'Dylech ymgyfarwyddo â'r Polisi Monitro Cyfranogiad y Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 ynghynt) a'r Datganiad ar Gyfranogiad oherwydd bod gan y Brifysgol ddyletswydd gyfreithiol i weithredu ar ddiffyg cyfranogiad er mwyn bodloni'r gofynion sydd arni o ran adrodd am bresenoldeb i noddwyr allanol, yn ogystal â bodloni gofynion nawdd Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) ar gyfer monitro myfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio yn y Deyrnas Unedig ar fisa Llwybr Myfyriwr (Haen 4 ynghynt). Mae system electronig ganolog wedi cael ei datblygu i fonitro presenoldeb at y dibenion hyn.’
Gwybodaeth Ynghylch Haen 4 Myfyrwyr Ymchwil
1.
Os ydych chi’n fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig o'r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, ac wedi’ch cofrestru’n amser llawn yn y Brifysgol ar gyfer Gradd Ymchwil, rhaid i chi ddarllen yr wybodaeth ganlynol yn ofalus a chynllunio eich astudiaethau’n unol â hynny:
- Os nad ydych yn wladolyn yr UE a bod angen fisa myfyriwr arnoch i astudio yn y DU, rhaid eich bod yn astudio’n amser llawn er mwyn cael fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt); Nid yw'n bosibl astudio’n rhan-amser oni fyddwch yn gymwys ar gyfer statws fisa arall y DU;
- Er mwyn gwneud cais am fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), bydd angen Cadarnhad o Dderbyn i Astudio (CAS) arnoch gan y Brifysgol;
- Mae pedwar dyddiad cofrestru posibl bob blwyddyn ar gyfer PhD neu MPhil (1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf, 1 Hydref) a bydd eich Cadarnhad o Dderbyn i Astudio yn dangos eich dyddiad cofrestru fel y'i cytunwyd;
- Mae’n rhaid i fyfyrwyr MRes wirio i gadarnhau’r dyddiad y mae eu rhaglen yn dechrau. Efallai na fydd gan raglenni MRes cymaint o ddyddiadau cofrestru â rhaglenni ymchwil traddodiadol;
- Cewch ofyn bod eich fisa myfyriwr yn ddilys hyd at fis cyn eich dyddiad cofrestru, i’ch galluogi i gael mynediad i’r DU ac ymbaratoi ar gyfer eich astudiaethau;
- Mae rheolau fisa Asiantaeth Fisâu a Mewnfudo’r DU yn datgan y bydd eich fisa myfyriwr yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod hwyaf posibl eich ymgeisyddiaeth, gyda 4 mis ar ben hynny, fel a ganlyn;
- 4 blynedd a 4 mis ar gyfer ymgeisydd PhD;
- 3 blynedd a 4 mis ar gyfer ymgeisydd MPhil;
- 2 flynedd a 4 mis ar gyfer ymgeisydd Mhres;
- Nid yw’r rheolau fisa yn caniatáu i chi gael fisa am gyfnod hwy, oni fydd y Brifysgol yn ymestyn eich ymgeisyddiaeth;
- Gan y gall gymryd mwy na phedwar mis ar ôl cyflwyno eich traethawd ymchwil i chi sefyll arholiad llafar a gwneud cywiriadau, mae’r Brifysgol yn argymell yn gryf nad ydych yn aros tan ddiwedd pedwaredd flwyddyn eich ymgeisyddiaeth cyn cyflwyno traethawd ymchwil;
- Os ydych yn cyflwyno eich traethawd ymchwil ar ddiwedd eich ymgeisyddiaeth, mae’n debygol y bydd eich fisa wedi dod i ben cyn i’r radd gael ei chadarnhau yn ffurfiol, a hwyrach ni fydd modd i chi aros yn y DU er mwyn gwneud cais pellach am fisa neu dderbyn cynnig swydd.
Os oes gennych gwestiynau am eich fisa neu faterion mewnfudo eraill, e-bostiwch Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol.
2.
O Ebrill 2013, mae unrhyw fyfyriwr PhD sydd â fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) ddilys sy'n nesáu at gwblhau ei radd yn llwyddiannus yn gymwys i ymgeisio am ymestyn ei hawl i aros yn y Deyrnas Gyfunol am 12 mis ychwanegol. Dylai myfyrwyr wneud cais o fewn y 60 niwrnod cyn iddynt gwblhau eu cwrs. Diben y cynllun hwn yw galluogi myfyrwyr i ddod o hyd i gyflogaeth fedrus, ymgymryd â phrofiad gwaith neu ddod yn entrepreneur. Fodd bynnag, nid yw’r hawliau newydd hyn yn dechrau nes bod y PhD wedi’i ddyfarnu. Cyfeiriwch at Gynllun Ymestyn Doethuriaethau Haen 4 am ragor o wybodaeth.
3.
Os gwneir unrhyw newidiadau i gynigion myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, mae’n ofynnol bod y Brifysgol yn hysbysu Fisâu a Mewnfudo'r Deyrnas Gyfunol (UKVI) o fewn 28 niwrnod i’r newidiadau.Mae’n bosibl y bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt yn dod o’r DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu o’r Swisdir gael tystysgrif gan y Cynllun Cymeradwyo Technoleg (ATAS). Gellir dod o hyd i wybodaeth ynghylch pa gyrsiau y mae angen tystysgrif ATAS arnynt yma. Cyfrifoldeb goruchwylwyr Prifysgol Abertawe ydyw i roi gwybod i Dîm Cydymffurfio Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol (Gwasanaethau Academaidd) am newidiadau i gynnig ymchwil gwreiddiol myfyrwyr, neu’r defnydd o unrhyw ddull ymchwil newydd. Am ragor o wybodaeth, darllenwch ATAS and Change of Research Topic Policy and Procedure.
Er mwyn cael Datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio rhaid i chi fodloni'r gofynion sydd wedi'u nodi gan y Brifysgol a chan gyfreithiau'r DU. Mae'r gofynion hyn wedi'u rhestru isod:
- Terfyn amser
Ar 6 Ebrill 2012, cyflwynodd Asiantaeth Fisas a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig derfyn i'r cyfnod y gall myfyrwyr astudio ar gyfer lefel gradd Faglor (NQF 6) a gradd Meistr a Addysgir (NQF 7) tra eu bod ar fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt). Ym mwyafrif yr achosion y terfyn yw 5 mlynedd, er y ceir ambell eithriad i'r rheol hon.
- Dogfennau adnabod
Rhaid i chi ddarparu copïau o'ch pasbort cyfredol a'ch holl fisas/cardiau adnabod biometrig, rhai sydd wedi darfod a rhai cyfredol.
- Cynnydd Academaidd
Mae rheoliadau'r Swyddfa Gartref yn gofyn bod myfyrwyr yn dangos cynnydd academaidd drwy symud ymlaen i gyrsiau ar lefel academaidd uwch. Fodd bynnag, nid oes raid i chi ddangos cynnydd academaidd os ydych yn ymestyn eich caniatâd er mwyn cwblhau cwrs yr ydych eisoes yn ei ddilyn.
- Ffioedd Dysgu/Llety
Rhaid eich bod wedi talu'r cyfan o'ch ffioedd dysgu a'ch ffioedd llety sy’n ddyledus cyn i chi allu derbyn datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio.
Er mwyn i ni asesu a ydych yn gymwys i gael datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio, rhaid i chi gwblhau Holiadur Astudiaethau Blaenorol, gan fanylu ar eich holl astudio blaenorol yn y Deyrnas Unedig, a chan ddarparu'r holl ddogfennau atodol a chopïau o'ch holl fisas blaenorol fel y nodir yn yr holiadur.
Pwrpas yr Holiadur Astudiaethau Blaenorol yw sefydlu a oes digon o amser gennych i gwblhau eich rhaglen astudio ac i gadarnhau eich bod yn gwneud cynnydd academaidd.
Rhaid bod y wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn gyflawn ac yn gywir. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad oes unrhyw wybodaeth a geisir nac unrhyw wybodaeth faterol arall wedi'i hepgor. Mae Prifysgol Abertawe'n cadw'r hawl i wirio dilysrwydd yr wybodaeth hon trwy gysylltu ag unrhyw rai o'r sefydliadau lle'r ydych wedi astudio o'r blaen.
Os yw'r dystiolaeth a ddarperir yn eich Holiadur Astudiaethau Blaenorol yn bodloni'r gofynion a nodir uchod ac rydym yn fodlon bod hyn yn gywir, byddwn yn llunio ffurflen ddatganiad yn nodi manylion yr wybodaeth a fydd yn ymddangos ar eich datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr wybodaeth hon yn gywir. Ar ôl i chi gadarnhau'r manylion yn y datganiad ar y ffurflen, byddwn yn cyhoeddi'ch datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio.
SYLWER: O ystyried faint o wybodaeth y mae'n rhaid ei chasglu at ei gilydd a'i dilysu er mwyn sefydlu eich bod yn bodloni'r gofynion ar gyfer Cadarnhad Derbyn i Astudio, gall hyn fod yn broses hir. Caiff pob cais am Cadarnhad Derbyn i Astudio ei brosesu'n unigol, felly ni allwn warantu y caiff ei ddosbarthu o fewn cyfnod penodol.
O Ebrill 2013, mae unrhyw fyfyriwr PhD gyda fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) dilys sy'n nesáu at gwblhau ei radd yn llwyddiannus yn gymwys i ymgeisio am ymestyn ei hawl i aros yn y Deyrnas Unedig am 12 mis ychwanegol. Bwriad y cynllun hwn yw galluogi myfyrwyr i ddod o hyd i waith medrus, gwneud cyfnod o brofiad gwaith, neu sefydlu busnes fel entrepreneur.
Rhaid cyflwyno cais i'r cynllun hwn cyn i'ch fisa myfyriwr Haen 4 bresennol ddod i ben a hyd at 60 niwrnod cyn dyfarnu eich gradd. Rhaid cael Cadarnhad Derbyn i Astudio hefyd, sy'n golygu bydd y Brifysgol yn parhau i weithredu fel eich noddwr a bydd cynnal cyswllt rheolaidd â ni yn amod o'ch fisa unwaith y byddwch wedi'ch derbyn i'r cynllun.
Os ydych yn credu y gallech fod yn gymwys am y cynllun hwn, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cofrestru eich diddordeb neu'ch bwriad i gyflwyno cais cyn cyflwyno eich traethawd ymchwil i sicrhau y gellir cyflwyno cais amserol. Cysylltwch â'n Huned Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol i drafod gwneud cais. Ffôn:+44 1792 604465 neu e-bost student compliance.
Eich rhwymedigaethau ar y Cynllun Estyniad Doethurol
- Sicrhau bod gan MyUniHub eich manylion cyswllt (cyfeiriad preswyl, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost) cywir ar bob amser;
- Cydymffurfio â'r amodau gweithio sy'n gysylltiedig â'ch fisa;
- Mae amodau safonol Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) yn berthnasol (e.e. hawliau gwaith cyfyngedig) hyd nes y caiff eich Doethuriaeth ei chadarnhau;
- Ar ôl i chi gyflwyno eich cais ar gyfer y Cynllun Estyniad Doethurol ac ar ôl i'ch dyfarniad Doethuriaeth gael ei gadarnhau, gallwch weithio heb gyfyngiadau (fodd bynnag ni chewch weithio o hyd fel Meddyg neu Ddeintydd dan hyfforddiant neu fel chwaraewr proffesiynol, gan gynnwys hyfforddwr);
- Ufuddhau i bolisi monitro Cynllun Estyniad Doethurol y Brifysgol ac ymateb yn brydlon i unrhyw ohebiaeth (mae hyn yn debygol o fod drwy e-bost) gan y Brifysgol yn ystod y cyfnod pan gewch eich noddi ar y cynllun hwn. Eich pwyntiau cyswllt fydd mis Hydref, mis Ionawr, mis Ebrill a mis Gorffennaf. Os nad ydych yn ymateb i gysylltiad gan y Brifysgol, bydd dyletswydd arni i roi gwybod i'r Swyddfa Gartref a gellir diddymu eich fisa;
- Rhoi gwybod i'r Brifysgol os nad ydych yn rhan o'r cynllun mwyach, neu os ydych yn gadael y DU yn barhaol;
- Gadael y DU neu newid i gategori mewnfudo gwahanol (e.e. Haen 2) cyn y daw eich fisa i ben.
Rhwymedigaethau Prifysgol Abertawe:
Yn ystod eich nawdd o dan y Cynllun Estyniad Doethurol, rhaid i'r Brifysgol hysbysu'r Swyddfa Gartref am yr amgylchiadau canlynol:
- Cadarnhau a ydych wedi cwblhau neu fethu eich doethuriaeth neu wedi derbyn cymhwyster is na doethuriaeth (e.e. MPhil);
- Gwarantu eich bod yn deall eich rhwymedigaeth i ufuddhau i amodau eich caniatâd i aros
- Cynnal cyswllt â chi, o leiaf bob chwarter ac ar e-bost siŵr o fod
- Hysbysu Fisâu a Mewnfudo'r DU am ddigwyddiadau penodol, er enghraifft:
- Os ydych yn methu'ch cwrs neu'n derbyn cymhwyster is;
- Os nad ydych yn ymateb i gysylltiad fel y cytunwyd;
- Os ydych yn gadael y DU yn barhaol neu'n newid i gategori mewnfudo arall;
- Os nad ydych yn cymryd rhan yn y cynllun bellach.
Mae gofyn i'r Brifysgol hysbysu UKVI o fewn 28 niwrnod am newidiadau i gynigion ymchwil myfyriwr ôl-raddedig, ar gyfer y rhai hynny y mae angen tystysgrif Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS) arnynt. Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr nad ydynt yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Mae gwybodaeth am ba cyrsiau y mae angen tystysgrif ATAS ar eu cyfer ar gael yma:
https://www.gov.uk/guidance/find-out-if-you-require-an-atas-certificate#find-out-how-to-apply
Cyfrifoldeb goruchwylwyr Prifysgol Abertawe yw hysbysu'r Tîm Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol (Gwasanaethau Academaidd) o newidiadau i gynnig ymchwil gwreiddiol myfyrwyr neu'r defnydd o ddull ymchwil newydd.
Er mwyn cynnwys y newidiadau a chynghori myfyrwyr ynghylch dilysrwydd yr ATAS, dilynir y weithdrefn ganlynol:
Dylid hysbysu'r Tîm Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol o newid i gynnig ymchwil gwreiddiol y myfyriwr neu'r defnydd o unrhyw ddull ymchwil newydd sy'n gysylltiedig â myfyriwr ATAS.
Gan ddefnyddio'r e-bost studentcompliance@abertawe.ac.uk, dylai goruchwylwyr anfon e-bost yn amlygu'r pethau canlynol a) y pwnc ymchwil gwreiddiol a b) y pwnc ymchwil newydd arfaethedig.
Bydd y tîm Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol yn gwerthuso amrywiad y newid ac yn hysbysu'r myfyriwr a'r goruchwyliwr i ail-gyflwyno am ATAS, os bydd angen gwneud hynny. Nid oes cost ariannol i ail-gyflwyno cais.
Bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol yn gyfrifol am gofnodi a monitro newidiadau. Os oes gennych gwestiynau neu ymholiadau, e-bostiwch y Tîm Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol yn studentcompliance@abertawe.ac.uk.