Rwy'n dod o India'n wreiddiol a symudais i i Abertawe oherwydd fy uchelgais i greu effaith ddiriaethol ar gymdeithas drwy gyfuno technoleg â photensial dynol. Fel Asiad ym maes technoleg, rwy'n gobeithio dod â safbwynt amrywiol i'm gwaith ac rwy'n bwriadu datblygu technolegau sy'n grymuso unigolion i gyflawni eu potensial llawn. Y tu hwnt i'm bywyd proffesiynol, rwy'n feiciwr brwdfrydig. Mae beicio'n rhoi ymdeimlad o heddwch a rhyddid i mi ond mae hyn hefyd yn ffordd o archwilio lleoliadau gwahanol. Mae'n angerdd sydd wedi fy nhywys i lawer o leoedd, gan fy ngalluogi i brofi lawer o ddiwylliannau a dulliau coginio. Mae'r profiadau hyn wedi cyfoethogi fy mywyd yn bersonol ond maen nhw hefyd wedi rhoi safbwynt ehangach i mi o ran fy ymagwedd at ymchwil. Yn ei hanfod, mae fy nhaith bersonol, fy hobïau a'm dyheadau'n gysylltiedig â'i gilydd. Maent yn fy ysbrydoli i ddefnyddio fy sgiliau a'm gwybodaeth i wneud gwahaniaeth, gan feithrin amgylchedd o gydweithredu ac, yn y pen draw, greu technolegau sy'n canolbwyntio’n wirioneddol ar bobl.
BOD YN GYNRYCHIOLYDD PWNC
Rwy'n credu'n gryf mewn meithrin cymuned gefnogol, gymhwysol a diddorol i'm cyd-fyfyrwyr. Gan fy mod i'n eiriolwr eiddgar dros lais y myfyrwyr, rwy'n deall pwysigrwydd cynrychioli myfyrwyr a chyfrannu at brosesau penderfynu'r Brifysgol. Rwy'n frwdfrydig am wasanaethu fel canolwr rhwng y myfyrwyr a staff gweinyddu'r Brifysgol i sicrhau bod holl bryderon, awgrymiadau ac anghenion fy nghymheiriaid yn cael eu cyfleu'n gywir ac yn effeithiol. Ar ben hynny, rwy'n ymrwymedig i greu effaith gadarnhaol ar brofiad y myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Yn fy marn i, mae'r rôl hon yn gyfle gwerthfawr i ddylanwadu'n uniongyrchol ar yr amgylchedd academaidd ac ansawdd cyffredinol bywyd y myfyrwyr. Fy nod yw mynd i'r afael â phryderon brys ond hefyd hyrwyddo gwelliannau hirdymor a allai fod o fudd i garfanau'r dyfodol. Drwy'r rôl hon, rwy'n gobeithio meithrin ymdeimlad o undod ymhlith myfyrwyr, hyrwyddo deialogau agored rhwng y myfyrwyr a staff y gyfadran ac, yn y pen draw, gyfrannu at wella taith addysgol pawb ym Mhrifysgol Abertawe.
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL
Fel Cynrychiolydd Pwnc ar gyfer ymchwil Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, mae gen i gyfrifoldebau amrywiol sydd â'r nod o wella profiadau academaidd a chymdeithasol y myfyrwyr. Un o'm dyletswyddau allweddol yw hwyluso cyfathrebu agored ac adeiladol rhwng myfyrwyr, tiwtoriaid a darlithwyr. Rwy'n ymdrechu i greu amgylchedd sy'n annog cydweithredu, yn meithrin ymdeimlad o gymuned ac sydd, yn y pen draw, yn hyrwyddo awyrgylch iach sy'n hwyluso dysgu.
FY ASTUDIAETHAU PRESENNOL...
Rwyf ar hyn o bryd yn ymgymryd â maes ymchwil diddorol ym myd Rhyngweithiad rhwng Pobl a Chyfrifiaduron, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddal gwybodaeth arbenigol drwy ddata ffisiolegol mewn lleoliadau diwydiannol. Mae fy ngwaith wedi'i seilio yn yr adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe. Yr agwedd rwy'n ei mwynhau fwyaf am fy ngwaith yw'r elfen o gydweithredu, yn benodol dylunio technoleg ar y cyd â'r defnyddwyr eu hunain. Mae'r ymagwedd ymarferol hon yn ein galluogi ni i lunio damcaniaethau'n uniongyrchol gyda'r unigolion a fydd yn defnyddio'r dechnoleg, gan feithrin cydberchnogaeth ar y canlyniadau yn ogystal â mewnwelediadau ystyrlon. Mae hi hefyd yn lliniaru'r canlyniadau nas bwriedir oherwydd ei bod yn ystyried safbwyntiau uniongyrchol y defnyddwyr, gan fwyhau buddion ac effeithiau cadarnhaol y technolegau sy'n deillio o hyn.