Astudio Rhywle Arall

ASTUDIO RHYWLE ARALL 21/22

Blwyddyn/semester dramor neu mewn diwydiant

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i fyfyrwyr newydd sy'n byw yng Nghymru neu Loegr. I gael gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael i chi os ydych yn dod o'r tu allan i Gymru neu Loegr neu os ydych yn fyfyriwr sy'n parhau, cysylltwch â'r Tîm Arian@BywydCampws.

Beth yw Blwyddyn/Semester Dramor?

Gall fod gan fyfyrwyr gyfle i dreulio cyfnod yn gweithio neu'n astudio dramor mewn prifysgol bartner. Fel arfer, bydd myfyrwyr sy'n astudio rhaglenni gradd 4 blynedd yn treulio'r drydedd flwyddyn gyfan dramor.

Efallai bydd myfyrwyr sy'n astudio rhaglen radd 3 blynedd yn gallu treulio semester dramor ar leoliad astudio. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn y dewis hwn ei drafod gyda'u hadran, gan y bydd yn rhaid i'r astudio tramor arfaethedig gael ei gymeradwyo'n llawn cyn y lleoliad.

Beth yw Blwyddyn mewn Diwydiant?
Gall fod cyfle gan fyfyrwyr sy'n astudio rhaglenni penodol i dreulio blwyddyn mewn sefydliad partner, a adwaenir hefyd fel 'Blwyddyn Rhyngosod', fel ffordd o ennill profiad a sgiliau gwerthfawr.
Cynhelir lleoliadau fel arfer fel rhan o gwrs 4 blynedd a gallant fod am dâl neu'n ddi-dâl.

Taliadau Ffïoedd Dysgu Prifysgol Abertawe

Cynllun
Myfyrwyr sy’n Byw yng NghymruMyfyrwyr sy’n byw yn Lloegr
Blwyddyn Dramor: Astudio 15% o’r ffi lawn h.y. £1350
Benthyciad Ffïoedd Dysgu ar gael
15% o’r ffi lawn h.y. £1350.
Benthyciad Ffïoedd Dysgu ar gael
Blwyddyn Dramor: Gwaith 15% o’r ffi lawn h.y. £1350
Benthyciad Ffïoedd Dysgu ar gael
15% o’r ffi lawn h.y. £1350.
Benthyciad Ffïoedd Dysgu ar gael
Blwyddyn mewn Diwydiant 20% o’r ffi lawn h.y. £1,800
Benthyciad Ffïoedd Dysgu ar gael
20% o’r ffi lawn h.y. £1,800
Benthyciad Ffïoedd Dysgu ar gael

Mae cymhwysedd i dderbyn Benthyciadau a Grantiau Ffïoedd Dysgu yn amodol ar y meini prawf cymhwysedd arferol. Gweler ein Canllaw Cyllid i Israddedigion i gael rhagor o wybodaeth.

Ffïoedd Dysgu

Mae cost y Ffïoedd Dysgu ar gyfer blwyddyn dramor/ lleoliad yn dibynnu ar y cynllun perthnasol. Mae unrhyw ffïoedd sy'n ddyledus yn daladwy i Brifysgol Abertawe.

Cyllid Cynhaliaeth

Gwiriwch gyda'ch darparwr cyllid mewn perthynas â chymhwysedd ar gyfer Cyllid Cynhaliaeth sy'n destun Prawf Modd a Grantiau Ychwanegol gan fod y meini prawf ar gyfer derbyn y rhain yn amrywio gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol a pha fath o leoliad rydych yn ymwneud ag ef.

CynllunBenthyciad CynhaliaethGrant Cynhaliaeth sy'n destun Prawf Modd (Cyllid Myfyrwyr Cymru'n unig)Grant Teithio YchwanegolGrantiau Ychwanegol
Blwyddyn Dramor: Astudio Gwirio gyda’r darparwr cyllid
Blwyddyn Dramor:
Gwaith

Cyfradd is
X X Gwirio gyda’r darparwr cyllid
Blwyddyn mewn Diwydiant
 thâl

Cyfradd is
X X Gwirio gyda’r darparwr cyllid
Blwyddyn mewn Diwydiant
Heb dâl  ^

Cyfradd is
X X Gwirio gyda’r darparwr cyllid


^Ceir rhai eithriadau i'r rheol hon ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n ymgymryd â lleoliad di-dâl mewn rhai sefydliadau cyhoeddus/sefydliadau gwirfoddol/lleoliadau ymchwil, etc. Cysylltwch â thîm Arian@BywydCampws i gael rhagor o wybodaeth

 

Gall tîm Ewch yn Fyd-eang Prifysgol Abertawe ddarparu rhagor o wybodaeth am weithio ac astudio dramor.
Ffôn: 01792 606850 | E-bost: studyabroad@abertawe.ac.uk
I gael gwybodaeth am astudio neu weithio dramor pan fyddwch ar gwrs a ariennir gan y GIG, cysylltwch â'r adran rydych yn bwriadu astudio gyda hi.
Os ydych yn byw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu os ydych yn fyfyriwr o’r UE neu’n fyfyriwr Rhyngwladol, cysylltwch â ni i drafod y cyllid sydd ar gael.