Hyd at £500 am syniadau busnessau newydd
Nod Founders Fund 500 yw helpu myfyrwyr a graddedigion i gymryd y cam cyntaf at ddechrau eu busnes eu hunain, i gael gyrfa ar eu liwt eu hunain neu ddechrau menter gymdeithasol. Bydd y cyllid grant yn helpu i droi eich syniad entrepreneuraidd yn realiti drwy estyn llaw i entrepreneuriaid y dyfodol sydd angen hwb ariannol.
Mae'n hawdd cyflwyno cais am hwn a gall helpu i ariannu nifer o eitemau, os gallwch ddangos yn glir sut bydd yn helpu'r syniad i ddatblygu. Mae enghreifftiau'n cynnwys:
- Offer a deunyddiau
- Datblygu gwefan
- Costau marchnata a hysbysebu
- Cyrsiau hyfforddiant perthnasol
- Gweithgareddau profi manwerthu
- Cyfleoedd i rwydweithio
- Gweithgareddau ymchwil y farchnad
Sylwer, bod cystadleuaeth frwd am y cyllid hwn a swm cyfyngedig sydd gennym i'w ddyrannu bob blwyddyn. Mae'r Tîm Mentergarwch Myfyrwyr yn cadw'r hawl i dynnu'r cyfle cyllid ar unrhyw adeg.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen yr wybodaeth isod yn ofalus i roi'r cyfle gorau i chi lwyddo.
Os oes gennych gwestiynau neu os oes angen help arnoch gyda'ch cais, e-bostiwch y Tîm Mentergarwch Myfyrwyr enterprise@abertawe.ac.uk.
Amodau a Thelerau
Cymhwysedd:
Mae'r cyllid ar gael i fyfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe a graddedigion diweddar (o fewn 2 flynedd).
Rhaid i unigolion/dimau sy'n cyflwyno cais am y cyllid ddangos uchelgais clir dros ddechrau busnes dilys, gyrfa ar eu liwt eu hunain neu fenter gymdeithasol, a rhaid eu bod wedi gwneud cynnydd o ran ymchwilio/datblygu'r syniad.
Rhaid i'r rhai hynny sydd am gyflwyno cais am Founders Fund 500 hefyd fod mewn sefyllfa i gofrestru eu busnes (unig fasnachwr/perchennog etc.) o fewn 3 mis i gyflwyno cais. Caiff cyllid ei ryddhau yn dilyn cadarnhau strwythur y busnes a'r dystiolaeth a ddarperir.
Gall y cyllid gael ei ddefnyddio ar gyfer busnesau yn y DU yn unig. NI all unigolion neu dimau sy'n cynnwys myfyrwyr ar Fisa Myfyrwyr gyflwyno cais am gyllid busnes, oherwydd rheolau'r fisa. Serch hynny, gall unigolion ar Fisa Llwybr Graddedigion gyflwyno cais am gyllid. Mae mwy o wybodaeth am Fisa Llwybr Graddedigion ar gael yma.
Os ydych wedi derbyn cyllid gynt drwy Founders Fund 500, ni fyddwch yn gymwys i ailgyflwyno cais a dylech geisio cyfleoedd cyllid eraill.
Ni chaniateir i fyfyrwyr neu raddedigion sydd hefyd wedi derbyn £3,000 o gystadlaethau Big Pitch blaenorol gyflwyno cais gan eu bod eisoes wedi cyrraedd y cyfanswm sydd ar gael i fyfyrwyr a graddedigion.
Sut mae'r cyllid yn gweithio:
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, ni fyddwch yn derbyn yr arian ar unwaith, byddwch yn cael ad-daliad. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wario'r arian yn gyntaf gan ddefnyddio eich arian eich hun a chadw'r holl dderbynebau/prawf prynu er mwyn hawlio'r arian yn ôl.
Dylid cytuno ar yr holl eitemau rydych yn bwriadu eu prynu ymlaen llawn yn ysgrifenedig gyda'r Tîm Mentergarwch Myfyrwyr. Sylwer na fyddwn yn debygol o gymeradwyo eitemau a fydd o fudd i unigolyn ac nid y busnes (cerbydau, cyfrifiaduron/gliniaduron etc.)
Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru statws masnachu (unig fasnachwr, cwmni cyfyngedig etc.) o fewn 3 mis o gyflwyno eu cais llwyddiannus. Caiff cyllid ei ryddhau yn dilyn cadarnhau strwythur y busnes a'r dystiolaeth a ddarperir.
I gael ad-daliad ar yr arian rydych wedi'i wario, byddwch yn cael Ffurflen Treuliau Myfyrwyr y bydd angen i chi ei chwblhau a'i hanfon i enterprise@abertawe.ac.uk ynghyd â derbynebau/prawf prynu a thystiolaeth o wybodaeth am eich busnes. Yna bydd eich taliad yn cael ei brosesu.
Unwaith bydd eich cais wedi'i gymeradwyo, bydd gennych uchafswm o dri mis i gwblhau eich cais a darparu tystiolaeth o'ch busnes (Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw/Rhif y Cwmni etc.)
Sylwer, os nad ydych yn cydymffurfio â'r gofynion hyn, mae gan y Tîm Mentergarwch Myfyrwyr yr hawl i dynnu unrhyw gyllid a gynigwyd i chi yn ôl.
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, gall taliadau gymryd hyd at 5 wythnos i ddod atoch, ond weithiau ceir oedi.
Y Broses Cyflwyno Cais:
I gyflwyno cais am Founders Fund 500 i helpu i ddatblygu eich syniad busnes, dilynwch y ddolen isod lle byddwch yn cael gwybodaeth am y canlynol:
- Eich manylion myfyriwr/graddedig
- Enw eich busnes, dolenni cyfryngau cymdeithasol/gwefan (os yw'n berthnasol)
- Templed wedi'i gwblhau o Drosolwg o'r Busnes:
- Cysyniad
- Ymchwil Marchnata
- Marchnata
- Gweithrediadau
- Costau
- Sgiliau
- Cynnydd hyd yn hyn
- Faint o gyllid sydd ei angen arnoch a beth fydd yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer
- Eich cynlluniau nesaf ar gyfer y busnes
Os ydych yn cyflwyno cais fel tîm, dewiswch un aelod i gwblhau'r ffurflen gais, lle byddwch yn cael y cyfle i nodi manylion gweddill eich tîm.
Y Broses Adolygu:
Er mwyn i'ch cais fod yn llwyddiannus, rhaid i chi ddangos y canlynol:
Mae'n syniad sy'n werth ei ddatblygu - Rhowch fanylion pam rydych yn meddwl bod y syniad hwn yn bodloni angen defnyddwyr neu ddatrys problem a sut. Rhowch wybodaeth am eich cynulleidfa darged, sut byddwch yn ei denu a sut bydd eich syniad yn well na'r gystadleuaeth.
Mae'n syniad busnes cymdeithasol/amgylcheddol - syniadau sydd â diben cymdeithasol neu amgylcheddol, maent yn gynaliadwy a/neu'n gweithio at gefnogi un neu fwy o Nodau Datblygu Cynaliadwy'r CU, bydd ganddynt well cyfle o gael eu dewis i dderbyn y cyllid.
Mae wedi'i gyflwyno'n dda - Rydych chi wedi esbonio eich syniad yn glir ac yn gryno, mewn ffordd y gall unrhyw un ei ddeall.
Bydd y cyllid yn helpu eich syniad busnes i ddatblygu - Rhowch restr glir o eitemau rydych yn bwriadu eu prynu, am beth y mae eu hangen, beth yw'r gost a sut byddan nhw'n helpu i symud eich syniad yn ei flaen.
Ymrwymiad - Rydych wedi dangos eich ymrwymiad i'r syniad/busnes ac mae gennych y cymhelliad i symud pethau yn eu blaen.
Caiff ceisiadau eu hadolygu ar ddiwedd pob mis. Dylech ganiatáu hyd at 6 wythnos i gael eich hysbysu ynghylch canlyniad eich cais.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael gwybod ac yn cwrdd ag aelod o'r Tîm Mentergarwch Myfyrwyr i esbonio'r camau nesaf.
Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, mae croeso i chi drefnu cwrdd â'r Tîm Mentergarwch Myfyrwyr i ganfod sut gallwch ddatblygu eich syniad ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol.
Sylwer, bydd asesiad a phenderfyniad ar gymeradwyo'r cais a'r dyraniad cyllid gan y Tîm Mentergarwch Myfyrwyr yn derfynol. Os na fydd yr ymgeiswyr yn cydymffurfio â'r holl amodau a thelerau, mae ganddynt yr hawl i dynnu unrhyw gyllid yn ôl.
Gwnewch gais
Cliciwch ar y ddolen hon i gyflwyno cais. (Drwy gyflwyno cais rydych yn cytuno i'r amodau a thelerau a nodir yn y ddogfen hon. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen drwy'r holl wybodaeth yn ofalus)
Os oes gennych gwestiynau neu os oes angen help arnoch gyda'ch cais, e-bostiwch y Tîm Mentergarwch Myfyrwyr enterprise@abertawe.ac.uk.