Rheoliadau Asesu ar gyfer Rhaglenni'r Ysgol Reoli sydd â dau leoliad semester o hyd, 60 credyd yr un
Ysgol Rheolaeth
1. Strwythur y Rhaglen
Mae'r rheoliadau hyn yn ddilys ar gyfer rhaglenni a gyflwynir yn unol â'r patrwm canlynol:
Lefel Astudio | Blwyddyn Astudio | Semester 1 | Semester 2 |
---|---|---|---|
Lefel 4 | Blwyddyn 1 | Modiwlau 60 credyd a addysgir | Modiwlau 60 credyd a addysgir |
Lefel 5 | Blwyddyn 2 | Modiwl lleoliad 60 credyd | Modiwlau 60 credyd a addysgir |
Lefel 5 | Blwyddyn 3 | Modiwlau 60 credyd a addysgir | Modiwl lleoliad 60 credyd |
Lefel 6 | Blwyddyn 4 | Modiwlau 60 credyd a addysgir | Modiwlau 60 credyd a addysgir |
2. Dilyniant o Flwyddyn 1 i Flwyddyn 2
Rheolir dilyniant o Flwyddyn 1 i Flwyddyn 2 gan y Rheolau Dilyniant Cyffredinol ar gyfer Myfyrwyr Israddedig, ac mae'r Rheolau Dilyniant Penodol - ar gyfer myfyrwyr ar Lefelau 4-5 a B/T - yn ddilys hefyd. Gellwch ddod o hyd i'r Rheoliadau yn:
Rheolau UG Asesu Cyffredinol
Rheolau Dilyniant UG Penodol Lefel 4/5
3. Dilyniant o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 3, ac o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 4
Rheolir dilyniant o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 3, ac o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 4, gan y Rheolau Asesu Cyffredinol isod, sydd yn rhoi ystyriaeth i natur unigryw'r rhaglen.
3.1
Y marc Pasio ar gyfer modiwlau fydd 40%. Ni roddir credydau ond i ymgeiswyr sy'n pasio modiwl.
3.2
Er mwyn symud o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 3, ac o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 4, rhaid i ymgeisydd geisio casglu 120 o gredydau trwy gael marc o 40% neu'n uwch ym mhob modiwl. Mae'n bosibl y caniateir i ymgeiswyr symud ymlaen gyda nifer gyfyngedig o fodiwlau wedi'u methu (gweler y tabl o dan Reoliad 4: Rheolau Dilyniant Penodol ar Gyfer Myfyrwyr Israddedig). Cyfeirir at fodiwlau o’r fath fel "methiannau a ddigolledir”. Roddir credydau ar gyfer modiwlau lle ddigolledir methiant.
3.3
Rhaid i ymgeiswyr fodloni’r anghenion ymgysylltu ac asesu ar gyfer pob modiwl. Caiff presenoldeb ymgeiswyr ei fonitro yn unol â'r Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir.
3.4
Gall yr Ysgol nodi modiwlau ‘craidd’, fel y bo'n briodol ar gyfer pob rhaglen, y mae’n rhaid eu pasio cyn y gall ymgeisydd symud o un Lefel i’r llall. Mae'r Ysgol wedi nodi bod y modiwlau lleoliad gwaith yn fodiwlau 'craidd'.
3.5
Fel arfer, mae'n ofynnol i ymgeiswyr amser llawn gwblhau blynyddoedd 2 a 3 (Lefel 5) o fewn dwy sesiwn academaidd. Mae'n bosibl y caniateir i ymgeiswyr nad ydynt wedi casglu digon o gredydau i symud i'r lefel nesaf wneud iawn am fethiannau mewn trydedd sesiwn academaidd.
3.6
Gellid caniatáu hyd at uchafswm o 3 chais ychwanegol i wneud iawn am y methiant er mwyn caniatáu gorffen y lefel astudio. Ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl bod ganddynt hawl i dderbyn cynnig y nifer uchaf o gyfleoedd i roi cynnig ar fodiwl.
3.7
Ni fydd myfyrwyr yn cael gwneud yn iawn am fodiwlau y maent wedi'u methu dros bedwaredd sesiwn ond o dan amgylchiadau eithriadol. Mewn achosion o'r fath, disgwylir i'r Ysgol gyflwyno cais i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol, yn amlinellu'r amgylchiadau i gefnogi'r achos. Fel arfer, ni fydd ceisiadau yn cael eu hystyried oni fydd y myfyriwr o fewn y nifer uchaf o geisiadau a ganiateir (rheol 3.5).
3.8
Ni chaiff ymgeiswyr gyfle i wneud iawn am fethiant mewn lleoliad gwaith neu fodiwl astudio dramor.
3.9
Gwneir penderfyniadau ynghylch dilyniant myfyrwyr ar ddiwedd blwyddyn 2 a blwyddyn 3 yn unol â'r tabl o dan Reoliad 4: Rheolau Dilyniant Penodol ar Gyfer Myfyrwyr Israddedig (gweter isod).
Fel arfer, disgwylir i ymgeiswyr y mynnir iddynt drosglwyddo i'r rhaglen radd tair blynedd golli unrhyw gredydau a enillwyd, ac ailadrodd y lefel astudio yn ystod y sesiwn academaidd nesaf (hynny yw 120 Credyd ar Lefel 5). Ni ellir defnyddio marciau a enillwyd yn y flwyddyn lle y mae'r credydau wedi'u fforffedu i bennu dosbarthiad gradd yr ymgeisydd nac wrth ddyfarnu credydau. Ni chaiff marciau ymgeisydd sy'n ailadrodd blwyddyn eu capio. Fodd bynnag, tybir bod un ymgais ar asesiad wrth ailadrodd lefel astudio yn un o'r cyfleoedd a roddir i wneud yn iawn am fethiant.
3.10
Fodd bynnag, caiff ymgeisydd y mynnir iddo drosglwyddo i raglen radd amgen, gyflwyno cais i gadw credydau a basiwyd gan ailadrodd ond y modiwlau a fethwyd, fel ymgeisydd mewnol, yn ystod y sesiwn academaidd nesaf.
Bydd yn ofynnol i ymgeisydd yn y sefyllfa hon ar ddiwedd blwyddyn 2 astudio'r credydau lefel 5 sy'n weddill yn ogystal â'r modiwlau sy'n cael eu hailadrodd. Caiff marciau ymgeisydd sy'n llwyddo i wneud iawn am fethiant trwy ailadrodd modiwl eu capio ar 40%. Ni chaiff y canlyniadau am y modiwlau lefel 5 sy'n weddill, sydd wedi'u hastudio am y tro cyntaf, eu capio.
Disgwylir i ymgeiswyr sydd yn y sefyllfa hon ar ddiwedd blwyddyn 3 ailadrodd yr holl fodiwlau a fethwyd ar Lefel 5, gan gynnwys unrhyw fethiannau o flwyddyn 2. Caiff marciau ymgeisydd sy'n pasio modiwlau wedi'u hailadrodd eu capio ar 40%.
3.11
Ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl bod ganddynt hawl i ailadrodd modiwlau a fethwyd, ond cânt gyflwyno cais i'r Ysgol Reoli i ailsefyll modiwlau a fethwyd erbyn dyddiad cau a bennir gan y Gwasanaethau Addysg (fel arfer yn ystod wythnos gyntaf y sesiwn academaidd newydd). Rhaid anfon ceisiadau at y Gwasanaethau Addysg am gymeradwyaeth derfynol. Efallai na fydd modd i fyfyrwyr rhyngwladol sydd â gofynion fisa penodol ailadrodd modiwlau a fethwyd yn unig.
Os caniateir i ymgeisydd ailadrodd modiwlau a fethwyd, ni chaniateir iddo ailadrodd unrhyw fodiwl a basiwyd, a bydd yn ofynnol iddo ailadrodd pob modiwl a fethwyd (neu fodiwl amgen gyda'r un nifer o gredydau yn ôl doethineb yr Ysgol).
3.12
Caiff marciau ymgeisydd sy'n llwyddo i wneud iawn am fethiant yn ystod y cyfnod arholi atodol eu capio ar 40%.
Defnyddir y marc wedi'i gapio at ddibenion pennu dosbarth ym mhob modiwl o'r fath, waeth beth fo'r perfformiad gwirioneddol. Bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn cyfeirio at y marc wedi'i gapio wrth benderfynu'r cyfartaledd am lefel astudio.
3.13
Wrth benderfynu ynglŷn â dilyniant myfyrwyr yn dilyn yr arholiadau atodol, bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn cyfeirio at y marc gorau a enillwyd gan y myfyriwr ym mhob modiwl penodol yn ystod y sesiwn. Mae'n dilyn, felly, os enillodd y myfyriwr farc uwch ar yr ymgais gyntaf, bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn defnyddio'r marc hwnnw yn hytrach na’r marc a gafwyd wrth ailsefyll.
Defnyddir yr Egwyddor Marc Gorau o fewn un sesiwn academaidd yn unig ac ym Myrddau Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol Medi yn unig. Mae’n amherthnasol i ‘Fodiwlau Craidd’ gan fod rhaid pasio'r modiwlau hynny.
3.14
Ni chaniateir i ymgeiswyr sydd wedi cymhwyso i symud ymlaen o un lefel neu flwyddyn astudio i'r nesaf ddewis ailadrodd unrhyw fodiwl a basiwyd, nac i wneud iawn am fethiant a ddigolledir, er mwyn gwella ar eu perfformiad.
3.15
Yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, sylweddolir na fydd pob ymgeisydd yn gallu mynychu arholiadau yn ystod y Cyfnod Asesu Canol Sesiwn neu Ddiwedd Sesiwn, e.e. oherwydd salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill.
Yn achos ymgeiswyr na all fynychu arholiad oherwydd amgylchiadau esgusodol, rhaid cyflwyno cais am ohiriad i'r Ysgol naill ai cyn dyddiad yr arholiad neu o fewn pum diwrnod ar ôl yr arholiad. Rhaid i geisiadau am ohirio gael eu hystyried a'u cefnogi gan yr Ysgol berthnasol a'u cyflwyno i'r Gwasanaethau Addysg i'w cymeradwyo. Cynghorir myfyrwyr a staff i ddarllen Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol.
Bydd raid i Ymgeiswyr y caniateir iddynt ohirio sefyll yr arholiadau ar yr adeg nesaf sydd wedi'i hamserlennu ar gyfer y modiwlau dan sylw.
3.16
Ni wneir penderfyniadau dilyniant ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol ond pan wyddys canlyniadau’r portffolio llawn o fodiwlau. Gwneir penderfyniadau i ganiatáu i fyfyrwyr rhan-amser barhau bob blwyddyn, rhan o'r ffordd drwy lefel astudio. Caiff marciau ymgeiswyr rhan-amser eu cadarnhau ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd.
3.17
Fel arfer, bydd y Rheolau Dilyniant Penodol yn adran 4 yn dylanwadu ar y a Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol wrth iddynt benderfynu ar gynnydd myfyrwyr. Fodd bynnag, ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl, drwy hawl, y cânt sefyll arholiadau atodol, neu ailadrodd y lefel astudio. Gall y Bwrdd ystyried amgylchiadau eraill yn gysylltiedig ag achos yr ymgeisydd cyn dod i unrhyw benderfyniad ynghylch dilyniant. Ni fyddai disgwyl i Fwrdd ganiatáu i ymgeisydd fynd ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf oni bai ei fod wedi bodloni'r meini prawf.
3.18
Bydd yr Ysgol yn rhoi gwybod i ymgeiswyr y mae’n rhaid iddynt gyflwyno gwaith cwrs ychwanegol am y gwaith cwrs gofynnol. Ni chynhwysir manylion gwaith cwrs atodol yn y canlyniadau a gyhoeddir gan y Gwasanaethau Addysg ar gofnod unigol y myfyriwr ar y fewnrwyd.
3.19
Cymwysterau Ymadael
Gan ddibynnu ar faint o gredydau a enillwyd gan fyfyrwyr ar y lefelau priodol ar adeg gadael y Brifysgol, mae'n bosibl y bydd myfyrwyr nad ydynt yn gallu parhau i astudio gymhwyso ar gyfer cymhwyster ymadael yn unol â Rheoliad G22 y Rheoliadau Asesu Cyffredinol ar gyfer Myfyrwyr Israddedig.
4. Rheolau Dilyniant Israddedig Penodol ar gyfer Rhaglenni'r Ysgol Reoli sydd â dau leoliad semester o hyd, 60 credyd yr un
Yn seiliedig ar ganlyniadau 120 credyd, modiwl lleoliad 60 credyd a 60 credyd o fodiwlau a addysgir.
Meini Prawf | Penderfyniad Dilyniant |
---|---|
Pasio 60 credyd lleoliad ac ennill 60 credyd a addysgir. | Parhau. |
Methu 60 credyd lleoliad ond ennill 60 credyd a addysgir. | Mynnu Trosglwyddo i'r Rhaglen a Addysgir. (Bydd yn ofynnol i'r myfyriwr drosglwyddo i'r rhaglen tair blynedd ac ailadrodd y lefel astudio. Dim cyfle atodol ar gyfer y lleoliad a fethwyd). |
Pasio'r lleoliad 60 credyd ond ennill llai na 60 credyd a addysgir. | Atodol. |
Methu 60 credyd lleoliad ac ennill llai na 60 credyd a addysgir. | Atodol yn y credydau a addysgir yn unig. Waeth beth fo canlyniad yr arholiad atodol, bydd yn ofynnol i'r myfyriwr drosglwyddo i'r rhaglen arall erbyn cyfarfod mis Medi'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol. |
Methu ennill yr un credyd. | Mynnu Trosglwyddo i'r Rhaglen a Addysgir. (Bydd yn ofynnol i'r myfyriwr drosglwyddo i'r rhaglen tair blynedd ac ailadrodd y lefel astudio). |
Meini Prawf | Penderfyniad Dilyniant |
---|---|
Methu 60 credyd lleoliad (waeth beth fo canlyniad y 60 credyd a addysgir). | Mynnu Trosglwyddo i'r Rhaglen a Addysgir. (Bydd yn ofynnol i'r myfyriwr drosglwyddo i'r rhaglen tair blynedd ac ailadrodd y lefel astudio). |
Pasio 60 credyd lleoliad ac ennill 60 credyd a addysgir. | Parhau. |
Pasio'r 60 credyd lleoliad ac ennill o leiaf 30, ond llai na 60, credyd a addysgir, ac:
1. nid yw'r marc o dan 30% mewn unrhyw fodiwl; a 2. mae'r cyfartaledd cyffredinol yn uwch na 35%. |
Parhau (gyda methiannau a ddigolledir). |
Pasio 60 credyd lleoliad, ac ennill o leiaf 30, ond llai na 60, credyd heb fodloni maen prawf 1 neu 2 uchod. | Mynnu Trosglwyddo i'r Rhaglen a Addysgir. (Bydd yn ofynnol i'r myfyriwr drosglwyddo i'r rhaglen tair blynedd ac ailadrodd y lefel astudio). |
Pasio 60 credyd lleoliad ond ennill llai na 30 credyd. | Mynnu Trosglwyddo i'r Rhaglen a Addysgir. (Bydd yn ofynnol i'r myfyriwr drosglwyddo i'r rhaglen tair blynedd ac ailadrodd y lefel astudio). |
Yn seiliedig ar ganlyniadau 120 credyd, modiwl lleoliad 60 credyd a 60 credyd o fodiwlau a addysgir.
Meini Prawf | Penderfyniad Dilyniant |
---|---|
Pasio 60 credyd lleoliad ac ennill 60 credyd a addysgir. | Cwblhau'r Lefel. |
Methu 60 credyd lleoliad ond ennill 60 credyd a addysgir. | Mynnu Trosglwyddo i'r Rhaglen a Addysgir. (Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr drosglwyddo i'r rhaglen tair blynedd a symud ymlaen i Lefel 6 - Blwyddyn 4. Dim cyfle atodol ar gyfer y lleoliad a fethwyd). |
Pasio'r lleoliad 60 credyd ond ennill llai na 60 credyd a addysgir. | Atodol. |
Methu 60 credyd lleoliad ac ennill llai na 60 credyd a addysgir. | Atodol - modiwlau a addysgir yn unig. Waeth beth fo canlyniad yr arholiad atodol, bydd yn ofynnol i'r myfyriwr drosglwyddo i'r rhaglen arall erbyn cyfarfod Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol mis Medi. |
Meini Prawf | Penderfyniad Dilyniant |
---|---|
Methu 60 credyd lleoliad ond ennill 60 credyd a addysgir. | Mynnu Trosglwyddo Rhaglen. (Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr drosglwyddo i'r rhaglen tair blynedd a symud ymlaen i Lefel 6 - Blwyddyn 4). |
Pasio'r 60 credyd lleoliad ac ennill o leiaf 30, ond llai na 60, credyd a addysgir, ac
|
Mynnu Trosglwyddo Rhaglen. (Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr drosglwyddo i'r rhaglen tair blynedd a symud ymlaen i Lefel 6 - Blwyddyn 4). |
Methu 60 credyd lleoliad, ac ennill o leiaf 30, ond llai na 60, credyd, a heb fodloni maen prawf 1, 2 neu 3 uchod. | Mynnu Trosglwyddo i'r Rhaglen a Addysgir. (Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr drosglwyddo i'r rhaglen tair blynedd ac ailadrodd y lefel astudio/ modiwlau a fethwyd ar Lefel 5). |
Methu 60 credyd lleoliad ac ennill llai na 30 credyd a addysgir. | Mynnu Trosglwyddo i'r Rhaglen a Addysgir. (Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr drosglwyddo i'r rhaglen tair blynedd ac ailadrodd y lefel astudio/ modiwlau a fethwyd ar Lefel 5). |
Pasio 60 credyd lleoliad ac ennill 60 credyd a addysgir. | Cwblhau'r Lefel. |
Pasio'r 60 credyd lleoliad ac ennill o leiaf 30, ond llai na 60, credyd a addysgir, ac:
|
Cwblhau'r Lefel (gyda methiannau a ddigolledir). |
Pasio 60 credyd lleoliad, ac ennill llai na 60 credyd a addysgir, a heb fodloni maen prawf 1, 2 neu 3 uchod. | Ailadrodd y Lefel Astudio/ Modiwlau a Addysgir a Fethwyd yn unig (dim cyfle i ailadrodd y lleoliad). |
Rheolau Cynnydd Penodol i fyfyrwyr sy'n dilyn Lefel 4-5 yn yr Ysgol Reoli
Rheolau i'w defnyddio yn ystod Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu Semester Un
S1
Bydd ymgeiswyr sy’n llwyddo ym mhob modiwl (marc o 40% neu fwy) yn parhau ar y lefel astudio.
Ni roddir caniatâd i ymgeiswyr ddewis ail-wneud modiwl y maent eisoes wedi llwyddo ynddo er mwyn gwella eu perfformiad.
S2
Caniateir i ymgeiswyr sy’n cael marc mewn modiwl sy’n llai na 40% wneud asesiad atodol yn ystod y sesiwn academaidd.Bydd gofyn i fyfyrwyr ail-wneud pob modiwl ‘craidd’ a bydd disgwyl iddynt ail-sefyll pob arholiad arall; fodd bynnag, defnyddir ‘Egwyddor y Marc Gorau’ yng nghyfarfod y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu ar ddiwedd y flwyddyn, yn ogystal â’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu Atodol (gweler G11) ar gyfer myfyrwyr yn y garfan hon. Defnyddir Egwyddor y Marc Gorau mewn un sesiwn academaidd yn unig.Mae’n amherthnasol i ‘Fodiwlau Craidd’ oherwydd bod rhaid pasio'r modiwlau hynny.
S3
Gall ymgeiswyr sydd wedi methu modiwlau yn yr arholiadau yn Semester Un, gyda chymeradwyaeth y Gyfadran/Ysgol, ddilyn modiwlau ychwanegol yn yr ail semester er mwyn gwneud iawn am y methiannau.
S4
Ni fydd marciau a enillir gan ymgeiswyr sy'n llwyddo i wneud iawn am fethiannau yn cael eu capio ar Lefel 4.
S5
Bydd gofyn i ymgeiswyr llawn-amser nad ydynt yn y flwyddyn olaf gwblhau lefel astudio o fewn uchafswm o ddwy sesiwn academaidd. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, caiff ymgeiswyr nad oes ganddynt ddigon o gredyd i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf hawl i hyd at uchafswm o dri ymgais pellach ar ôl y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu ar ddiwedd y flwyddyn, i wneud iawn am fethiannau yn y modiwlau er mwyn gallu cwblhau'r lefel astudio. Rhaid i'r ceisiadau hyn ddigwydd o fewn dwy sesiwn academaidd.
Ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl bod ganddynt hawl i dderbyn cynnig y nifer uchaf o gyfleoedd i wneud iawn am fethiannau.
S6
Bydd y Gyfadran/Ysgol academaidd perthnasol yn rhoi manylion am y gwaith cwrs gofynnol i ymgeiswyr y mae’n rhaid iddynt gyflwyno gwaith cwrs ychwanegol. Ni chynhwysir manylion am waith cwrs atodol yn y canlyniadau a gyhoeddir gan y Gwasanaethau Addysg ar gofnod unigol y myfyriwr ar y fewnrwyd. Rhaid cyflwyno pob aseiniad sy’n gysylltiedig ag arholiadau atodol i’r Gyfadran/Ysgol berthnasol erbyn dechrau’r wythnos arholiadau atodol.
S7
Cymerir penderfyniadau ynghylch dilyniant er mwyn i ymgeiswyr symud ymlaen i’r lefel astudio nesaf gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol dim ond pan fydd canlyniadau portffolio llawn o fodiwlau ar gael.
Rheoliadau Dyfarnu Arbennig ar gyfer y Radd Mynegi BSc Rheolaeth Busnes Cymhwysol (Coleg Cambria)
Lluniwyd y rheoliadau hyn i adlewyrchu gofynion llym y cyflogwr a'r noddwr ac i adlewyrchu amodau Contract y Dysgwr. Caiff dysgwyr ddilyn y flwyddyn fynegi os ydynt wedi cwblhau cymhwyster perthnasol blaenorol llwyddiannus sydd wedi’i gymeradwyo yn unig – bydd Cyfarwyddwr y Rhaglen yn cytuno ar hyn.
S1
Mae'r holl gydrannau asesu mewn modiwlau'n rhai craidd ac felly ni chaiff modiwlau a fethwyd eu ddigolledir. 40% yw’r marc llwyddo ar gyfer pob cydran.
S2
Bydd dysgwyr yn cael un cyfle i wneud yn iawn am fethu (ailsefyll) mewn unrhyw gydran asesu. (Prifysgol Abertawe fydd yn pennu'r amserlen ar gyfer y cyfle ailsefyll ar y cyd â'n partneriaid cydweithredol.) Os bydd y dysgwr yn llwyddo yn y gydran asesu ar yr ail ymgais, 40% fydd uchafswm y marc asesu. Os na fydd y dysgwr yn llwyddo yn y gydran asesu, bydd yn ofynnol iddo dynnu'n ôl, a bydd marc cyffredinol y modiwl yn cael ei gyfrifo at ddibenion sefydliadol yn unig.
S3
Caiff canlyniadau'r holl gydrannau a aseswyd mewn modiwlau eu hystyried a'u cadarnhau yn y Bwrdd Arholi Interim.
S4
Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol fydd yn penderfynu ar ddyfarnu'r dysgwyr ar ddiwedd y flwyddyn academaidd lawn ym mis Medi, pan fydd y set lawn o ganlyniadau modiwl, gan gynnwys canlyniadau'r cydrannau asesu a ailgyflwynwyd, ar gael.
Rheolau i'w defnyddio yn y Bwrdd Dyfarnu diwedd blwyddyn:
S5
Bydd dysgwyr sy'n llwyddo ym mhob cydran asesu ym mhob modiwl (sy'n dod i gyfanswm o 120 o gredydau) gyda marc o 40% o leiaf yn cymhwyso'n awtomatig am ddyfarniad Gradd BSc.
S6
Bydd dysgwyr yn derbyn Gradd BSc yn unol â Rheoliadau'r Brifysgol ar gyfer Graddau Baglor.
S7
Ni fydd dysgwyr sy'n methu cydran a asesir mewn modiwl ar yr ail ymgais, yn gymwys i gael eu hystyried am ddyfarniad Gradd BSc. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr o'r fath yn cael cynnig cyfle arall i wneud yn iawn am fethu, a bydd yn ofynnol iddynt dynnu'n ôl o'r rhaglen a'r Brifysgol. Efallai bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried am gymhwyster ymadael.
S8
At ddibenion dosbarthiad y wobr, defnyddir cyfartaledd gyda phwysiad credyd Lefel 6 yn unig. Pennir dosbarthiadau graddau anrhydedd fel a ganlyn:
70% ac yn uwch Dosbarth Cyntaf
60% i 69.99% Ail Ddosbarth Rhan Un
50% i 59.99% Ail Ddosbarth Rhan Dau
40% i 49.99% Trydydd Dosbarth