhaglen radd 3 blynedd yn gallu treulio semester dramor ar leoliad astudio. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn y dewis hwn ei drafod gyda'u hadran, gan y bydd yn rhaid i'r astudio tramor arfaethedig gael ei gymeradwyo'n llawn cyn y lleoliad.

Beth yw Blwyddyn mewn Diwydiant?
Gall fod cyfle gan fyfyrwyr sy'n astudio rhaglenni penodol i dreulio blwyddyn mewn sefydliad partner, a adwaenir hefyd fel 'Blwyddyn Rhyngosod', fel ffordd o ennill profiad a sgiliau gwerthfawr.
Cynhelir lleoliadau fel arfer fel rhan o gwrs 4 blynedd a gallant fod am dâl neu'n ddi-dâl.

Taliadau Ffïoedd Dysgu Prifysgol Abertawe

Cynllun
Myfyrwyr sy’n Byw yng NghymruMyfyrwyr sy’n byw yn Lloegr
Blwyddyn Dramor: Astudio 15% o’r ffi lawn h.y. £1,380
Benthyciad Ffïoedd Dysgu ar gael
15% o’r ffi lawn h.y. £1,380.
Benthyciad Ffïoedd Dysgu ar gael
Blwyddyn Dramor: Gwaith 15% o’r ffi lawn h.y. £1,380
Benthyciad Ffïoedd Dysgu ar gael
15% o’r ffi lawn h.y. £1,380.
Benthyciad Ffïoedd Dysgu ar gael
Blwyddyn mewn Diwydiant 20% o’r ffi lawn h.y. £1,850
Benthyciad Ffïoedd Dysgu ar gael
20% o’r ffi lawn h.y. £1,850
Benthyciad Ffïoedd Dysgu ar gael

Mae cymhwysedd i dderbyn Benthyciadau a Grantiau Ffïoedd Dysgu yn amodol ar y meini prawf cymhwysedd arferol. Gweler ein Canllaw Cyllid i Israddedigion i gael rhagor o wybodaeth.

Ffïoedd Dysgu

Mae cost y Ffïoedd Dysgu ar gyfer blwyddyn dramor/ lleoliad yn dibynnu ar y cynllun perthnasol. Mae unrhyw ffïoedd sy'n ddyledus yn daladwy i Brifysgol Abertawe.

Cyllid Cynhaliaeth

Gwiriwch gyda'ch darparwr cyllid mewn perthynas â chymhwysedd ar gyfer Cyllid Cynhaliaeth sy'n destun Prawf Modd a Grantiau Ychwanegol gan fod y meini prawf ar gyfer derbyn y rhain yn amrywio gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol a pha fath o leoliad rydych yn ymwneud ag ef.

CynllunBenthyciad CynhaliaethGrant Cynhaliaeth sy'n destun Prawf Modd (Cyllid Myfyrwyr Cymru'n unig)Grant Teithio YchwanegolGrantiau Ychwanegol
Blwyddyn Dramor: Astudio Gwirio gyda’r darparwr cyllid
Blwyddyn Dramor:
Gwaith

Cyfradd is
X X* Gwirio gyda’r darparwr cyllid
Blwyddyn mewn Diwydiant
 thâl

Cyfradd is
X X Gwirio gyda’r darparwr cyllid
Blwyddyn mewn Diwydiant
Heb dâl  ^

Cyfradd is
X X Gwirio gyda’r darparwr cyllid

*Nid yw myfyrwyr ar leoliad gwaith â thâl yn gymwys am y Grant Teithio, oni bai bod y lleoliad gwaith yn rhan o gynllun Turing neu'r cynllun Taith. Os yw myfyrwyr wedi cyflwyno cais am gyllid drwy gynllun Turing neu'r cynllun Taith, dylent gyflwyno eu hawliad cychwynnol am dreuliau teithio i'r cynllun perthnasol ac os ydynt yn mynd i ragor o gostau, gallant hawlio drwy'r Grant Teithio.


^Ceir rhai eithriadau i'r rheol hon ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n ymgymryd â lleoliad di-dâl mewn rhai sefydliadau cyhoeddus/sefydliadau gwirfoddol/lleoliadau ymchwil, etc. Cysylltwch â thîm Arian@BywydCampws i gael rhagor o wybodaeth

 

Gall tîm Ewch yn Fyd-eang Prifysgol Abertawe ddarparu rhagor o wybodaeth am weithio ac astudio dramor.
E-bost: studyabroad@abertawe.ac.uk
I gael gwybodaeth am astudio neu weithio dramor pan fyddwch ar gwrs a ariennir gan y GIG, cysylltwch â'r adran rydych yn bwriadu astudio gyda hi.
Os ydych yn byw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu os ydych yn fyfyriwr o’r UE neu’n fyfyriwr Rhyngwladol, cysylltwch â ni i drafod y cyllid sydd ar gael.