CYFLWYNO CAIS

Hoffem eich gwahodd i gyflwyno ceisiadau ar gyfer Gwobrau Ymchwil ac Arloesi 2024. Gan gynyddu proffil ein hymchwil ac arloesi eithriadol a'n partneriaethau gwych â phartneriaethau allanol, mae'r Gwobrau yn cydnabod cyfraniadau gan unigolion a thimau at ein hamcan sefydliadol o ddefnyddio ein cryfder ymchwil, ein cydweithrediadau â diwydiant a'n cyrhaeddiad byd-eang i ysgogi twf economaidd, meithrin ffyniant, cyfoethogi bywyd cymunedol a diwylliannol Cymru a chyfrannu at iechyd, hamdden a lles ei dinasyddion.

Arweinir y fenter hon gan dîm y Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi, drwy Gyfrif Cyflymu Effaith yr UKRI, ac mewn cydweithrediad â phartneriaid a noddwyr allanol.