Polisi Prawf-ddarllen

Diben 

Mae'r polisi hwn yn amlinellu polisi'r Brifysgol ar brawf-ddarllen, gan gynnwys defnyddio gwasanaethau prawf-ddarllen neu olygu trydydd parti proffesiynol, mewn perthynas â gwaith cwrs (traethodau, adroddiadau, traethodau hir etc) sy'n cael ei gyflwyno at ddibenion asesu mewn rhaglenni a addysgir (israddedig ac ôl-raddedig a addysgir).  

Egwyddorion Allweddol 

  1. Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau prawf-ddarllen, ac fe'u hanogir iddynt wneud hynny, i sicrhau eu bod nhw'n prawf-ddarllen eu gwaith eu hunain, a chânt eu cefnogi gan y Brifysgol i wneud hynny. 
  2. Nid yw'r Brifysgol yn caniatáu defnyddio gwasanaethau prawf-ddarllen trydydd parti proffesiynol (oni bai y caiff ei gymeradwyo'n benodol gan y Brifysgol at ddibenion diffiniedig, e.e. addasiad rhesymol).  
  3. Rhaid i'r holl fyfyrwyr ddatgan wrth gyflwyno pob asesiad mai eu gwaith nhw sy'n cael ei gyflwyno ac y caiff ei gyflwyno'n unol â'r polisi hwn. 
  4. Rhaid i fyfyrwyr gydymffurfio â diffiniadau a chyfrifoldebau a amlinellir yn y polisi hwn, a sicrhau bod unrhyw brawf-ddarllenwyr a ddefnyddir yn ymwybodol o'r gofynion hyn. 

Diffiniadau 

Mae golygu a phrawf-ddarllen yn hanfodol yng nghamau terfynol y broses ysgrifennu. 

Caiff golygu ei ddiffinio fel unrhyw newid o bwys i gyflwyniad testun sy'n mynd y tu hwnt i brawf-ddarllen, fel a amlinellwyd isod. Yn benodol, mae cynnwys unrhyw addasiad sy'n newid, yn cywiro, yn ehangu neu'n crynhoi cynnwys academaidd y gwaith mewn ffordd sylweddol. Mae golygu yn cynnwys adolygu cynnwys y testun i sicrhau bod y syniadau a'r cysyniadau yn cael eu mynegi'n glir ac yn rhesymegol a bod y testun yn ystyrlon ac yn gydlynus. Gall golygu fod ar raddfa fach neu'n sylweddol o ran ei natur, a gall newid cynnwys ac ystyr y gwaith terfynol yn gyfan gwbl. Dylai'r myfyriwr olygu'r gwaith, mewn cydweithrediad â'i oruchwylydd academaidd 

Caiff prawf-ddarllen ei ddiffinio fel "darllen gofalus o ddogfen sydd heb ei chwblhau eto, i ganfod gwallau sillafu, atalnodi, gramadeg, fformatio a chynllun yn y testun."  

Gall prawf-ddarllenydd: 

  • nodi gwallau sillafu a theipograffeg;  
  • nodi gwallau atalnodi;  
  • nodi gramadeg a strwythur brawddegau gwael;  
  • amlygu gwallau geirfa clir ac awgrymu dewis amgen o eirio pan fydd yr ystyr yn glir;  
  • amlygu cystrawen/darnau o destun nad yw'n glir sy'n ymddangos yn aneglur i'r darllenydd;  
  • nodi anghysondeb o ran cynllun y ddogfen; defnyddio penawdau; confensiynau cyfeirnodi, etc.  

Ni chaniateir i brawf-ddarllenydd: 

  • ysgrifennu traethawd neu fath arall o aseiniad ysgrifenedig ar ran myfyriwr;  
  • golygu, newid neu ailysgrifennu unrhyw ran o waith myfyriwr neu gyfrannu at ddeunydd ychwanegol y gwaith gwreiddiol;  
  • cywiro gwaith myfyriwr mewn ffordd lle nad yw'r gwallau gwreiddiol yn weladwy. Dylid defnyddio papur a phen, neu'r teclyn "sylwadau" mewn meddalwedd prosesu geiriau;  
  • cywiro gwallau lle nad yw'r ystyr a fwriadwyd yn y gwreiddiol yn glir. Yn lle, dylid dweud wrth y myfyriwr fod yr ystyr yn aneglur;  
  • cyfieithu'r gwaith; 
  • cynnig cyngor ar yr hyn i'w ychwanegu neu adael allan o'r gwaith; 
  • aildrefnu paragraffau;  
  • cywiro gwallau ffeithiol neu gamgymeriadau o ran cyfrifiad, fformiwlâu neu gôd cyfrifiadurol;  
  • ail-labeli diagramau, siartiau neu ffigurau;  
  • cywiro neu ail-fformatio cyfeirnodau. 

Gwasanaethau prawf-ddarllen (neu olygu) trydydd parti – unrhyw drydydd parti proffesiynol sy'n darparu gwasanaeth prawf-ddarllen, gan gynnwys gwasanaethau prawf-ddarllen neu olygu proffesiynol allanol dan gytundeb a allai newid gwaith myfyriwr ar ran y myfyriwr (sy'n Gamymddygiad Academaidd).  

Meddalwedd aralleirio a gramadeg – Rhaglenni ar-lein a allai gynnig help gydag arddull ysgrifennu a gramadeg (gweler https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd-academaidd/camymddygiad-academaidd/). 

Melinau traethodau – busnesau sy'n galluogi cwsmeriaid i gomisiynu darn gwreiddiol o ysgrifennu ar bwnc penodol  

Gelwir gofyn i rywun arall ysgrifennu gwaith yn rhannol neu'n llawn yn 'gomisiynu' ac fe'i hystyrir i fod yn gamymddygiad academaidd, sy'n gallu arwain at gosbau difrifol. 

1.

Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau prawf-ddarllen, ac fe'u hanogir iddynt wneud hynny, i sicrhau eu bod nhw'n prawf-ddarllen eu gwaith eu hunain, a chânt eu cefnogi gan y Brifysgol i wneud hynny. 

Mae'r Brifysgol yn gweithio i gefnogi myfyrwyr drwy ddatblygu eu sgiliau nhw i gynhyrchu gwaith o safon uchel, gan gynnwys y gallu i brawf-ddarllen eu gwaith eu hunain. Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen eu gwaith yn drylwyr i sicrhau nad oes gwallau teipograffeg, gramadegol neu sillafu yn y fersiynau terfynol o waith asesedig a gyflwynir. Mae cymorth Sgiliau Astudio, gan gynnwys sesiynau ac adnoddau ar brawf-ddarllen, ar gael gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd. 

Fel rhan o'r broses addysgu, dylai timoedd rhaglenni hefyd ddangos i fyfyrwyr sut i olygu, prawf-ddarllen a mireinio gwaith cwrs yn effeithiol. Gallai hyn gynnwys esbonio i fyfyrwyr gofynion penodol math penodol o waith ysgrifenedig, gan ddangos technegau i wella un darn penodol o ysgrifennu, a darparu adborth effeithiol, i helpu myfyrwyr i ddeall y broses ysgrifennu a'r safonau disgwyliedig mewn unrhyw ddarn terfynol o waith a gyflwynir. 

Fodd bynnag, efallai y bydd myfyrwyr am wneud eu trefniadau eu hunain o ran prawf-ddarllen eu gwaith, yn enwedig pan fydd ganddynt anabledd neu anhawster dysgu penodol.  

 2.

Nid yw'r Brifysgol yn caniatáu defnyddio gwasanaethau prawf-ddarllen trydydd parti proffesiynol (oni bai y caiff ei gymeradwyo'n benodol gan y Brifysgol at ddibenion diffiniedig, e.e. addasiad rhesymol).  

Bydd y Brifysgol yn darparu cymorth astudio i fyfyrwyr yn deg ac yn gyfartal yn Gymraeg ac yn Saesneg i alluogi myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau i olygu a phrawf-ddarllen eu gwaith eu hunain yn effeithiol, a/neu sicrhau bod addasiadau rhesymol ar waith pan fo angen. 

Nid yw'r Brifysgol yn caniatáu'r defnydd o wasanaethau prawf-ddarllen neu olygu trydydd parti proffesiynol, gan gynnwys gwasanaethau ar-lein megis meddalwedd aralleirio a gramadeg nad ydynt yn cael eu cefnogi fel arall gan y Brifysgol (a/neu oni bai fod addasiad rhesymol y cytunwyd arno o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010). Nid yn unig y bydd defnyddio'r gwasanaethau prawf-ddarllen neu olygu hyn yn rhoi mantais annheg i rai myfyrwyr dros eraill, gall hefyd wneud myfyrwyr yn agored i'r posibilrwydd bod eu gwaith yn cael ei ddefnyddio, ei gopïo neu ei ddwyn gan fyfyriwr arall, gan arwain at ddatgelu hyn drwy feddalwedd baru wrth gyflwyno'r gwaith, ynghyd â'r Melinau Traethodau yn cymryd mantais ohonynt. 

Bydd myfyrwyr yn ymwybodol y gallai'r defnydd o wasanaethau prawf-ddarllen trydydd parti proffesiynol arwain at ymchwiliad Camymddygiad Academaidd, a allai arwain at y gwaith yn methu.  

 3.

Rhaid i fyfyrwyr gydymffurfio â diffiniadau a chyfrifoldebau a amlinellir yn y polisi hwn, a sicrhau bod unrhyw brawf-ddarllenwyr a ddefnyddir yn ymwybodol o'r gofynion hyn. 

Cyfrifoldeb y myfyriwr unigol fel awdur y gwaith yw prawf-ddarllen cyn cyflwyno gwaith i'w asesu. Fodd bynnag, mae'r Brifysgol yn cydnabod bod prawf-ddarllen yn ddull ar gyfer cefnogi a gwella dysgu myfyrwyr a gallai hefyd fod yn addasiad rhesymol i rai myfyrwyr gyda gofynion cymorth penodol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.  

Pan fydd myfyriwr yn cyflwyno gwaith i'w asesu, rhaid iddo wneud datganiad o uniondeb academaidd ar bob 'dalen flaen' ar waith a gyflwynir i'w asesu, sy'n datgan mai ef yw unig awdur y gwaith oni dywedir fel arall: 

"Wrth gyflwyno'r asesiad hwn, ardystiaf mai fy ngwaith i yw hwn (oni bai lle nodir fel gwaith grŵp) ac y cydnabuwyd y defnydd o ddeunydd o ffynonellau eraill yn briodol yn y testun. Nid y gwaith hwn nac unrhyw ran ohono, nac unrhyw ran ohono, wedi cael ei gyflwyno yn yr un fformat mewn cysylltiad ag unrhyw asesiad arall. 

Rwyf wedi darllen a deall Polisi Camymddygiad Academaidd y Brifysgol Pholisi Prawf-ddarllen y Brifysgol, a'r diffiniadau o lên-ladrad, cydgynllwynio a chomisiynu sydd ynddynt, ac rwyf yn deall canlyniadau cyflawni Camymddygiad Academaidd yn arwain at gynnal ymchwiliad camymddygiad academaidd ac, os caiff ei brofi, gall arwain at ganslo marciau ar gyfer y papur, rhoi marc o sero ar gyfer y modiwl, canslo marciau ar gyfer y lefel astudio, neu ganslo pob marc a’ch diarddel o’r rhaglen." 

Rhaid i'r holl fyfyrwyr gydymffurfio â'r Polisi hwn, ac ym mhob achos rhaid cadw awduraeth dros eu gwaith.  Gall methu  cydymffurfio â'r Polisi hwn arwain at ymchwiliad yn unol â'r Polisi Camymddygiad Academaidd, ac Adran 3 yn benodol.  

Mae'r polisi hwn wedi'i adolygu yn unol â Chôd Ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA): Asesu a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018. 

Wedi'i ddiwygio Awst 2021