two people sat looking at laptop

'Dylech ymgyfarwyddo â'r Polisi Monitro Cyfranogiad y Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 ynghynt) a'r Datganiad ar Gyfranogiad oherwydd bod gan y Brifysgol ddyletswydd gyfreithiol i weithredu ar ddiffyg cyfranogiad er mwyn bodloni'r gofynion sydd arni o ran adrodd am bresenoldeb i noddwyr allanol, yn ogystal â bodloni gofynion nawdd Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) ar gyfer monitro myfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio yn y Deyrnas Unedig ar fisa Llwybr Myfyriwr (Haen 4 ynghynt). Mae system electronig ganolog wedi cael ei datblygu i fonitro presenoldeb at y dibenion hyn.’

Materion sy’n berthnasol - Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt)

1.

Os ydych chi’n fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig o'r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, ac wedi’ch cofrestru’n amser llawn yn y Brifysgol ar gyfer Gradd Ymchwil, rhaid i chi ddarllen yr wybodaeth ganlynol yn ofalus a chynllunio eich astudiaethau’n unol â hynny:  

  • Os nad ydych yn wladolyn yr UE a bod angen fisa myfyriwr arnoch i astudio yn y DU, rhaid eich bod yn astudio’n amser llawn er mwyn cael fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt); Nid yw'n bosibl astudio’n rhan-amser oni fyddwch yn gymwys ar gyfer statws fisa arall y DU;
  • Er mwyn gwneud cais am fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), bydd angen Cadarnhad o Dderbyn i Astudio (CAS) arnoch gan y Brifysgol;
  • Mae pedwar dyddiad cofrestru posibl bob blwyddyn ar gyfer PhD neu MPhil (1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf, 1 Hydref) a bydd eich Cadarnhad o Dderbyn i Astudio yn dangos eich dyddiad cofrestru fel y'i cytunwyd;
  • Mae’n rhaid i fyfyrwyr MRes wirio i gadarnhau’r dyddiad y mae eu rhaglen yn dechrau. Efallai na fydd gan raglenni MRes cymaint o ddyddiadau cofrestru â rhaglenni ymchwil traddodiadol;
  • Cewch ofyn bod eich fisa myfyriwr yn ddilys hyd at fis cyn eich dyddiad cofrestru, i’ch galluogi i gael mynediad i’r DU ac ymbaratoi ar gyfer eich astudiaethau;
  • Mae rheolau fisa Asiantaeth Fisâu a Mewnfudo’r DU yn datgan y bydd eich fisa myfyriwr yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod hwyaf posibl eich ymgeisyddiaeth, gyda 4 mis ar ben hynny, fel a ganlyn;
    • 4 blynedd a 4 mis ar gyfer ymgeisydd PhD;
    • 3 blynedd a 4 mis ar gyfer ymgeisydd MPhil;
    • 2 flynedd a 4 mis ar gyfer ymgeisydd Mhres;
  • Nid yw’r rheolau fisa yn caniatáu i chi gael fisa am gyfnod hwy, oni fydd y Brifysgol yn ymestyn eich ymgeisyddiaeth;
  • Gan y gall gymryd mwy na phedwar mis ar ôl cyflwyno eich traethawd ymchwil i chi sefyll arholiad llafar a gwneud cywiriadau, mae’r Brifysgol yn argymell yn gryf nad ydych yn aros tan ddiwedd pedwaredd flwyddyn eich ymgeisyddiaeth cyn cyflwyno traethawd ymchwil;
  • Os ydych yn cyflwyno eich traethawd ymchwil ar ddiwedd eich ymgeisyddiaeth, mae’n debygol y bydd eich fisa wedi dod i ben cyn i’r radd gael ei chadarnhau yn ffurfiol, a hwyrach ni fydd modd i chi aros yn y DU er mwyn gwneud cais pellach am fisa neu dderbyn cynnig swydd. 

Os oes gennych gwestiynau am eich fisa neu faterion mewnfudo eraill, e-bostiwch Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol.

2.

O Ebrill 2013, mae unrhyw fyfyriwr PhD sydd â fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) ddilys sy'n nesáu at gwblhau ei radd yn llwyddiannus yn gymwys i ymgeisio am ymestyn ei hawl i aros yn y Deyrnas Gyfunol am 12 mis ychwanegol. Dylai myfyrwyr wneud cais o fewn y 60 niwrnod cyn iddynt gwblhau eu cwrs. Diben y cynllun hwn yw galluogi myfyrwyr i ddod o hyd i gyflogaeth fedrus, ymgymryd â phrofiad gwaith neu ddod yn entrepreneur. Fodd bynnag, nid yw’r hawliau newydd hyn yn dechrau nes bod y PhD wedi’i ddyfarnu. Cyfeiriwch at Gynllun Ymestyn Doethuriaethau Haen 4 am ragor o wybodaeth.

3. 

Os gwneir unrhyw newidiadau i gynigion myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, mae’n ofynnol bod y Brifysgol yn hysbysu Fisâu a Mewnfudo'r Deyrnas Gyfunol (UKVI) o fewn 28 niwrnod i’r newidiadau.Mae’n bosibl y bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt yn dod o’r DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu o’r Swisdir gael tystysgrif gan y Cynllun Cymeradwyo Technoleg (ATAS). Gellir dod o hyd i wybodaeth ynghylch pa gyrsiau y mae angen tystysgrif ATAS arnynt yma. Cyfrifoldeb goruchwylwyr Prifysgol Abertawe ydyw i roi gwybod i Dîm Cydymffurfio Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol (Gwasanaethau Academaidd) am newidiadau i gynnig ymchwil gwreiddiol myfyrwyr, neu’r defnydd o unrhyw ddull ymchwil newydd. Am ragor o wybodaeth, darllenwch ATAS and Change of Research Topic Policy and Procedure.

Gweithdrefn Gwneud Cais am Ddatganiad 'Cadarnhad Derbyn i Astudio' o'r Gofrestrf Cynllun Estyniad Doethuriaeth Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS)