Cyn-Cofrestru Baglor Nyrsio a Bydwreigiaeth
1. Cyflwyniad
1.1
Caiff cymwysterau eu dyfarnu i fyfyrwyr sy'n bodloni'r gofynion a nodir yn y rheoliadau asesu, yn benodol y gofynion credyd a datganiadau meini prawf pynciau'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA), ac sydd wedi cyrraedd y lefel briodol fel yr amlinellir yn y Rheoliadau Penodol ar gyfer Graddau Baglor Israddedig, Rheoliad 1.1
1.2
Bydd cwblhau'r radd BSc (Anrh.) Nyrsio yn gwneud myfyrwyr yn gymwys i wneud cais i'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) ar gyfer rhan gyntaf rhan nyrsys y gofrestr.
1.3
Cydnabyddir y radd Baglor Bydwreigiaeth (BMid) gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth at ddibenion cofrestru ar gyfer rhan bydwragedd y gofrestr ac at ddibenion derbyn cyfrifoldebau ac atebolrwydd ymarfer yn fydwraig.
Bydd cwblhau'r radd BMid (Anrh.) Bydwreigiaeth yn gwneud myfyrwyr yn gymwys i wneud cais i'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) ar gyfer rhan bydwragedd y gofrestr.
2. Amodau Derbyn
2.1
Yn ogystal â'r amodau derbyn a amlinellir yn Rheoliad Cyffredinol 3, rhaid i fyfyrwyr fodloni'r amodau lleiaf a bennwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
2.2
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau gwiriad boddhaol uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (ymchwiliad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) a gwiriad iechyd boddhaol.
3. Calendr Academaidd
3.1
Bydd y flwyddyn academaidd ar gyfer y rhaglen BSc mewn Nyrsio yn para oddeutu 42 wythnos (amser llawn) a 45 wythnos (rhan-amser) yn unol â gofynion y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
3.2
Bydd y flwyddyn academaidd ar gyfer y rhaglenni Baglor Bydwreigiaeth yn para oddeutu 45 wythnos.
4. Strwythur y Rhaglen
4.1
Bydd gofyn fel rheol i fyfyrwyr amser llawn ddilyn 120 credyd neu'r hyn y derbynnir ei fod yn gyfatebol mewn blwyddyn.
Bydd gofyn fel rheol i fyfyrwyr rhan-amser ddilyn 90 credyd neu’r hyn y derbynnir ei fod yn gyfatebol mewn blwyddyn.
4.2
Ac eithrio myfyrwyr a dderbynnir o dan Reoliad 7, rhaid bod myfyrwyr wedi dilyn cyrsiau cyfwerth â 360 credyd, 120 ohonynt ar Lefel 6 neu'n uwch, i gael eu hystyried ar gyfer gradd anrhydedd.
4.3
Bydd y rhaglen BSc (Anrh.) Nyrsio yn cynnwys un o'r meysydd nyrsio canlynol:
- Nyrsio Oedolion;
- Nyrsio Iechyd Meddwl;
- Nyrsio Plant;
- Nyrsio Anableddau Dysgu.
5. Cynnwys y Rhaglen
5.1
Bydd cynnwys y rhaglen yn dilyn safonau diweddaraf y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer rhaglenni nyrsio cyn-cofrestru a rhaglenni addysg bydwreigiaeth cyn-cofrestru a chanllawiau eraill a gyhoeddir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a'r Brifysgol, yn unol â'r hyn a gymeradwywyd gan y Brifysgol.
5.2
Bydd y rhaglenni'n cynnwys 50% theori a 50% ymarfer.
6. Lleoliadau Gwaith
6.1
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr fynd ar leoliadau clinigol yn unol â gofynion y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd.
6.2
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ymgymryd â phob asesiad sy’n gysylltiedig â’u lleoliadau clinigol a chyflawni'r hyfedredd a'r sgiliau gofynnol a bennir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
7. Trosglwyddo Credydau
7.1
Ni ddylai uchafswm nifer y credydau a dderbynnir i gyfrif tuag at radd gychwynnol Nyrsio neu Fydwreigiaeth fod yn fwy na 180 (h.y. rhaid i fyfyrwyr fel rheol ddilyn o leiaf 180 credyd yn Abertawe am radd).
7.2
Lle derbyniwyd uchafswm y credydau trosglwyddadwy, rhaid i weddill y credydau a ddilynir fod ar Lefel 5 a 6 neu yn uwch yn achos myfyrwyr sy'n astudio ar gyfer gradd anrhydedd.
7.3
Caiff ceisiadau i drosglwyddo credydau eu hystyried yn unol â pholisi a gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar gyfer cydnabod dysgu blaenorol.
8. Rheoliadau Asesu
8.1
Caiff myfyrwyr eu hasesu'n barhaus, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu e.e. aseiniadau ysgrifenedig, arholiadau ac asesiadau ymarfer clinigol. Caiff datblygiad myfyriwr ei asesu fel arfer yn ystod a/neu yn y cyfnod yn union ar ôl cwblhau dysgu’r uned astudio/modiwl.
8.2
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau’r rhaglen astudio israddedig yn unol â’r rheoliadau ar gyfer dyfarnu credyd fel y’u hamlinellir yn Rheoliadau Asesu Israddedigion. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau'r holl gydrannau damcaniaethol ac asesu clinigol yn llwyddiannus. Ni ddigolledir modiwlau a fethir.
8.3
40% fydd y marc llwyddo ar gyfer pob modiwl oni bennir fel arall.
9. Terfynau Amser
9.1
Bydd cyfnod hwyaf posibl ymgeisyddiaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer gradd anrhydedd fel a ganlyn:
Amser llawn: dim llai na thair blynedd a dim mwy na phum mlynedd o gychwyn y rhaglen;
Rhan-amser: dim llai na phedair blynedd a dim mwy na chwe blynedd o gychwyn y rhaglen.
10. Estyn Terfynau Amser
10.1
Gellir estyn terfynau amser y rhaglen, fel y nodir yn y rheoliadau penodol, mewn achosion eithriadol yn unig ac yn unol â Rheoliad Cyffredinol 27.
11. Cymwysterau Ymadael
11.1
Gallai myfyriwr a dderbynnir ar raglen gradd baglor fodiwlaidd ond na all, neu ni chaniateir iddo, fwrw ymlaen i'w chwblhau, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gafwyd ar y lefelau priodol adeg gadael, fod yn gymwys i dderbyn un o'r cymwysterau canlynol:
Cymhwyster Ymadael | Lleiafswm y credydau a astudiwyd | Lleiafswm y credydau a enillwyd |
---|---|---|
Tystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Gofal | 120 ar Lefel 4 | 120 ar Lefel 4. Fel arfer, rhaid bod isafswm o 60 credyd wedi'u dilyn yn Abertawe. |
Diploma Addysg Uwch mewn Astudiaethau Gofal | 120 ar Lefel 4 a 120 ar Lefel 5 | 120 ar Lefel 4 a 120 ar Lefel 5. Fel arfer, rhaid bod isafswm o 120 credyd wedi'u dilyn yn Abertawe. |
11.2
Dylai Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol gymeradwyo'r fath gymwysterau ymadael.
11.3
Bydd myfyriwr sy'n gadael rhaglen gradd gyda thystysgrif israddedig neu o dan yr amgylchiadau a nodir yn y paragraff blaenorol yn gymwys i dderbyn Rhagoriaeth os bydd wedi cael marc o 70% neu'n uwch yn gyffredinol am y cymhwyster hwnnw.
11.4
Ni fydd myfyriwr sy'n gadael â Thystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Gofal neu Ddiploma Addysg Uwch mewn Astudiaethau Gofal yn gymwys i gofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
12. Cymhwysedd am Ddyfarniad
12.1
Er mwyn bod yn gymwys i’w hystyried am gymhwyster israddedig Prifysgol Abertawe, dylai myfyrwyr fynychu a chwblhau modiwlau o fewn y cyfnod cofrestru hwyaf, a bydd y pwysiad credyd fel a ganlyn:
Rhaglen Gradd Anrhydedd | Credydau i'w dilyn |
---|---|
Graddau Anrhydedd 3-blynedd (amser-llawn) | 360 o gredydau, gydag isafswm o 120 credyd ar Lefel 4, isafswm o 120 credyd ar Lefel 5, ac isafswm o 120 credyd ar Lefel 6. |
Graddau Anrhydedd Pedair Blynedd (rhan-amser) | 360 o gredydau, gydag isafswm o 120 credyd ar Lefel 4, isafswm o 120 credyd ar Lefel 5, ac isafswm o 120 credyd ar Lefel 6. |
13. Derbyn i’r Cymhwyster
13.1
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer dyfarniad o dan y Rheoliadau hyn, mae’n rhaid bod myfyriwr:
- Wedi dilyn rhaglen astudio fodiwlaidd am y cyfnod a fynnir gan y Brifysgol, ac eithrio fel y darperir yn Rheoliad 7;
- Wedi ennill isafswm y credydau a bennir gan y Brifysgol mewn rhaglen a gymeradwyir gan y Brifysgol;
- Wedi bodloni unrhyw amod(au) pellach sy’n ofynnol gan y Brifysgol a’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
13.2
Cyhoeddir enwau’r myfyrwyr am radd Anrhydedd a gyflawnodd ofynion asesu’r rhaglen a’r Brifysgol yn y dosbarthau Anrhydedd canlynol:
- Cyntaf;
- Ail Ddosbarth Rhan Un;
- Ail Ddosbarth Rhan Dau;
- Trydydd Dosbarth;
- Gradd Basio.
14. Graddau Aegrotat ac Wedi Marwolaeth
14.1
Ni fydd myfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni proffesiynol yn ôl y rheoliadau hyn yn gymwys i dderbyn dyfarniadau aegrotat neu wedi marwolaeth.