Trosolwg
Mae'r arweiniad isod wedi'i ategu gan ddolenni i fanylion polisi ariannol perthnasol y brifysgol, felly gallwch fod yn hyderus bod yr wybodaeth a ddarperir yn cael ei diweddaru'n rheolaidd pan gaiff polisïau eu diwygio.
Mae'r arweiniad isod wedi'i ategu gan ddolenni i fanylion polisi ariannol perthnasol y brifysgol, felly gallwch fod yn hyderus bod yr wybodaeth a ddarperir yn cael ei diweddaru'n rheolaidd pan gaiff polisïau eu diwygio.
I brynu nwyddau neu wasanaethau, rhaid dilyn yr arweiniad canlynol:
Mae'r brifysgol wedi rhoi polisi ar hawliadau treuliau ar waith sy'n berthnasol i staff a myfyrwyr. Mae manylion y polisi ar gael drwy'r ddolen ganlynol: Polisi a Gweithdrefn Treuliau - Prifysgol Abertawe
Dylech ddarllen y canllawiau cyn i chi wneud unrhyw daliadau'n uniongyrchol gyda golwg ar gael eich ad-dalu gan y Brifysgol yn ddiweddarach. Fel rheol, nifer cyfyngedig yn unig o gostau teithio y gallwch eu hawlio'n ôl drwy'r system hawliadau treuliau. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
Ystyrir ad-dalu pob math arall o gostau fel eithriad yn unig neu ar sail trefniant wrth gefn pan fo cymeradwyaeth wedi'i rhoi ymlaen llaw.
Gallwch gysylltu â thîm cyllid y gyfadran yn y cyfeiriadau e-bost penodol canlynol:
Prynu nwyddau a gwasanaethau - fseorders@abertawe.ac.uk
Archebu trefniadau teithio - fseorders@abertawe.ac.uk
Prosesu hawliadau treuliau - fseexpenseclaims@abertawe.ac.uk
Mae gan y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg dîm sydd â'r nod o ddarparu arweiniad a chymorth mewn perthynas â holl wasanaethau ariannol y brifysgol. Mae'r arweiniad canlynol yn cyfeirio at y categorïau gwariant canlynol: