Tystysgrifau Addysg Uwch
RHEOLIADAU PENODOL: TYSTYSGRIFAU ADDYSG UWCH
1. Cyflwyniad
1.1
Caiff Tystysgrif Addysg Uwch ei dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi dangos:
- Gwybodaeth o'r cysyniadau sylfaenol a'r egwyddorion sy'n gysylltiedig â'u maes neu feysydd astudio, a'r gallu i werthuso a dehongli'r rhain yng nghyd-destun y maes astudio hwnnw;
- Y gallu i gyflwyno, gwerthuso a dehongli data ansoddol a meintiol er mwyn datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau cadarn yn unol â damcaniaethau a chysyniadau sylfaenol eu pwnc neu bynciau astudio.
Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y canlynol:
• Gwerthuso addasrwydd dulliau gwahanol o ddatrys problemau sy'n ymwneud â'u maes neu feysydd astudio a/neu waith;
• Cyfleu canlyniadau eu hastudio neu eu gwaith mewn modd cywir a dibynadwy, a thrwy ddadleuon strwythuredig a rhesymegol;
• Ymgymryd â hyfforddiant pellach a datblygu sgiliau newydd o fewn amgylchedd sydd wedi'i strwythuro a'i reoli.
A bydd gan y deiliaid:
• Y nodweddion a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy'n gofyn am ymarfer rhywfaint o gyfrifoldeb personol.
2. Strwythur y Rhaglen
2.1
Cynigir rhaglenni Tystysgrif Addysg Uwch ar sail blwyddyn o astudio amser llawn (neu’r hyn sy’n cyfateb yn rhan-amser).
2.2
Bydd gofyn i ymgeiswyr amser llawn fel rheol ddilyn yr hyn sy’n cyfateb i 120 credyd ar Lefel 4 mewn un flwyddyn academaidd.
2.3
Bydd gofyn i ymgeiswyr rhan-amser fel rheol ddilyn yr hyn sy’n cyfateb i 60 credyd ar Lefel 4 mewn un flwyddyn academaidd. Ni chaniateir i ymgeiswyr rhan-amser fel rheol ddilyn mwy na 90 credyd na llai na 30 credyd mewn un flwyddyn academaidd.
2.4
Bydd gofyn i ymgeiswyr gydymffurfio â rheoliadau atodol y mae disgwyl i'r Cyfadrannau/Ysgolion eu llunio sy'n nodi strwythur y rhaglen, gan nodi’n glir pa rai yw’r modiwlau craidd a gorfodol, ac a ganiateir modiwlau dewisol.
3. Trosglwyddo Credydau
3.1
Tynnir sylw myfyrwyr at y Rheoliadau Cyffredinol ar gyfer Israddedigion - Trosglwyddo Credydau (Rheoliad 29).
3.2
Rhaid i ymgeisydd ddilyn isafswm o 90 credyd ym Mhrifysgol Abertawe neu dan ei rheolaeth mewn sefydliad partner trwy drefniant cydweithredu ffurfiol er mwyn bod yn gymwys am Dystysgrif Addysg Uwch.
4. Terfynau Amser
4.1
Dyma fydd uchafswm cyfnod ymgeisyddiaeth ymgeiswyr sydd yn dilyn Tystysgrif Addysg Uwch:
- Sail Amser llawn: dim mwy na dwy flynedd oddi ar gychwyn y rhaglen;
- Sail Ran-amser: dim llai na dwy flynedd a dim mwy na phum mlynedd oddi ar gychwyn y rhaglen.
4.2
O fewn y terfynau amser cyffredinol hyn, gall y Cyfadrannau/Ysgolion bennu terfynau amser byrrach ar gyfer rhaglenni astudio unigol.
4.3
Gellir ymestyn y terfyn amser cyffredinol yn unol â’r rheoliadau a amlinellir yn rheoliad 27 y Rheoliadau Cyffredinol.
4.4
Gall y Gyfadran/Ysgol dan sylw ostwng y terfyn amser uchod pro rata ar gychwyn yr ymgeisyddiaeth lle derbyniwyd ymgeisydd i astudio gyda chredyd trosglwyddadwy, yn unol ag Adran 3.
5. Rheoliadau Asesu
5.1
Caiff cynnydd ymgeisydd fel rheol ei asesu yn ystod modiwl a/neu yn y cyfnod yn syth wedi ei gwblhau.
5.2
Bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau’r rhaglen astudio tystysgrif Israddedig yn unol â’r rheoliadau ar gyfer dyfarnu credyd fel y’u hamlinellir yn y Rheoliadau Asesu Israddedigion.
Yn berthnasol yn unig i'r CertHE mewn Astudiaethau Gofal Iechyd:
Fel rheol caniateir i ymgeiswyr gael hyd at tri ymgais i wneud iawn am fethiannau mewn unrhyw gydran asesu ar fodiwl cyhyd â bod modd gwneud hynny o fewn dwy sesiwn academaidd ac o fewn y terfyn amser ar gyfer y dystysgrif. Fel arfer cynigir yr ymgais cyntaf i wneud iawn am fethiannau mor agos i’r dyddiad asesu gwreiddiol ag sy’n bosibl (fel arfer o fewn 8 i 10 wythnos).
5.3
40% fydd marc pasio modiwl.
6. Cymwysterau Ymadael
6.1
Ni fydd ymgeisydd a dderbynnir i raglen astudio tystysgrif israddedig ond na all, neu nas caniateir iddo, wedi hynny fwrw ymlaen i'w chwblhau yn gymwys am gymhwyster ymadael.
7. Bod yn Gymwys i Dderbyn Dyfarniad
7.1
Er mwyn bod yn gymwys i’w hystyried am gymhwyster Prifysgol Abertawe, rhaid i ymgeiswyr fod wedi gwneud y canlynol:
- Dilyn rhaglen astudio gymeradwy am y cyfnod a nodir gan y Brifysgol;
- Dilyn isafswm o 120 credyd ar Lefel 4 (neu yn uwch) ac eithrio lle darperir gan Adran 2 uchod;
- Bodloni unrhyw amodau pellach a fynnir gan y Gyfadran/Ysgol neu’r Brifysgol.
7.2
Bydd ymgeisydd sydd yn cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus yn gymwys am ddyfarniad Clod os bydd yn ennill marc cyffredinol o 70% neu’n uwch (neu’r pwynt graddfa cyfatebol) am y cymhwyster dan sylw.
8. Derbyn i’r Cymhwyster
8.1
Dyfernir Tystysgrif Addysg Uwch i ymgeiswyr mewn seremoni wobrwyo Prifysgol Abertawe.