Datganiad Ynghylch Covid-19 2021-22

Mewn ymateb i bandemig parhaus Covid-19 a newidiadau i Bolisi Llywodraeth Cymru (a Llywodraeth y Deyrnas Unedig), mae'r Brifysgol yn parhau i weithio gyda myfyrwyr i sicrhau darparu cymorth priodol ac i ddiogelu eu canlyniadau.
Ers dechrau'r pandemig, mae'r Brifysgol wedi cyflwyno 'Rhwyd Ddiogelwch' i fyfyrwyr ym mlwyddyn academaidd 2019-20, ac yna 'Fframwaith Dim Anfantais' yn 2020-21. Roedd yr ymagweddau hyn yn adlewyrchu sefyllfa'r Brifysgol a'n myfyrwyr yn ystod y pandemig a'u nod oedd tawelu meddyliau myfyrwyr y byddai eu canlyniadau academaidd ar yr un lefel â blynyddoedd blaenorol, a bod gan y Brifysgol fframwaith i ymateb pe bai tystiolaeth bod y pandemig wedi effeithio ar eu perfformiad.

Oherwydd bod y Brifysgol wedi dychwelyd i ragor o ddarpariaeth wyneb yn wyneb ac wedi addasu ei phrosesau a'i hymagweddau at ddysgu, addysgu, asesu a chefnogi myfyrwyr, gan gynnwys y trefniadau asesu ac arholi a'r weithdrefn amgylchiadau esgusodol i gefnogi myfyrwyr yn well yn ystod yr adegau heriol hyn, cytunwyd na fyddai angen strwythurau cymorth ychwanegol o hyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-22.

Bydd yr holl asesiadau'n parhau yn unol â'r cynlluniau presennol o 3 Ionawr a bwriedir dechrau gweithgareddau addysgu ar 24 Ionawr (neu'n gynt yn achos rhai rhaglenni) gyda'r amserlenni sy'n cael eu cynllunio ar hyn o bryd ar gyfer BA2. Dylai'r amserlenni terfynol fod ar gael yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 10 Ionawr.

Os bydd y rheolau ynghylch Covid yn newid yn sylweddol, gyda lefel uwch o gyfyngiadau, gallai fod angen inni ddechrau BA2 ar-lein (ac eithrio gwaith labordy, sesiynau ymarferol ac eithriadau eraill). Yn yr achos hwn, bydd strategaeth gyfathrebu glir er mwyn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn deall ymateb y Brifysgol, a bod mesurau ar waith er mwyn eu cefnogi yn ystod gweddill sesiwn academaidd 2021-22.