Canllaw i Radd PhD drwy Waith Cyhoeddedig
Canllaw i Radd PhD drwy Waith Cyhoeddedig
1. Mynediad i’r Radd
1.1
Dylai ymgeiswyr am PhD drwy Waith Cyhoeddedig ddiwallu’r amodau mynediad cyffredinol ar gyfer gradd ymchwil lefel doethur fel y’u diffinnir yn y Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.
1.2
Gofynnir i ymgeisydd gyflwyno rhestr fanwl o waith cyhoeddedig y mae’n bwriadu ei gynnwys yn y cyflwyniad terfynol ynghyd â datganiad o’i g/chyfraniad at unrhyw waith ar y cyd/papurau aml-awdur i’r Pennaeth Ysgol neu’r enwebai perthnasol.
1.3
Rhaid i’r ymgeisydd hefyd ddarparu crynodeb beirniadol cryno o’r cyhoeddiadau a gyflwynir sy’n rhoi’r gwaith yn ei gyd-destun, yn dangos cydlyniad y gwaith ac sy’n dangos cyfraniad y gwaith at ddatblygu gwybodaeth. Dylai’r crynodeb beirniadol byr hefyd roi’r fethodoleg a fabwysiadwyd yn yr ymchwil. Ni ddylai’r crynodeb beirniadol byr fod yn hwy na thudalen.
1.4
Bydd Pennaeth y Deon Gweithredol neu’r enwebai perthnasol yn penderfynu a ddylai’r ymgeisydd gael cofrestru ar gyfer gradd PhD drwy Waith Cyhoeddedig ai peidio.
2. Cyfnod yr Ymgeisiaeth
2.1
Gofynnir i ymgeisydd gwblhau cyfnod ymgeisiaeth sylfaenol o chwe mis o’r dyddiad cofrestru ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd yr ymgeisydd yn paratoi’r cyflwyniad a’r adolygiad beirniadol dan gyfarwyddyd cynghorydd.
2.2
Gofynnir i’r holl ymgeiswyr gyflwyno am y radd cyn pen 12 mis ar ôl y dyddiad cofrestru ar yr hwyraf.
3. Diffinio Gwaith Cyhoeddedig
3.1
Er mwyn i ddarn o waith fod yn gymwys i’w ystyried fel “gwaith cyhoeddedig”, rhaid iddo fod wedi’i gyhoeddi mewn ffordd sy’n golygu ei fod ar gael yn gyffredinol at ddefnydd ysgolheigion neu bobl eraill sydd â diddordeb a rhaid gallu ei olrhain mewn catalogau arferol. Rhaid i’r holl waith fod wedi cael ei adolygu gan gymheiriaid rhyngwladol a rhaid iddo fod wedi’i gyhoeddi dim mwy na saith mlynedd cyn y dyddiad cyflwyno.
3.2
Dyma rai enghreifftiau o waith cyhoeddedig, ond nid dyma’r cyfan:
- Papur academaidd;
- Erthygl mewn cyfnodolyn;
- Monograff;
- Adroddiad technegol;
- Pennod llyfr;
- Gwerslyfr ysgolheigaidd;
- Llyfr.
3.3
Ystyrir bod gwaith electronig yn gymwys ond dylai’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth y bydd y gwaith yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd ar ei ffurf bresennol hyd y gellir rhagweld.
3.4
Rhaid i’r gwaith cyhoeddedig a gyflwynir ar gyfer y radd fod yn gorpws cyhoeddi sy’n ymdebygu i thesis cydlynol, yn hytrach na chyfres o gyhoeddiadau digyswllt.
3.5
Rhaid i’r gwaith cyhoeddedig a gyflwynir ar gyfer y radd fod yn wahanol yn ei hanfod i unrhyw waith arall a allai fod wedi’i gyflwyno o’r blaen ar gyfer unrhyw radd yn y sefydliad hwn neu mewn unrhyw sefydliad arall.
3.6
Dylai’r gwaith cyhoeddedig fod o safon sy’n cyfateb i PhD “traddodiadol” yn y maes academaidd perthnasol a dylai ddangos cyfraniad gwreiddiol yr ymgeisydd at wybodaeth.
4. Hyd a Lled y Gwaith
4.1
Bydd nifer y darnau o waith yn dibynnu ar y maes academaidd a’r math o waith cyhoeddedig a fydd yn cael ei gynnwys yn y cyflwyniad, ond fel rheol dylai’r cyflwyniad gynnwys rhwng tri a deg darn o waith. Fodd bynnag, mae ansawdd ac effaith yr hyn a gynhyrchir yn bwysicach na nifer y darnau.
4.2
Dylai swmp cyffredinol y gwaith a gyflwynir fod oddeutu’r un faint â PhD “traddodiadol” (gweler y Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil i gael rhagor o fanylion am nifer geiriau).
5. Fformat y Cyflwyniad
5.1
Bydd y gwaith a gyflwynir yn cynnwys:
a) Crynodeb o’r gwaith cyhoeddedig a fydd yn cynnwys holl brif gysyniadau a chasgliadau’r gwaith cyhoeddedig ac ni fydd hyn yn hwy na 300 gair;
b) Dalen grynodeb a fydd yn rhestru’r holl waith cyhoeddedig a gyflwynir ynghyd â datganiad ynghylch graddfa cyfraniad yr ymgeisydd at waith aml-awdur, a fydd wedi’i gadarnhau gan yr holl gyd-awduron;
c) Copi o bob cyhoeddiad wedi’i rifo’n unol â phwynt b) uchod;
ch) Adolygiad beirniadol yn rhoi nodau a natur yr ymchwil, y rhyngberthynas rhwng y gwaith cyhoeddedig a’r prif gyfraniad a/neu ychwanegiad at ddysgu yn sgil y gwaith cyhoeddedig;
d) Tystiolaeth o statws yr holl waith cyhoeddedig a gyflwynwyd.
5.2
Dylid cyflwyno’r cais mewn un gyfrol wedi’i rhwymo pan fo’n bosibl. Pan gyflwynir llyfrau cyfan fel rhan o’r cyflwyniad, rhaid darparu’r rhain ar wahân gyda’r rhwymo gwreiddiol. Dylid cyflwyno penodau o lyfrau ac erthyglau/papurau fel adargraffiadau a dylid eu rhwymo yn y prif gyflwyniad. Gweler y Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil i gael rhagor o fanylion am gonfensiynau rhwymo.
6. Yr Adolygiad Beirniadol
6.1
Dylai’r adolygiad beirniadol fod rhwng 5,000 a 10,000 o eiriau. Dylai’r adolygiad beirniadol osod y gwaith cyhoeddedig yng nghyd-destun llenyddiaeth sydd eisoes ar gael a dylid gwerthuso cyfraniad yr ymchwil yn y gwaith cyhoeddedig a gyflwynir o ran mynd â’r maes ymchwil rhagddo. Dylai’r adolygiad beirniadol ddatgan cydlyniad y gwaith, gan blethu’r gwaith â’r fethodoleg ymchwil a fabwysiadwyd gan yr ymgeisydd.
6.2
Mae’r adolygiad beirniadol o’r gwaith cyhoeddedig yn hollbwysig ar gyfer sefydlu cydlyniad ac ansawdd y cyflwyniad ac felly’r achos dros ddyfarnu’r radd.
6.3
Yn benodol, dylai’r adolygiad beirniadol:
a) dangos sut mae’r gwaith yn gwneud cyfraniad sylweddol a chydlynol at wybodaeth;
b) darparu asesiad o effaith y gwaith sydd yn y cyflwyniad;
c) egluro’r perthnasedd a’r meini prawf ar gyfer dewis unrhyw fethodolegau a ddefnyddiwyd;
ch) amlinellu’r themâu sy’n rhoi’r cydlyniad sy’n diffinio’r gwaith;
d) dangos yn glir swyddogaeth yr ymgeisydd mewn gwaith y mae wedi’i ysgrifennu ar y cyd;
dd) dangos sut mae cyhoeddiadau penodol wedi cael eu teilwra ar gyfer eu cyhoeddi (golygu o ddata arbrofol, er enghraifft);
e) adolygu unrhyw gyhoeddiadau y cyfeirir atynt na chânt eu cynrychioli fel rhan o’r cyflwyniad.
6.4
Dylid rhoi sylw penodol i sicrhau bod ffactorau megis argaeledd data craidd y mae’r gwaith a ddyfynnir yn tynnu casgliadau ohono yn cael eu hystyried yn llawn yn yr adolygiad beirniadol.
7. Swyddogaeth y Cynghorydd
7.1
Bydd Pennaeth Ysgol neu enwebai’r ymgeisydd yn penodi cynghorydd ar gyfer pob ymgeisydd. Rhaid i’r cynghorydd fod yn aelod o staff ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd y cynghorydd yn cefnogi, yn cynghori ac yn arwain yr ymgeisydd drwy’r gwaith o ddrafftio’r adolygiad beirniadol a’r broses o gyflwyno ac archwilio’r gwaith cyhoeddedig.
7.2
Dyma swyddogaeth y cynghorydd:
- cefnogi a chynghori ynghylch datblygu’r adolygiad beirniadol;
- arwain yr ymgeisydd yng nghyswllt cydlyniad y corff o waith a gyflwynir;
- cynnig arweiniad ynghylch paratoi ar gyfer yr arholiad llafar;
- awgrymu arholwyr addas i’r Deon Gweithredol.
8. Asesu
Caiff ymgeiswyr ar gyfer y radd Doethur Athroniaeth drwy Waith Cyhoeddedig eu hasesu drwy arholiad llafar (viva voce).
9. Arholiad Llafar
Dylai PhD drwy Waith Cyhoeddedig adlewyrchu’r un safonau academaidd â’r rheini sydd ar waith ar gyfer PhD ar sail rhaglen gymeradwy o ymchwil wedi’i oruchwylio. Dylai arholwyr asesu cwmpas ac arwyddocâd corff y gwaith cyhoeddedig a dylent ystyried ei gryfderau a’i wendidau.
9.1
Wrth arholi cyflwyniad, dylai’r arholwyr:
a) gwerthuso rhinweddau deallusol y gwaith cyhoeddedig a gyflwynir gan yr ymgeisydd;
b) pennu a wneir achos boddhaol dros gydlyniad rhwng y cyhoeddiadau yn yr adolygiad beirniadol;
c) asesu’r cyfraniad at wybodaeth a gynrychiolir gan y cyhoeddiadau a bod hynny’n amlwg yn yr adolygiad beirniadol;
ch) gwerthuso pa mor fanwl y mae’r ymgeisydd wedi dadansoddi ei g/chyhoeddiadau mewn cyd-destun yn yr adolygiad beirniadol;
d) gwerthuso pa mor briodol yw’r dulliau a ddefnyddiwyd yn yr ymchwil a pha mor gywir y cawsant eu defnyddio;
dd) asesu cyfraniad yr ymgeisydd at ymchwil mewn gwaith aml-awdur a sefydlu ‘perchnogaeth’ yr ymgeisydd dros waith cyhoeddedig o’r fath;
e) pennu gwerthfawrogiad yr ymgeisydd o gyflwr gwybodaeth hanesyddol a phresennol ym maes ymchwil yr ymgeisydd.
9.2
Mewn rhai achosion efallai y bydd yr arholwyr o’r farn nad yw’r gwaith yn cynnwys digon o fanylion i allu llunio rhai o’r casgliadau uchod. Efallai y bydd hyn yn wir gydag erthyglau mewn cyfnodolion pan nad yw polisi cyfnodolyn efallai’n caniatáu cynnwys data manwl. Dylid rhoi sylw i’r diffyg data manwl hyn yn yr adolygiad beirniadol a ddaw gyda chyflwyno’r gwaith cyhoeddedig ac yn yr arholiad llafar. Caiff ymgeiswyr hefyd gynnwys data craidd perthnasol fel atodiadau i’r cyflwyniad.