Canllaw i’r Radd Doethur mewn Meddygaeth drwy Waith Cyhoeddedig
Canllaw i’r Radd Doethur mewn Meddygaeth drwy Waith Cyhoeddedig
1. Mynediad i’r Radd
1.1
Derbynnir deiliaid gradd feddygol gychwynnol a enillwyd mewn prifysgol yn y DU, neu brifysgol arall a gymeradwyir gan y senedd, yn unig i'r radd Doethur mewn Meddygaeth trwy Waith a Gyhoeddwyd. Os enillwyd gradd yr ymgeisydd y tu allan i’r DU, bydd y corff sy’n derbyn yr ymgeisydd yn cyfeirio at gyngor y Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gymwysterau dramor.
1.2
Dylai ymgeiswyr am MD drwy Waith Cyhoeddedig gwrdd â’r gofynion mynediad cyffredinol ar gyfer gradd ymchwil lefel doethur fel sydd wedi’u diffinio yn y Canllaw Derbyniadau Myfyrwyr Ymchwil.
1.3
Bydd rhaid i ymgeisydd gyflwyno rhestr fanwl o waith cyhoeddedig y mae ef/hi yn bwriadu ei gynnwys yn y cyflwyniad terfynol ynghyd â datganiad o’i gyfraniad/chyfraniad i unrhyw bapurau gan aml awduron/gwaith ar y cyd i'r Deon Gweithredol perthnasol neu enwebai.
1.4
Rhaid i’r ymgeisydd hefyd ddarparu crynodeb critigol byr o’r cyhoeddiadau i’w cyflwyno sy’n gosod y gwaith yn ei gyd-destun, yn arddangos cydlyniad y gwaith ac yn adnabod y cyfraniad i gynyddu gwybodaeth y mae’r gwaith yn ei gynrychioli. Dylai’r crynodeb critigol byr hefyd dangos y fethodoleg a fabwysiadwyd yn yr ymchwil. Ni ddylai’r crynodeb critigol byr fod yn fwy na thudalen o hyd.
1.5
Bydd y Deon Gweithredol perthnasol neu enwebai yn dod i benderfyniad p’un ai y dylid caniatáu i’r ymgeisydd gofrestru ar gyfer y radd MD drwy Waith Cyhoeddedig.
2. Hyd yr Ymgeisyddiaeth
2.1
Bydd rhaid i ymgeisydd gwblhau cyfnod ymgeisyddiaeth lleiafswm o chwe mis o’r dyddiad cofrestru. Yn y cyfnod hwn bydd yr ymgeisydd yn paratoi’r cyflwyniad a’r adolygiad critigol dan arweiniad cynghorydd.
2.2
Rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno ar gyfer y radd erbyn 12 mis ar ôl y dyddiad cofrestru fan bellaf.
3. Diffiniad o Waith Cyhoeddedig
3.1
Er mwyn bod yn gymwys i gael ei ystyried yn “waith cyhoeddedig”, rhaid bod darn o waith wedi’i gyhoeddi mewn modd fel ei fod ar gael yn gyffredinol ar gyfer ymgynghoriadau gan ysgolheigion a phobl eraill â diddordeb, a rhaid ei fod yn olrheiniadwy mewn catalogau cyffredin. Rhaid bod pob darn o waith wedi’i adolygu gan gydweithwyr yn rhyngwladol ac wedi’i gyhoeddi am gyfnod heb fod yn fwy na saith blynedd cyn y dyddiad cyflwyno.
3.2
Mae enghreifftiau o waith cyhoeddedig cymwys yn cynnwys, ond nid yn gyfyng i:
- Bapur academaidd;
- Erthygl mewn cylchgrawn;
- Monograff;
- Adroddiad Technegol;
- Pennawd mewn llyfr;
- Llyfr testun ysgolheigaidd;
- Llyfr unigol.
3.3
Gellir ystyried gweithiau Electronig yn gymwys, ond dylai’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth y bydd y gwaith yn parhau i fod ar gael yn gyhoeddus am y dyfodol a ragwelir yn ei ffurf bresennol.
3.4
Rhaid i’r gwaith a gyflwynir ar gyfer y radd gynnwys corff o gyhoeddi yn tueddu at draethawd hir cydlynol, yn hytrach na chyfres o gyhoeddiadau ar wahân.
3.5
Rhaid bod y gwaith a gyflwynir ar gyfer y radd fod yn dra gwahanol i unrhyw waith y gellir bod wedi ei gyflwyno o’r blaen ar gyfer unrhyw radd yn y sefydliad hwn neu unrhyw sefydliad arall.
3.6
Dylai’r gwaith cyhoeddedig fod o safon gyfwerth â hynny o MD “traddodiadol” yn y maes academaidd perthnasol ac yn gallu arddangos cyfraniad gwreiddiol yr ymgeisydd at wybodaeth.
4. Nifer y Gweithiau
4.1
Bydd nifer y gweithiau yn dibynnu ar y maes academaidd yn ogystal â’r math o waith cyhoeddedig sydd wedi’i gyflwyno, ond dylai’r cyflwyniad fel arfer gynnwys rhwng tri darn a deg darn o waith. Fodd bynnag, mae’r mater o nifer yn eilradd i’r cwestiwn o ansawdd ac effaith yr allbwn.
4.2
Dylai cyfanswm swm y gwaith fod yn gyfwerth mwy neu lai â MD “traddodiadol” (gweler Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwily am ragor o fanylion ynghylch nifer o eiriau).
5. Dull o Gyflwyno
5.1
Bydd y gwaith a gyflwynir yn cynnwys:
- Crynodeb a fydd yn darparu amlinelliad o’r gwaith cyhoeddedig yn cynnwys prif gysyniadau a chasgliadau’r gwaith cyhoeddedig i gyd heb fod yn fwy na 300 o eiriau o hyd;
- Taflen grynodeb yn rhestru’r holl waith cyhoeddedig a gyflwynwyd ynghyd â datganiad o ehangder cyfraniad yr ymgeisydd i waith gan aml awduron, wedi’i gadarnhau gan yr holl gyd-awduron lle bo hynny’n bosibl;
- Copi o bob cyhoeddiad wedi’u rhifo yn unol â phwynt b) uchod;
- Adolygiad critigol yn nodi amcanion a natur yr ymchwil, y berthynas rhwng y gwaith cyhoeddedig a’r prif gyfraniad a/neu i ddysgu’r gwaith cyhoeddedig;
- Tystiolaeth o statws yr holl waith cyhoeddedig a gyflwynir.
5.2
Dylid cyflwyno’r gwaith fel cyfrol sydd wedi’i rwymo’n unigol lle bo hynny’n bosib. Lle y cyflwynir llyfrau cyflawn fel rhan o’r gwaith a gyflwynir, rhaid eu bod wedi’u cyflwyno ar wahân yn y rhwymiad gwreiddiol. Dylid cyflwyno penawdau o lyfrau ac erthyglau/papurau fel ailargraffiadau a’u rhwymo i’r prif gyflwyniad. Gweler y Canllaw i Gyflwyno a Chyflwyniad Thesis i Fyfyrwyr Ymchwil am ragor o fanylion ynglŷn â chonfensiynau rhwymo.
6. Yr Adolygiad Critigol
6.1
Dylai’r adolygiad critigol fod rhwng 5,000 a 10,000 o eiriau. Dylai’r adolygiad critigol osod y gwaith cyhoeddedig yng nghyd-destun y llenyddiaeth bresennol a dylai werthuso’r cyfraniad y mae’r gwaith cyhoeddedig a gyflwynir yn ei wneud i fwyhau’r maes ymchwil. Dylai’r adolygiad critigol nodi cydlyniad y gweithiau, gan eu cysylltu i’r fethodoleg ymchwil a fabwysiadwyd gan yr ymgeisydd.
6.2
Mae adolygiad critigol y gwaith cyhoeddedig yn hanfodol o ran sefydlu cydlyniad ac ansawdd y gwaith a gyflwynir ac felly hefyd i’r achos o ddyfarnu’r radd.
6.3
Yn benodol dylai’r adolygiad critigol:
- Ddangos sut y mae’r gweithiau’n gwneud cyfraniad arwyddocaol a chydlynol i’r wybodaeth;
- Darparu asesiad o effaith y gweithiau sydd wedi’u cynnwys yn y cyflwyniad;
- Esbonio’r perthnasedd a’r meini prawf ar gyfer dewis unrhyw fethodoleg a ddefnyddir;
- Amlinellu’r eitemau sy’n rhoi’r cydlyniad diffiniedig i’r gwaith;
- Nodi rôl yr ymgeisydd yn glir ym mhob darn o waith y mae ef/hi yn gydawdur arnynt;
- Dangos sut y mae cyhoeddiadau penodol wedi’u teilwra ar gyfer eu cyhoeddi (er enghraifft, drwy olygu data arbrofol allan);
- Adolygu unrhyw gyhoeddiad y cyfeiriwyd atynt nad ydynt wedi’u cyflwyno fel rhan o’r cyflwyniad.
6.4
Dylid rhoi sylw yn arbennig i sicrhau yr ystyrir ffactorau megis argaeledd data crai y mae gweithiau a ddyfynnwyd yn tynnu casgliadau ohonynt yn llawn yn yr adolygiad critigol.
7. Rôl yr Ymgynghorydd
7.1
Bydd gan bob ymgeisydd ymgynghorydd wedi’i benodi/phenodi gan y Deon Gweithredol yr ymgeisydd neu enwebai. Rhaid bod yr ymgynghorydd yn aelod o staff ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd yr ymgynghorydd yn cefnogi, cynghori ac yn rhoi arweiniad i’r ymgeisydd drwy’r broses o ddrafftio’r adolygiad critigol a’r broses o gyflwyno’r gwaith cyhoeddedig a’r astudiaeth ohono.
7.2
Rôl yr ymgynghorydd yw:
- Cefnogi a chynghori ar ddatblygiad yr adolygiad critigol;
- Rhoi arweiniad i’r ymgeisydd mewn perthynas â chydlyniad y corff o waith i’w gyflwyno;
- Cynnig arweiniad ar baratoi’r arholiad llafar;
- Awgrymu arholwyr addas i'r Deon Gweithredol.
8. Asesu
Asesir ymgeiswyr ar gyfer y radd Doethur mewn Meddygaeth drwy Waith Cyhoeddedig drwy arholiad llafar (viva voce).
9. Arholiad Llafar
9.1
Dylai MD drwy Waith Cyhoeddedig adlewyrchu’r un safonau academaidd â’r rheiny sy’n gweithredu ar gyfer MD sy’n seiliedig ar raglen gymeradwy o ymchwil dan oruchwyliaeth. Dylai arholwyr asesu sgôp ac arwyddocâd y corff o waith cyhoeddedig ac ystyried ei gryfderau a’i gwendidau.
9.2
Wrth arholi gwaith a gyflwynir, dylai’r arholwyr:
- Werthuso gwerth deallusol gwaith cyhoeddedig yr ymgeisydd a gyflwynwyd;
- Penderfynu sefydlu os gwnaed achos boddhaol am gydlyniad rhwng y cyhoeddiadau yn yr adolygiad critigol;
- Asesu’r cyfraniad i wybodaeth y mae’r cyhoeddiadau yn eu cynrychioli ac yn eu hamlygu yn yr adolygiad critigol;
- Gwerthuso’r cywirdeb y mae’r ymgeisydd wedi dadansoddi a gosod ei gyhoeddiadau/chyhoeddiadau yn eu cyd-destun yn yr adolygiad critigol;
- Gwerthuso priodoldeb y dulliau a fabwysiadwyd yn eu hymchwil a chywirdeb eu ceisiadau;
- Asesu cyfraniad yr ymgeisydd i’r ymchwil sydd wedi’i ymgorffori mewn gweithiau gan aml awduron a phenderfynu ‘perchnogaeth’ yr ymgeisydd ar y gwaith cyhoeddedig;
- Penderfynu ar werthfawrogiad yr ymgeisydd o’r cyflwr o wybodaeth hanesyddol a chyfredol ym maes ymchwil yr ymgeisydd.
9.3
Mewn rhai achosion gall arholwyr ystyried nad yw’r gwaith yn cynnwys digon o fanylion i ganiatáu iddynt wneud rhai o’r penderfyniadau uchod. Gall hyn fod yn arbennig o debygol yn achos erthyglau cylchgronau lle nad yw polisi’r cylchgrawn yn caniatáu cynnwys data manwl. Dylid ystyried y diffyg data manwl hwn yn yr adolygiad critigol sy’n cyd-fynd â chyflwyno’r gwaith cyhoeddedig ac yn yr arholiad llafar. Gall ymgeiswyr hefyd gynnwys data crai perthnasol fel atodiadau i’r gwaith a gyflwynir.