Arweinir y cynllun PASS
Arweinir y cynllun PASS gan James Lewis a Nicole Chartier, arbenigwr yng Nghanolfan Llwyddiant Academaidd y Brifysgol.
Bydd arweinwyr myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn y cynllun hwn yn datblygu'r sgiliau canlynol i'w hychwanegu at eich CV:
- Rhoi a derbyn adborth.
- Cynllunio gweithgareddau dysgu ystyrlon.
- Ysgogi a helpu eraill i ennill hyder.
- Datrys problemau.
- Rheoli amser
- Gweithio'n dda gydag ystod o bobl.
Byddai bod yn Arweinydd Myfyrwyr yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach ichi o'ch pwnc, a fydd yn fuddiol i chi yn eich astudiaethau eich hun. Byddai'r profiad hefyd yn eich helpu i fyfyrio ar eich ymagweddau a’ch dulliau astudio eich hun, a byddwch yn cael hyfforddiant a chymorth gan arbenigwr mewn sgiliau sy'n gysylltiedig ag astudio ac asesu.
Er mai rôl wirfoddol yw hon ac ni cheir tâl amdani, fel arweinydd PASS, byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am wobr HEAR (Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch) drwy'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd. Unwaith y bydd wedi'i gymeradwyo, bydd manylion gwobr HEAR ar gael drwy eich cyfrif MyUni/Gradintel, a bydd y wobr yn ymddangos ar eich trawsgrifiad. Byddwn hefyd yn nodi eich rôl fel Arweinydd Myfyrwyr ar eich cofnod myfyriwr, fel y gellir ei gynnwys mewn geirdaon ar gyfer astudio pellach neu gyflogaeth.