Rheoliadau Asesu Penodol ar Gyfer y Modiwl Presgripsiynu Anfeddygol (Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol) – SHGM22
Mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y modiwl unigol, a myfyrwyr sy’n astudio rhaglen lle mae'r modiwl yn bodoli fel rhan o ddyfarniad.
S1
Y marc llwyddo ar gyfer holl rannau’r asesiad fydd 50%, ac eithrio’r arholiad rhifedd y mae angen cael marciau llawn er mwyn llwyddo.
S2
Bydd methu sefyll arholiad/gwneud yn iawn am asesiad a fethwyd neu gyflwyno gwaith erbyn y dyddiad a nodir gan y Brifysgol neu ar ei rhan yn arwain at ddyfarnu 0% ar gyfer y modiwl.
S3
Bydd yn ofynnol i ymgeisydd sy’n absennol o’r modiwl ail-wneud y modiwl ar y cyfle cyntaf posibl, o fewn cyfnod hwyaf posibl ei ymgeisiaeth.
S4
Mewn amgylchiadau eithriadol ac yn unol â Pholisi ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu'r Brifysgol, gall ymgeiswyr sy'n methu gwneud yn iawn am ei fodiwl yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol neu sy'n methu'r modiwl ar y cynnig cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. gohiriad) gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o'r fath i'r Coleg i'w hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol, gellir caniatáu ymgeiswyr o'r fath un cyfle arall i ailsefyll. Fel arfer cynhelir yr ailasesiad(au) yn ystod y cyfle asesu nesaf ar gyfer y modiwl ar y cyfle cyntaf posibl, ond o fewn cyfnod hwyaf posibl ei ymgeisiaeth.
S5
Bydd ymgeiswyr sy’n methu cyflawni’r marc llwyddo mewn unrhyw ran o asesiad yn cael un cyfle i wneud yn iawn am y methiant, ac mae’n rhaid iddynt ailsefyll pob rhan o asesiad fel y nodir gan y Coleg oni bai fod ymarfer peryglus (gweler diffiniad isod) wedi’i nodi.
S6
Dylid capio marciau pob asesiad sydd wedi’i ailsefyll ar 50% neu’r marc llwyddo os yw’n uwch, ni waeth y marc go iawn, ac eithrio’r arholiad rhifedd y mae angen cael marciau llawn er mwyn llwyddo ynddo – felly bydd y marc go iawn yn gymwys.
S7
Bydd ymgeisydd yn cael ei dynnu’n ôl o’r Brifysgol os yw’n methu rhan o asesiad ar yr ail ymgais.
S8
Ni chaiff ymgeiswyr ailsefyll unrhyw ran o asesiad y mae marc llwyddo eisoes wedi’i ennill ar ei gyfer.
S9
Bydd ymgeiswyr y mynnir eu bod yn tynnu’n ôl o’r Brifysgol yn cael cyfle i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn trwy weithdrefnau ar Gywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd neu'r gweithdrefnau ar gyfer Apeliadau Academaidd. Ni fydd hawl apelio gan fyfyriwr sydd wedi’i dynnu’n ôl oherwydd ymarfer peryglus.