Mae gan y Brifysgol dri chyfnod arholi swyddogol bob blwyddyn ar gyfer rhaglenni sy’n dechrau ym mis Medi:
Ionawr - Asesiadau Amgen Ar-lein Semester 1
|
4ydd hyd 22ain Ionawr 2021
|
Mai – Mehefin - Asesiadau Amgen Ar-lein Semester 2
|
10fed Mai – 4ydd Mehefin 2021
|
Awst – Asesiadau Amgen Ar-lein Atodol (Ailsefyll arholiadau a/neu rai a ohiriwyd)
|
9fed - 27ain Awst 2021
|
Dylech chi ofalu eich bod ar gael ar gyfer yr holl ddyddiadau arholi, gan gynnwys Cyfnod Asesu Atodol mis Awst. Hyd yn oed os nad ydych chi’n disgwyl ailsefyll arholiadau, hwyrach y bydd gennych chi arholiadau a ohiriwyd o ganlyniad i salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill.
Ar gyfer cyfnodau arholi rhaglenni sy’n dechrau ym mis Ionawr, ewch i dudalen we ’Dyddiadau Semestrau a Thymhorau’r Brifysgol.
Arholiadau ac Asesiadau
Beth dylwn i ei wneud os bydd problem o ran fy amserlen asesu?
Os byddwch chi’n dod o hyd i broblem o ran eich amserlen arholi, rhowch wybod yn syth i engoffice@abertawe.ac.uk. Hwyrach bod modiwl ar goll, mae modiwl a restrir nad ydych chi wedi cofrestru ar ei gyfer neu ceir gwrthdaro. Ni waeth beth fo’r broblem, rhowch wybod amdani’n syth.
Beth sy’n digwydd os na alla i gwblhau arholiad/asesiad wyneb yn wyneb neu ar-lein?
Dylech chi roi gwybod i’r Tîm Gwybodaeth i Fyfyrwyr yn syth drwy e-bostio engoffice@abertawe.ac.uk.
Beth sy’n digwydd os bydda i’n sâl yn ystod arholiad wyneb yn wyneb?
Rhowch wybod i’r Goruchwyliwr cyn gynted â phosibl. Bydd yn cofnodi’ch salwch ac yn eich helpu chi. Ar ôl i’r arholiad orffen, cysylltwch â’r Tîm Gwybodaeth i Fyfyrwyr drwy e-bostio engoffice@abertawe.ac.uk er mwyn trafod opsiwn gohirio’ch arholiad.
Alla i sefyll fy arholiad/asesiad amgen ar-lein rywbryd arall?
Os ydych chi’n mynd yn sâl neu’n dioddef amgylchiadau eraill sy’n effeithio ar eich gallu i sefyll eich arholiad, hwyrach y bydd yn bosibl ichi ohirio eich arholiad/asesiad amgen ar-lein tan ddyddiad diweddarach. Cysylltwch â’r Tîm Gwybodaeth i Fyfyrwyr drwy e-bostio engoffice@abertawe.ac.uk
Pryd bydd canlyniadau’r arholiadau’n cael eu rhyddhau?
Bydd canlyniadau’r arholiadau a’ch marciau cyffredinol terfynol a gadarnhawyd ar gyfer pob modiwl yn cael eu cyhoeddi ar eich proffil ar y Fewnrwyd.
Marciau dros dro modiwlau Semester 1: Mis Chwefror
Marciau terfynol modiwlau Semester 1 a 2: Mis Gorffennaf
Marciau terfynol asesiadau atodol: Mis Medi
Dros dro yw’r holl farciau arholiadau a gwaith cwrs hyd nes y bydd Byrddau Dilyniant Arholiadau’r Brifysgol a gynhelir ym mis Mehefin/Gorffennaf ac ym mis Awst/Medi bob blwyddyn academaidd yn eu cadarnhau fel rhai terfynol.