Sylwer, bod y dudalen hon ar gyfer myfyrwyr y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheiriannegyn unig; rhaid cyfeirio ceisiadau i newid modiwl myfyrwyr mewn Colegau eraill i’r timau priodol isod.

Gan ddibynnu ar eich cwrs a'r flwyddyn, efallai y bydd gennych gyfle i ddewis modiwlau opsiynol. Pan fyddwch wedi gwirio hyn yn Llawlyfr Rhan 2 eich cwrs a'r flwyddyn, gallwch anfon cais ysgrifenedig atom yn quality-scienceengineering@swansea.ac.uk.

Gall eich cais gael ei wrthod:

  • Os yw'r modiwl yn llawn eisoes. Os felly, gallwn eich rhoi ar restr aros a chysylltu â chi os bydd lle ar gael.
  • Os yw'ch cais yn cael ei dderbyn mwy na phythefnos ar ôl dechrau'r tymor addysgu. Bydd angen i chi ddarparu cadarnhad ysgrifenedig gan Gydlynydd y Modiwl os ydych yn gwneud cais yn hwyrach na hyn.