Rheoliadau Penodol Osteopatheg
1. Cyflwyniad
1.1
Dyfernir cymwysterau i fyfyrwyr sy’n bodloni'r gofynion a nodir yn y rheoliadau asesu, yn enwedig y gofynion o ran credyd a’r datganiadau meincnod, ac sydd wedi cyrraedd y lefel briodol fel y'i hamlinellir yn y Rheoliadau Penodol ar gyfer Graddau Baglor Israddedig, Rheoliad 1.1.
2. Amodau Derbyn
2.1
Yn ogystal â'r amodau derbyn a amlinellir yn Rheoliad Cyffredinol 3 (gan nodi nad yw Rheoliad Cyffredinol pwyntiau 4.3, 4.4, 4.5 a 4.7 yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n astudio'r r BSc (Anrhydedd) mewn Osteopatheg), mae'n ofynnol i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf derbyn penodol a bydd rhaid iddynt ddod i gyfweliad hefyd i asesu eu haddasrwydd i gyflawni nodau'r rhaglen. Caiff y rhaglen ei haddysgu a'i hasesu yn Saesneg yn rhannol, felly mae'n rhaid i ymgeiswyr allu dangos hyfedredd mewn 'defnyddio Saesneg', llafar ac ysgrifenedig, i lefel 6 IELTS neu gymhwyster cyfwerth. Bydd myfyrwyr fel arfer yn gweithio fel osteopathiaid.
3. Calendr Academaidd
3.1
Cyhoeddir calendr academaidd y rhaglen bob blwyddyn gan y Brifysgol neu ar ei rhan.
4. Strwythur y Rhaglen
4.1
I fod yn gymwys i ennill BSc (Anrhydedd) mewn Osteopatheg, rhaid i fyfyrwyr astudio 120 o gredydau ar Lefel 6. Mae'n rhaid i fyfyrwyr fodloni gofynion ymgysylltu ac asesu pob modiwl Lefel 6 gan ennill cyfanswm o 120 o bwyntiau credyd.
5. Lleoliadau Gwaith
5.1
Nid yw lleoliadau gwaith yn rhan o'r rhaglen.
6. Trosglwyddo Credydau
6.1
Bydd myfyrwyr sy'n astudio am BSc (Anrhydedd) mewn Osteopatheg yn elwa o eithriad rhag 240 o gredydau ar Lefelau 4 a 5. Lle derbyniwyd 240 o gredydau trosglwyddadwy, rhaid i weddill y 120 o gredydau fod ar Lefel 6.
Rhaid i ymgeiswyr sy'n gofyn am gael eu heithrio o lefelau 4 a 5 fodloni'r holl feini prawf derbyn (a nodir ar dudalen we'r rhaglen) a dangos eu bod wedi ennill cymwysterau priodol a bod ganddynt brofiad priodol o ymarfer clinigol, fel y'i nodir yn y meini prawf derbyn penodol ar gyfer y rhaglen.
6.2
Tynnir sylw myfyrwyr at y Rheoliadau Cyffredinol ar gyfer Israddedigion - Trosglwyddo Credydau (Rheoliad 29). Caiff ceisiadau gan fyfyrwyr i gael eu heithrio rhag credydau eu hystyried yn unol â pholisi a gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar gyfer cydnabod dysgu blaenorol.
7. Rheoliadau Asesu
7.1
Caiff myfyrwyr eu hasesu'n barhaus, gan ddefnyddio cyfuniad o asesiadau a allai gynnwys, ymysg dulliau eraill, asesiadau ysgrifenedig, adroddiadau myfyriol a chyflwyniadau. Caiff cynnydd ymgeisydd ei asesu fel arfer yn y cyfnod yn union ar ôl cwblhau addysgu’r uned astudio/modiwl.
7.2
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau’r rhaglen astudio israddedig yn unol â’r rheoliadau ar gyfer dyfarnu credyd fel y’i nodir yn y Rheoliadau Asesu Israddedigion.
7.3
Y marc llwyddo ar gyfer pob modiwl fydd 40%.
7.4
Rhaid bod myfyrwyr wedi astudio'n llwyddiannus am 120 o gredydau ar Lefel 6 i gael eu hystyried am ddyfarniad Gradd Anrhydedd. Cyfrifir canlyniad y radd ar sail canlyniadau'r 120 o gredydau ar Lefel 6.
7.5
Gall myfyrwyr sy'n cronni 80 o gredydau neu fwy, ond llai na 120 o gredydau, ac sy'n ennill marc cyfartalog o 35%, gael eu hystyried am ddyfarniad gradd Anrhydedd ar yr amod nad yw'r modiwlau wedi'u nodi fel rhai craidd.
7.6
Bydd ymgeiswyr sy'n cronni 60 o gredydau neu fwy, ond llai na 120 o gredydau, yn methu cwblhau'r lefel astudio. Yn ôl doethineb Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, caniateir un cyfle fel arfer i fyfyrwyr o'r fath wneud yn iawn am fethiant/fethiannau yn ystod cyfnod yr arholiadau atodol ym mis Awst.
7.7
Bydd myfyrwyr sy'n cronni llai na 60 o gredydau'n methu cwblhau'r lefel astudio olaf. Bydd myfyrwyr o'r fath yn derbyn penderfyniad: Tynnu'n ôl o'r Brifysgol.
7.8
Bydd myfyrwyr sy'n methu cymhwyso am ddyfarniad yn dilyn y cyfle atodol, ar ôl methu ennill 120 o gredydau, yn derbyn penderfyniad Methu.
7.9
Ni fydd myfyrwyr sy'n derbyn penderfyniad academaidd o 'Tynnu'n ôl o'r Brifysgol' yn cael unrhyw gyfle arall i wneud yn iawn am fethiannau. Ni fydd myfyrwyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau'n cael eu terfynu. Fel arfer, os yw ymgeisydd yn derbyn penderfyniad "Tynnu'n ôl o'r Brifysgol" ni chaiff ei aildderbyn i'r un rhaglen astudio, nac i raglen berthynol, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
7.10
Dylai'r marciau a ddyfernir i fyfyrwyr adlewyrchu dosbarthiad arfaethedig y radd.
7.11
Ni chaniateir i fyfyrwyr ddewis ail-wneud unrhyw fodiwl sydd eisoes wedi’i basio er mwyn gwella eu perfformiad.
7.12
Yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, cydnabyddir na fydd pob ymgeisydd yn gallu sefyll arholiadau yn ystod y Cyfnod Asesu Canol Sesiwn neu Ddiwedd Sesiwn, e.e. oherwydd salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill. Yn achos yr ymgeiswyr hynny na allant sefyll arholiad oherwydd amgylchiadau esgusodol, rhaid cyflwyno cais am ohiriad i'r Gyfadran/Ysgol Cartref naill ai cyn dyddiad yr arholiad neu o fewn pum niwrnod ar ôl yr arholiad. Rhaid i geisiadau am ohiriad gael eu hystyried a'u cefnogi gan y Gyfadran/Ysgol perthnasol a'u cyflwyno i Wasanaethau Addysg i'w cymeradwyo. Cynghorir myfyrwyr a staff i ddarllen Polisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol.
Bydd y Gyfadran/Ysgol sy'n gyfrifol am ddarparu'r modiwl y mae'r gwaith cwrs dan sylw'n cyfrannu ato'n ystyried amgylchiadau esgusodol sy'n effeithio ar waith cwrs neu asesiadau yn ystod y flwyddyn. Caiff gweithdrefnau'r Gyfadran/Ysgol ar gyfer ystyried amgylchiadau esgusodol sy'n effeithio ar waith cwrs neu asesiadau yn ystod y flwyddyn eu cyhoeddi gan y Gyfadran/Ysgol. Bydd y gweithdrefnau'n cynnwys dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno amgylchiadau esgusodol, y gweithdrefnau a'r amserlen i'r Gyfadran/Ysgol ystyried unrhyw gyflwyniadau a hysbysu'r myfyriwr am y canlyniad.
Os caiff ymgeiswyr ganiatâd i ohirio ac yn methu cwblhau'r lefel astudio yn dilyn yr ymgais a ohiriwyd, ni chânt gyfle arall i wneud yn iawn am y methiant tan y sesiwn nesaf.
7.13
Os nad yw ymgeiswyr yn eu blwyddyn olaf yn gallu sefyll arholiad ym mis Ionawr, ac mae'r Brifysgol yn caniatáu iddynt ohirio, dylent sefyll yr arholiad yng nghyfnod arholiadau mis Mai/Mehefin yn hytrach na chyfnod arholiadau mis Awst.
8. Terfynau Amser
8.1
Mae'r cyfnodau cofrestru byrraf a hwyaf ar gyfer myfyrwyr sy'n cael eu derbyn i raglenni BSc (Anrhydedd) mewn Osteopatheg yn y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd wedi'u nodi isod: Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau lefel astudio o fewn dwy sesiwn academaidd ar y mwyaf. Os nad yw myfyrwyr yn gallu cwblhau lefel astudio o fewn y cyfnod hwyaf o ddwy flynedd, byddant yn derbyn penderfyniad o 'Tynnu'n ôl o'r Brifysgol'.
|
Amser llawn
|
Byrraf
|
1 flwyddyn
|
Hwyaf
|
2 flynedd
|
9. Estyn Terfynau Amser
9.1
Gellir estyn terfynau amser y rhaglen, fel y'u nodir yn y rheoliadau penodol, mewn achosion eithriadol yn unig ac yn unol â Rheoliad Cyffredinol 27.
9.2
Mewn amgylchiadau eithriadol yn unig y caniateir i fyfyriwr wneud yn iawn am fodiwlau a fethwyd dros drydedd sesiwn. Mewn achosion o'r fath, disgwylir i'r Gyfadran/Ysgol gyflwyno cais i Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol, yn amlinellu'r amgylchiadau i gefnogi'r achos. Fel arfer, ni fydd ceisiadau yn cael eu hystyried oni fydd y myfyriwr o fewn y nifer uchaf o geisiadau a ganiateir.
10. Cymwysterau Ymadael
10.1
Os yw ymgeisydd sy’n cael ei dderbyn i'r rhaglen yn methu ei chwblhau, neu os na chaniateir iddo gwblhau'r rhaglen, ni fydd yn gymwys am gymhwyster ymadael.
11. Derbyn i Raddau
11.1
I fod yn gymwys i’w ystyried am ddyfarniad o dan y Rheoliadau hyn, bydd ymgeisydd:
- Wedi dilyn rhaglen astudio fodiwlaidd gymeradwy am y cyfnod a bennir gan y Brifysgol, ac eithrio fel y'i nodir yn rheoliad 6;
- Wedi ennill yr isafswm o gredydau a bennir gan y Brifysgol mewn rhaglen a gymeradwywyd gan y Brifysgol.
11.2
Caiff enwau’r ymgeiswyr am radd Anrhydedd sydd wedi bodloni gofynion asesu’r rhaglen a’r Brifysgol eu cyhoeddi yn y dosbarthiadau Anrhydedd canlynol:
- Cyntaf;
- Ail Ddosbarth Rhan Un;
- Ail Ddosbarth Rhan Dau;
- Trydydd Dosbarth;
- Gradd Basio.
12. Graddau Aegrotat ac Wedi Marwolaeth
12.1
Ni fydd ymgeiswyr sy’n dilyn rhaglenni proffesiynol yn ôl y rheoliadau hyn yn gymwys i dderbyn dyfarniadau aegrotat neu wedi marwolaeth.