Cynhelir Wythnos Groeso i fyfyrwyr newydd rhwng 25 - 26 Ionawr 2024

Rhaid mynd i'r holl sesiynau y nodir eu bod yn rhai GORFODOL. Fodd bynnag, fe'ch anogir i fynd i’r holl sesiynau ar eich amserlen i gyrchu'r amrywiaeth lawn o wybodaeth a chymorth a fydd yn berthnasol i chi drwy gydol eich astudiaethau.

Mewn rhai digwyddiadau, cewch adnoddau penodol a fydd yn ddefnyddiol i chi drwy gydol y flwyddyn. Fyddwn ni ddim am i chi golli allan, felly sicrhewch eich bod chi'n dod!

I gael manylion am leoliad eich sesiynau, edrychwch ar y map o Gampws y Bae

Dydd Iau 25 Ionawr
AmserLleoliadDigwyddiad
10:00 - 11:00 Yn dechrau y tu allan i'r dderbynfa, Adeilad Canolog Peirianneg (Campws y Bae)

Taith Ddewisol o'r Campws (gyda myfyrwyr presennol)

Ai dyma dy dro cyntaf yn Abertawe? Ymuna â ni i archwilio'r campws dan arweiniad Cynrychiolwyr Myfyrwyr presennol.
11:00 - 12:00 B001, Adeilad Canolog Peirianneg (Campws y Bae)

GORFODOL: Pob Rhaglen Ôl-raddedig a Addysgir sy'n dechrau ym mis Ionawr – Arweiniad Astudio Hanfodol (Cymorth Myfyrwyr)

Dere i ddarganfod y platfformau ar-lein a'r feddalwedd y byddi di'n eu defnyddio, y cymorth a fydd ar gael i ti drwy gydol dy astudiaethau a'r cyfleoedd i gymryd rhan yn y sesiwn hon dan arweiniad y Tîm Cymorth Myfyrwyr.
12:00 - 14:00 Adeilad Undeb y Myfyrwyr (Campws Y Bae)

Ffair y Glas

Sylwer, Ffair y Glas, sy'n cael ei chynnal gan Undeb y Myfyrwyr, yw'ch cyfle i gwrdd â'r cymdeithasau myfyrwyr a'r timau chwaraeon swyddogol. Er bod y digwyddiad yn cael ei hysbysebu fel un sy'n para drwy'r dydd, bydd angen i chi drefnu amser penodol i fynd iddo.

ReFreshers Fayre 2024 (swansea-union.co.uk)
14:00 - 17:00 B001, Adeilad Canolog Peirianneg (Campws y Bae)

GORFODOL Sgyrsiau byr a chyfle i gymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol gan yr adrannau canlynol:

  • Y Llyfrgell
  • Y Ganolfan Llwyddiant Academaidd
  • Cynaliadwyedd
  • Cyflogadwyedd

 

Dydd Iau 26 Ionawr