Rhaglenni Datblygu Proffesiynol Ôl-Gofrestru
1. Cyflwyniad
1.1
Dyfernir cymwysterau i ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion a nodir yn y rheoliadau asesu, yn arbennig y gofynion credyd a'r datganiadau meincnodi, ac sydd wedi cyrraedd y lefel briodol fel yr amlinellir yn y Rheolau Penodol ar gyfer Graddau Baglor Israddedig, Rheoliad 1.1 neu'r Rheoliadau Penodol ar gyfer Diplomâu Israddedig Addysg Uwch, Rheoliad 1.1.
2. Amodau Derbyn
2.1
Yn ogystal â’r amodau mynediad a nodir yn Rheoliad Cyffredinol 3, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gofrestru ar y rhan briodol o’r Gofrestr Broffesiynol a gedwir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
3. Calendr Academaidd
3.1
Cyhoeddir y calendr academaidd ar gyfer rhaglenni datblygu proffesiynol ôl-gofrestru yn flynyddol gan y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd.
4. Strwythur y Rhaglen
4.1
Yn dibynnu ar gymwysterau blaenorol a phrofiad ymarfer, gellir eithrio ymgeiswyr o ran o'r astudio yn unol â Rheoliad 6.
4.2
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cymhwyster Diploma mewn Ymarfer Gofal Iechyd, bydd ymgeiswyr a gaiff eu heithrio o astudio yn dilyn isafswm o 120 credyd ar Lefel 5.
4.3
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cymhwyster gradd anrhydedd a enwir, bydd ymgeiswyr a gaiff eu heithrio o astudio yn dilyn isafswm o 120 credyd ar Lefel 6.
4.4
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr a gaiff eu heithrio o astudio ar sail gradd anrhydedd a ddyfarnwyd eisoes i ddilyn isafswm o 120 credyd ar Lefel 6 a byddant yn gymwys i dderbyn cymhwyster Diploma Graddedig.
4.5
Cyhoeddir manylion llawn yn flynyddol gan y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd.
5. Lleoliadau
5.1
Pan fo hynny’n briodol, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr fynd ar lleoliadau clinigol yn unol â gofynion Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd.
5.2
Bydd yn ofynnol i’r cyfryw ymgeiswyr ymgymryd â phob asesiad sy’n gysylltiedig â’u lleoliadau clinigol ac ennill y cymwyseddau gofynnol a bennir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
6. Trosglwyddo Credyd
6.1
Tynnir sylw myfyrwyr at y Rheoliadau Cyffredinol ar gyfer Israddedigion - Trosglwyddo Credydau (Rheoliad 29).
6.2
Caiff ymgeiswyr sy’n dilyn rhaglenni datblygu proffesiynol ôl-gofrestru sy’n arwain at gymhwyster Diploma mewn Ymarfer Gofal Iechyd graddedig eu heithrio o 120 credyd ar Lefel 4 yn unol â gofynion y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer cofrestru.
6.3
Caiff ymgeiswyr sy’n dilyn rhaglenni datblygu proffesiynol ôl-gofrestru sy’n arwain at gymhwyster gradd neu ddiploma graddedig eu heithrio o 240 credyd o Lefelau 4 a 5 yn unol gofynion y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer cofrestru. Lle derbyniwyd 240 credyd trosglwyddadwy, rhaid i weddill y credydau a ddilynir fod ar Lefel 6 neu yn uwch.
6.4
Ar ben hynny, caiff ymgeiswyr sy'n astudio rhaglenni datblygu proffesiynol ôl-gymhwyso ym meysydd Nyrsio, Ymarfer Gofal Iechyd, ac Ymarfer Proffesiynol Uwch ofyn am drosglwyddo hyd at 40 credyd ar Lefel 6. Ni fydd y Brifysgol ond yn ystyried credydau a enillwyd yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, ac a enillwyd mewn modiwlau perthnasol mewn sefydliad a gydnabyddir yn y Deyrnas Unedig. Ni ellir derbyn credydau er mwyn cyflawni modiwl yn rhannol; rhaid i’r credydau a dderbynnir fod yn ddigonol ac ar lefel sy’n caniatáu i’r myfyriwr gael ei eithrio o un neu fwy o fodiwlau cyfan sy’n rhan o’r rhaglen arfaethedig.
6.5
Rhaid pennu marc ar gyfer pob modiwl a eithriwyd o dan 6.4 uchod er mwyn cyfrifo marc cyffredinol at ddibenion dilyniant a chwblhau'r elfen a addysgir. Bydd y marc a gafwyd ar gyfer gwaith a wnaed rhywle arall a gynigir yn ystod proses trosglwyddo credydau yn cyfateb i o leiaf 40%.
6.6
Caiff ceisiadau gan fyfyrwyr i gael eu heithrio rhag credydau eu hystyried yn anol â pholisi a gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar gyfer cydnabod dysgu blaenorol.
7. Rheoliadau Asesu
7.1
Asesir myfyrwyr yn rheolaidd, trwy ddefnyddio cyfuniad o aseiniadau ysgrifenedig a rhai wedi’u seilio ar ymarfer. Caiff datblygiad ymgeisydd ei asesu fel arfer yn y cyfnod yn union wedi cwblhau dysgu’r uned astudio/modiwl.
7.2
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau’r rhaglen astudio israddedig yn unol â’r rheoliadau ar gyfer dyfarnu credyd fel y’u hamlinellir yn Rheoliadau Asesu Israddedigion.
7.3
Y marc llwyddo ar gyfer pob modiwl fydd 40%.
8. Terfynau Amser
8.1
Nodir isod y cyfnodau cofrestru byrraf a hwyaf ar gyfer ymgeiswyr a dderbynnir i’r rhaglenni Ôl-gofrestru yn y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd:
|
Amser Llawn
|
Rhan-amser
|
---|---|---|
Byrraf
|
1 flwyddyn
|
2 flynedd
|
Hwyaf
|
2 flynedd
|
4 blynedd
|
9. Estyn Terfynau Amser
9.1
Gellir estyn terfynau amser y rhaglen, fel y nodir yn y rheoliadau penodol, mewn achosion eithriadol yn unig ac yn unol â Rheoliad Cyffredinol 27.
9.2
Er mwyn sicrhau cofrestru â’r corff proffesiynol, mae’n rhaid i’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth gymeradwyo estyniadau i’r terfynau amser hefyd.
10. Cymwysterau Ymadael
10.1
Os derbynnir ymgeisydd i raglen gradd baglor fodiwlaidd neu raglen diploma ond ni all, neu ni chaniateir iddo, wedi hynny fwrw ymlaen i gwblhau, ni all dderbyn cymhwyster ymadael.
11. Derbyn i Raddau
11.1
I fod yn gymwys i’w ystyried am gymhwyster o dan y Rheoliadau hyn, bydd ymgeisydd:
- Wedi dilyn rhaglen astudio fodiwlaidd am y cyfnod a fynnir gan y Brifysgol, ac eithrio fel y darperir yn Rheoliad 6;
- Wedi ennill isafswm y credydau a bennir gan y Brifysgol mewn rhaglen a gymeradwyir gan y Brifysgol;
- Wedi bodloni unrhyw amod(au) pellach sy’n ofynnol gan y Brifysgol a’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
11.2
Caiff enwau’r ymgeiswyr gradd Anrhydedd sydd wedi cyflawni gofynion asesu’r rhaglen a’r Brifysgol eu cyhoeddi yn y dosbarthiadau Anrhydedd canlynol:
- Cyntaf;
- Ail Ddosbarth Rhan Un;
- Ail Ddosbarth Rhan Dau;
- Trydydd Dosbarth;
- Gradd Basio.
12. Graddau Aegrotat ac Wedi Marwolaeth
12.1
Ni fydd ymgeiswyr sy’n dilyn rhaglenni proffesiynol yn ôl y rheoliadau hyn yn gymwys i dderbyn dyfarniad aegrotat na dyfarniad wedi marwolaeth.